Teithio i Gastell Cydweli ar y trên

Station Icon
Yr orsaf agosaf: Cydweli

Location Icon
13 munud o cerdded   - gweld y map

 

Dewch i ryfeddu at weld Castell Cydweli’n codi uwchlaw afon Gwendraeth ar fore niwlog.

Dim ond 11 munud ar droed o orsaf drenau Cydweli yw’r castell hwn sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau o ymwelwyr a haneswyr. Wyddoch chi ei fod yn ymddangos yng ngolygfa gyntaf un ‘Monty Python and the Holy Grail’?  
 
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Gastell Cydweli a’i hanes drwy fynd i wefan Cadw.

 

Rydyn ni’n gweithio gyda Cadw i gynnig mynediad i 2 am bris 1 i’w safleoedd hanesyddol.

Gyda thocyn trên dilys, fe gewch chi ac un person arall 2 docyn mynediad am bris 1 ar yr un diwrnod â’ch taith*. Os teithiwch chi i Gastell Cydweli ar y trên, fe gewch chi 2 docyn mynediad am bris 1.  

*Telerau ac Amodau perthnasol.

  • Gweler y Telerau ac Amodau:
    • Bydd angen i chi ddangos eich tocyn trên Trafnidiaeth Cymru, sy’n ddilys ar gyfer taith sydd ar yr un diwrnod ag y byddwch yn ymweld ag atyniad Cadw.  Mae’r cynnig 2-am-1 ar gael yn safleoedd Cadw lle rydych yn talu am fynediad, a bydd angen i chi ei adbrynu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn prynu’ch tocyn mynediad. Mae’n rhaid i’ch tocyn TrC fod yn ddilys ar gyfer yr orsaf drên agosaf i’r atyniad a ddewiswch.
    •  
    • Mae'r cynnig hwn yn ddilys tan 31 Mai 2024.
    •  
    • Mae rhagor o wybodaeth am y telerau ac amodau ar wefan Cadw.