Teithio i Gastell Caerffili ar y trên

Station Icon
Yr orsaf agosaf: Caerffili

Location Icon
10 munud o cerdded - gweld y map

 

Dim ond 10 munud ar droed o orsaf drenau Caerffili, mae un o gestyll mwyaf Cymru. 

Adeiladwyd y castell yn 1268, a gyda’i waliau enfawr, ei dwr ar ogwydd a’i ffos, mae hwn yn un o atyniadau enwocaf Cymru. Mae llawer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn y castell bob blwyddyn ac mae’n lleoliad priodas poblogaidd hefyd, felly mae rhywbeth yma i’ch ysbrydoli bob amser. 

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Gastell Caerffili a’i hanes drwy fynd i wefan Cadw.

 

Rydyn ni’n gweithio gyda Cadw i gynnig mynediad i 2 am bris 1 i’w safleoedd hanesyddol. 

Gyda thocyn trên dilys, fe gewch chi ac un person arall 2 docyn mynediad am bris 1 ar yr un diwrnod â’ch taith*; dyma’n ffordd ni o’ch helpu chi i fwynhau diwrnod allan yng Nghastell Caerffili am lai o arian.  

*Telerau ac Amodau perthnasol.

  • Gweler y Telerau ac Amodau:
    • Bydd angen i chi ddangos eich tocyn trên Trafnidiaeth Cymru, sy’n ddilys ar gyfer taith sydd ar yr un diwrnod ag y byddwch yn ymweld ag atyniad Cadw.  Mae’r cynnig 2-am-1 ar gael yn safleoedd Cadw lle rydych yn talu am fynediad, a bydd angen i chi ei adbrynu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn prynu’ch tocyn mynediad. Mae’n rhaid i’ch tocyn TrC fod yn ddilys ar gyfer yr orsaf drên agosaf i’r atyniad a ddewiswch.
    •  
    • Mae'r cynnig hwn yn ddilys tan 31 Mai 2024.
    •  
    • Mae rhagor o wybodaeth am y telerau ac amodau ar wefan Cadw.