Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol

Submitted by content-admin on

Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol

Mae’r cynllun hwn yn rhestru’r wybodaeth y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei darparu ac mae’n rhoi manylion ynghylch sut mae cael gafael arni.

Rydym wedi mabwysiadu’r Cynllun Cyhoeddiadau Enghreifftiol sydd wedi’i baratoi a’i gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae’r canllaw ar gyfer y Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol yn ein hymrwymo i wneud gwybodaeth benodol ar gael i'r cyhoedd fel mater o drefn. Mae hefyd yn rhoi manylion ynghylch lle y gellir codi tâl am ddarparu’r wybodaeth.

 

Gofyn am gopïau papur

Mae copïau papur o’r wybodaeth sydd ar ein gwefan ar gael yn rhad ac am ddim, ar yr amod nad yw’r cyfanswm yn fwy na 200 o dudalennau. Pan fydd copïau papur yn fwy na 200 tudalen ar gyfer un cais neu grŵp o geisiadau cysylltiedig, gallwn godi 5 ceiniog y dudalen a phostio yn unol â rheoliadau codi tâl Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gostau cyn darparu’r wybodaeth.

Gellir gofyn am gopïau papur neu wybodaeth a restrir heb hyperddolen drwy'r ffyrdd canlynol:

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch hefyd ysgrifennu atom yn Gymraeg neu’n Saesneg a byddwn yn ymateb yn yr iaith a ddefnyddiwyd gennych. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Byddwn hefyd yn darparu copïau print bras a thapiau sain o eitemau, ar gais, lle bo hynny’n ymarferol.

 

Hawlfraint

Oni nodir yn wahanol: 

  • TrC sy’n dal yr hawlfraint ar gyfer gwybodaeth sydd yn y cynllun cyhoeddi.
  • Gellir lawrlwytho, copïo neu atgynhyrchu’r holl ddeunydd sydd ar gael ar ein gwefan yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng heb orfod cael caniatâd penodol. Mae hyn yn amodol ar atgynhyrchu’r deunydd yn gywir a pheidio â’i ddefnyddio mewn modd difrïol neu mewn cyd-destun camarweiniol. Pan fydd y deunydd yn cael ei gyhoeddi neu ei ddosbarthu i bobl eraill, dylid cydnabod y ffynonellau a statws yr hawlfraint.

O bryd i’w gilydd, gall y cyhoeddiadau ar ein gwefan gynnwys gwybodaeth sy’n dod o dan hawlfraint y Goron, megis; lle rydym wedi atgynhyrchu gwybodaeth a gynhyrchir yn uniongyrchol gan un o gyrff y Goron. Os felly, bydd y cyhoeddiad yn cynnwys datganiad hawlfraint a dylai defnyddwyr gadw at y datganiad hwn a gweithredu’n unol â hynny.

Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi yn yr Archifau Cenedlaethol sy’n rheoli hawlfraint y Goron. I gael canllawiau ar yr amrywiaeth o faterion hawlfraint, ewch i wefan yr Archifau Cenedlaethol.

Nid yw TrC yn derbyn cyfrifoldeb am ddeunydd sy’n cael ei roi ar unrhyw wefannau allanol.  

Os ydych chi’n cynnal neu’n datblygu gwefan, does dim rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu’n uniongyrchol â gwybodaeth sydd ar ein gwefan. Fodd bynnag, ni ddylech gysylltu â gwybodaeth mewn ffordd sy’n camgynrychioli’r canlynol:

  • perthynas â’n sefydliad (unrhyw un o’r cwmnïau o fewn Grŵp TrC – TrC, Rheilffyrdd TrC, Gwasanaethau Arloesi TrC neu Pullman Rail Ltd); 
  • ardystiad gan ein sefydliad, neu 
  • fod cynnwys ein sefydliad yn cael ei gyhoeddi gan unrhyw un ar wahân i ni.

 

Gwybodaeth sydd ddim ar gael eto

Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano drwy’r cynllun hwn, neu fel arall ar y wefan hon, efallai yr hoffech wneud cais i TrC o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR) gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost freedomofinformation@tfw.wales.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

 

1. Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

1.1 Rolau a chyfrifoldebau

Mae TrC yn grŵp nid-er-elw o gwmnïau sy’n cynnwys TrC, Rheilffyrdd TrC, Gwasanaethau Arloesi TrC a Pullman Rail Limited.

