Bydd llinell Treherbert yn ail-agor i gwsmeriaid ddydd Llun 26 Chwefror 2024 - yn gynharach na’r dyddiad y cyhoeddom yn ddiweddar.

Bydd y gwasanaeth yn dychwelyd i 2 drên yr awr ac yn defnyddio’n trenau Dosbarth 150. Fodd bynnag, o 2024, byddwn yn dechrau cyflwyno’n trenau Dosbarth 756 newydd sbon wrth inni barhau â chamau nesaf Metro De Cymru.

Ni fydd y gwasanaeth yn galw yng ngorsaf Ynyswen gan ei bod ar gau dros dro wrth inni barhau i wneud gwaith seilwaith pwysig yn yr orsaf. Byddwn yn rhedeg dolenbws gwennol tua’r Gogledd i Dreherbert a thua’r De i Dreorci - bydd y gwasanaeth hwn yn cyd-fynd ag amserlen y trên.

Bydd y trenau’n galw yn y gorsafoedd hyn:

Pontypridd, Trehafod, Porth, Dinas Rhondda, Tonypandy, Llwynypia, Ystrad Rhondda, Ton Pentre, Treorci and Treherbert.

Rydym wrthi’n gwneud gwaith trydaneiddio hanfodol ar y llinell ac o ganlyniad i hyn, bydd gwasanaeth bws yn lle trên yn y nos rhwng dydd Sul a dydd Iau, felly rydyn ni’n gofyn i’n teithwyr wirio cyn teithio.

Bydd ein hadnodd gwirio teithiau yn cael ei ddiweddaru gyda’r wybodaeth am fysiau yn lle trenau.

 

Ymestyn gostyngiad 50% tocyn trên Rhondda

Er mwyn diolch i’n cwsmeriaid a’n cymdogion ar ochr y llinell am eu hamynedd drwy gydol y gwaith trawsnewid, byddwn yn ehangu’r cynllun gostyngiad ar docyn Rhondda am 3 mis yn dilyn ail-agor y llinell ym mis Chwefror 2024. Mae’r gostyngiad yn caniatáu i bob teithiwr sy’n teithio ar linell Treherbert dderbyn gostyngiad o 50% ar gost eu tocyn a bydd y gostyngiad ar gael tan ddiwedd mis Mai 2024.

I gael gostyngiad, bydd angen i deithwyr ddangos eu tocyn Rhondda i oruchwylwr y trên ynghyd â’u tocyn trên.

Rhestr o fannau casglu Cardiau Rheilffordd Rhondda a gytunwyd arnynt | Agor ar ffurf PDF

 

  • Amodau defnyddio
      • Mae Tocyn Trên Rhondda yn cynnig 50% oddi ar Bris Tocyn Safonol gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar deithiau o orsafoedd gan gynnwys Treherbert a Threhafod a rhyngddynt.
      • Rhaid bod gan ddefnyddwyr orsafoedd tarddiad/cyrchfan rhwng ac yn cynnwys Treherbert a Threhafod, ac efallai y gofynnir iddynt ddarparu prawf o gyfeiriad i ddilysu tocynnau.
      • Mae’r tocyn trên yn ddilys tan ddiwedd mis Mai 2024 o’r dyddiad y caiff ei brosesu a dim ond ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar lwybrau lleol y gellir ei ddefnyddio.
      • Mae'r tocyn trên hwn yn berthnasol ar deithiau sy'n gyfan gwbl ar reilffordd Treherbert a theithiau rhwng gorsafoedd ar y rheilffordd a gorsafoedd yr holl ffordd i Gaerdydd Canolog.  Nid yw'r tocyn yn ddilys i deithio o orsafoedd y tu allan i ardal llwybr Treherbert a Threhafod.
      • Rhoddir pob tocyn yn unol ag Amodau Teithio National Rail ac nid oes modd eu trosglwyddo.
      • Ni ellir newid tocyn trên sydd wedi'i golli neu ei ddifrodi.
      • Nid yw'r tocyn trên hwn yn ddilys oni bai ei fod wedi'i lofnodi gan y deiliad, ac nid yw ychwaith yn drosglwyddadwy i unrhyw un arall.  Mae tocynnau a brynir gyda cherdyn rheilffordd at ddefnydd deiliad y cerdyn rheilffordd yn unig.
      • Nid yw'r tocyn trên hwn yn eiddo i chi ac os gofynnir amdano rhaid ei roi i Trafnidiaeth Cymru.
  • Dilysrwydd tocynnau gostyngol
      • Caniateir teithio o fewn dilysrwydd arferol y tocynnau a roddir ar yr amod y cedwir cerdyn rheilffordd dilys ac y gellir ei ddangos ar gais.
      • Dim ond ar gyfer teithio ar wasanaethau a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru ar reilffordd Treherbert yn unig y mae tocynnau gostyngol yn ddilys ac nid ydynt yn ddilys pan ddaw'r cerdyn rheilffordd i ben.
      • Yn ogystal ag amodau'r Cerdyn Rheilffordd, mae Amodau Teithio'r Rheilffyrdd Cenedlaethol yn berthnasol i unrhyw daith ar rwydwaith y rheilffyrdd.  Lle mae’r NRCoT yn gwrthdaro ag amodau’r Cerdyn Rheilffordd, bydd NRCoT yn diystyru Amodau’r Cerdyn Rheilffordd.  Mae copïau o’r NRCoT ar gael ar-lein yn nationalrail.co.uk/nrcot neu gan staff yn ein gorsafoedd.