 

TrC

Mae TrC ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru, ac mae’n gynghorydd arbenigol ac eiriolwr dros faterion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru.  Rydym yn darparu cyngor technegol i ganiatáu i Lywodraeth Cymru ddatblygu polisi.  Mae popeth a wnawn o fewn fframwaith polisi Llywodraeth Cymru. Nid yw TrC yn gosod polisi nac yn ymarfer unrhyw swyddogaethau statudol ein hunain.

Ein bwriad yw Cadw Cymru i Symud drwy ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.

Mae TrC yn gwbl atebol i Weinidogion Cymru. Mae’r Prif Weinidog wedi rhoi’r prif gyfrifoldeb dros oruchwyliaeth TrC i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

Mae Tîm Noddi TrC Llywodraeth Cymru yn hwyluso’r gwaith o noddi TrC. Prif ffocws llawer o’r rôl noddi yw cefnogi TrC i fod yn sefydliad atebol sy’n perfformio’n dda, gan ddarparu gwasanaethau gwerth am arian fel yr amlinellir yn ein cynllun busnes a chefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hamcanion. Mae strategaeth a gweithgareddau TrC yn seiliedig ar gynnwys Llythyr Cylch Gwaith gan Lywodraeth Cymru sy’n cael ei adlewyrchu yng Nghynllun Corfforaethol a chynllun busnes blynyddol TrC.

Mae gweithgareddau TrC yn cael eu goruchwylio gan Fwrdd Trafnidiaeth Cymru (y Bwrdd). Mae’r Bwrdd yn cynnwys cyfarwyddwyr anweithredol a gweithredol. Mae Cadeirydd TrC yn atebol i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

Mae gan y Bwrdd chwe is-bwyllgor sy’n cynghori’r Bwrdd ar gymeradwyaethau; Archwilio a Risg; Prosiectau Mawr; Iechyd, Diogelwch a Llesiant; Cwsmeriaid a Chyfathrebu; Taliadau a Phobl. Mae pob is-bwyllgor yn cael ei gadeirio gan aelod anweithredol o’r Bwrdd.

 

Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf

Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf yw’r cwmni trenau sy’n gyfrifol o ddydd i ddydd am wasanaethau rheilffyrdd ar draws Rhwydwaith Cymru a’r Gororau. 

 

Gwasanaethau Arloesi Cyf TrC

Mae Gwasanaethau Arloesi Cyf TrC yn fenter ar y cyd rhwng TrC a KeolisAmey, lle mai TrC yw’r prif gyfranddaliwr. Mae’r cwmni’n darparu arbenigedd a gallu arbenigol i sbarduno arloesedd a newid ar gyfer grŵp ehangach TrC, gan eu galluogi i ddarparu system drafnidiaeth aml-ddull integredig ar gyfer pobl Cymru a’r gororau. 

 

Pullman Rail

Mae Pullman Rail yn gweithredu fel cwmni annibynnol sy’n darparu gwasanaethau o dan ei frand ei hun. Gan weithredu o’i depo yn Nhreganna, Caerdydd, mae Pullman Rail yn darparu arbenigedd technegol ar y rheilffyrdd; uwchraddio cerbydau arbenigol; atgyweirio, adnewyddu a chynnal a chadw pob cerbyd rheilffordd sy’n cludo teithwyr neu nwyddau; ac atebion peirianneg.

 

Byrddau ein Cwmni

Mae holl Fyrddau cwmni TrC yn gweithredu’n unol â'r Ddeddf Cwmnïau, Cod Llywodraethu Corfforaethol y DU, Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru a Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol TrC.

Mae pedwar Bwrdd ein cwmni yn gwneud y canlynol:

  • darparu arweinyddiaeth effeithiol; gan ddiffinio a datblygu cyfeiriad strategol a phennu amcanion heriol;
  • sicrhau bod strategaethau’n cael eu datblygu i gyflawni amcanion y cwmni yn unol â’r polisïau a’r blaenoriaethau a sefydlwyd gan TrC ar y cyd â Gweinidogion Cymru, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a rhanddeiliaid perthnasol eraill, er enghraifft gweithwyr, cwsmeriaid a darparwyr cyllid;
  • sicrhau bod y Gweinidog a Thîm Noddi TrC yn cael gwybod yn llawn am unrhyw newidiadau sy’n debygol o effeithio ar gyfeiriad strategol Trafnidiaeth Cymru a ph’un a yw’n bosibl iddo gyrraedd ei dargedau, ac yn cael gwybod am unrhyw gamau sy’n ofynnol i ddelio â newidiadau o’r fath;
  • hyrwyddo safonau uchel yng nghyswllt cyllid cyhoeddus, gan gynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian;
  • sicrhau bod gweithgareddau'r cwmni yn cael eu cynnal yn effeithlon ac effeithiol;
  • sicrhau bod trefniadau bancio yn ddigonol at ei ddibenion;
  • monitro perfformiad i sicrhau bod y cwmni yn bodloni ei amcanion, ei nodau a’i dargedau perfformiad;
  • gwneud penodiadau gweithredol ac anweithredol i Fwrdd y cwmni;
  • sicrhau bod cyfle cyfartal yn cael ei ystyried wrth gymeradwyo polisïau a gwneud penderfyniadau; a
  • sicrhau y rhoddir trefniadau effeithiol ar waith i ddarparu sicrwydd ynghylch rheoli risg, gan gynnwys diogelwch gwybodaeth, llywodraethu, archwilio mewnol, archwilio allanol a rheolaeth fewnol, yn unol â gofynion statudol a rheoleiddio perthnasol a, pan fo hynny’n berthnasol, Codau Ymarfer neu ganllawiau eraill.

Mae rhagor o gyfarwyddiadau ynglŷn â byrddau TrC ar gael yma.

 

1.2 Strwythur y sefydliad

Mae graffig yn egluro strwythur TrC fel grŵp o gwmnïau a’n perthynas â Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol ar gael yma.

Mae Gwasanaethau Arloesi TrC ond yn cynnwys ei Fwrdd Cyfarwyddwyr ac, oherwydd hynny, does dim strwythur o’r sefydliad i’w ddarparu. 

Mae rhagor o wybodaeth am uwch arweinyddiaeth grŵp TrC ar gael yma

Mae manylion am strwythur sefydliad Pullman Rail Limited ar gael ar eu gwefan.

 

1.3 Deddfwriaeth sy’n berthnasol i’n rôl

Mae TrC yn gweithredu’n unol â’r pwerau a’r swyddogaethau a ddarperir yn Adran 1 o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 ynghyd ag Adran 60 (1) (a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  Mae hyn yn rhoi’r pŵer i Weinidogion wneud unrhyw beth sy’n briodol yn eu barn nhw i hybu neu wella llesiant economaidd Cymru.  Yn ychwanegol i hyn, mae Adran 71 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi y caiff Gweinidogion Cymru ffurfio cwmni (megis cwmni hyd braich) i ddarparu gwasanaethau ar eu cyfer neu lle mae hynny wedi’i fwriadu er mwyn hwyluso'r broses o ymarfer unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau, neu os yw gwneud hynny’n ffafriol neu’n gysylltiedig ag ymarfer eu swyddogaethau. 

Bydd rhai o weithgareddau TrC yn dod o dan egwyddorion “Teckal” o ran ei berthynas â Llywodraeth Cymru. Mae’r egwyddorion hyn bellach wedi’u hymgorffori yng nghyfraith y DU drwy Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (Atodiad 3).  Dylai TrC sicrhau ei fod yn cydymffurfio â rheoliadau “Teckal” i'r graddau y maent yn berthnasol iddo.

Bydd TrC yn gweithredu’n unol â Deddf Cwmnïau 2006 ac unrhyw gyfraith cwmnïau yn y DU fel sy’n berthnasol. 

 

1.4 Sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o randdeiliaid.  Rydym yn gweithio’n agos gyda:

  • Amey Infrastructure Wales
  • Network Rail
  • Swyddfa Ffyrdd a Rheilffyrdd
  • Yr Adran Drafnidiaeth
  • Awdurdodau lleol 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma. 

 

1.5 Lleoliadau a manylion cyswllt

3 Llys Cadwyn, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf CF37 4TH

 

2. Faint rydym yn ei wario a sut rydym yn ei wario

2.1 Datganiadau ariannol, cyllidebau ac adroddiadau amrywiant

Mae adroddiadau a chyfrifon blynyddol (amcangyfrif o incwm a gwariant) a’n cynllun busnes ar ein gwefan

 

2.2 Lwfans a threuliau

Mae manylion treuliau’r uwch reolwyr a threuliau Aelodau’r Bwrdd yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.

 

2.3 Gweithdrefnau caffael a thendro

Mae gwybodaeth am ein gweithdrefnau caffael a thendro ar gael ar ein gwefan.

 

3. Ein blaenoriaethau a’r hyn rydym yn ei wneud

3.1 Cynllun Strategol

Mae ein cynllun busnes yn amlinellu ein themâu a’n gweithgareddau busnes. Mae ein cynllun busnes ar gael yma.

 

3.2 Adroddiadau blynyddol

Mae ein hadroddiadau a’n cyfrifon blynyddol, gan gynnwys adroddiadau’r archwilydd allanol ar gael yma.

 

4. Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

4.1 Penderfyniadau mawr

Mae TrC yn gwneud penderfyniadau mewn sawl ffordd:

Bwrdd TrC sy’n bennaf gyfrifol am wneud penderfyniadau yn TrC. Mae ganddo chwe phwyllgor sy’n gwasanaethu’r Bwrdd mewn rôl ymgynghorol. Mae’r Bwrdd yn cadw rhai penderfyniadau iddo’i hun ond fel arall mae wedi dirprwyo awdurdod i’r 

Prif Weithredwr, sydd yn ei dro, wedi dirprwyo rhywfaint o’i awdurdod i:

  • gyfarwyddwyr gweithredol unigol, sy’n gwneud penderfyniadau unigol ac yn defnyddio eu hawdurdod o fewn cwmpas eu rolau.
  • Yr Uwch Dîm Arwain yw’r fforwm y mae’r Prif Weithredwr yn ei ddefnyddio i drafod, monitro a gwneud penderfyniadau gyda’r cyfarwyddwyr gweithredol ar y cyd a sicrhau dull gweithredu cyson ar faterion rheoli a pholisi pwysig. Ar ben hynny, mae’r Uwch Dîm Arwain yn sicrhau bod y strategaeth/cynllun busnes corfforaethol a gwerth am arian yn cael eu goruchwylio. Mae’n cymeradwyo adroddiadau drafft y Bwrdd, yn gwneud penderfyniadau polisi traws-gyfarwyddiaethau allweddol, yn llywio polisïau ac yn monitro ac yn adolygu gwybodaeth gorfforaethol megis y cyfrifon.

Mae gweithgareddau ein holl is-gwmnïau yn cael eu goruchwylio gan Fwrdd o gyfarwyddwyr ac maent yn gweithredu’n unol â'r Ddeddf Cwmnïau, Cod Llywodraethu Corfforaethol y DU, Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru a Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol TrC. Lle bo angen, bydd materion yn cael eu huwchgyfeirio o fwrdd is-gwmni i Fwrdd TrC neu un o’i is-bwyllgorau. 

 

4.2 Cofnodion cyfarfodydd Bwrdd Grŵp TrC

Mae cofnodion pob un o gyfarfodydd bwrdd TrC a Rheilffyrdd TrC Cyf ar gael yma 

 

4.3 Ymgynghoriadau

Bydd manylion llawn unrhyw ymgynghoriadau cyhoeddus yn ymddangos ar ein gwefan

 

5. Polisïau a gweithdrefnau

Mae ein polisïau strategol a’n strategaethau allweddol ar gyfer cyflawni ein swyddogaethau a’n cyfrifoldebau ar gael yma. 

Mae ein datganiad Caethwasiaeth Modern ar gael yma.

Mae gwybodaeth sy’n ymwneud â diogelu data ar gyfer pobl sy’n ceisio am swyddi ar gael yma.

6. Rhestrau a chofrestrau

6.1 Cofrestr Asedau

Mae gwybodaeth am asedau sefydlog yn ein hadroddiad a’n cyfrifon blynyddol.

 

6.2 Cofnod Datgeliadau

Mae ein cofnod datgeliadau yn nodi’r ymatebion rydym wedi’u rhoi i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth.

 

6.3 Lletygarwch a roddir ac a dderbynnir gan staff uwch

Rydym yn cyhoeddi manylion lletygarwch a roddir ac a dderbynnir gan staff Trafnidiaeth Cymru. Mae’r wybodaeth hon ar gael yma

 

6.4 Cofrestr buddiannau

Mae Cofrestr Buddiannau ar gyfer holl aelodau Byrddau TrC ar gael ar y tudalennau cyfatebol ar gyfer pob Bwrdd.  

 

7. Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig

Mae gwybodaeth am yr holl ffyrdd y gallwch chi deithio gyda TrC – gan gynnwys rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol – ar gael yma.

Mae gwybodaeth am holl brosiectau parhaus TrC i wella’r rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru ar gael yma

Mae ein tîm gwasanaeth i gwsmeriaid yn ymateb i’ch holl ymholiadau, pryderon a chwynion. Gallwch chi gysylltu â nhw yma.

Gallwch gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr yma.