Telerau ac Amodau ar  Gyfer Deiliaid Cardiau

Cyflwyniad

Mae cynllun tocynnau teithio rhatach Cymru [y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel 'y Cynllun'] yn ildio pris tocyn teithio ar gyfer y daith a wneir gan bersonau cymwys.

 

Dyddiad Cychwn

Daw'r telerau defnyddio hyn i rym ar 1 Mehefin 2019 ac maent yn disodli'r telerau defnyddio blaenorol.  Mae'r telerau defnyddio hyn yn berthnasol i ddefnyddio Cardiau Teithio Rhatach waeth a gafodd y Cardiau Teithio Rhatach hynny eu cyhoeddi cyn neu ar ôl i'r telerau defnyddio hyn ddod i rym. 

 

Hawl

Bydd gan ddeiliaid cardiau sy'n meddu ar Gerdyn Teithio Rhatach dilys hawl i gael teithio am ddim ar wasanaethau bysiau lleol cymwys ac ar wasanaethau rheilffyrdd dethol sy'n gweithredu yng Nghymru, fel y’u diffinnir yn trc.cymru/teithio-rhatach-rheilffordd gyda'r eithriadau canlynol;

  • Gall rhai gwasanaethau lleol nad ydynt ar agor i'r cyhoedd sy'n teithio, yn enwedig y rhai sy'n cael eu gweithredu i ysgolion a gweithleoedd, gael eu heithrio drwy gytundeb rhwng Gweithredwyr sy'n Cymryd Rhan a'r awdurdod dyroddi. 

  • Ni chaiff gwasanaethau rheilffyrdd, (nad ydynt wedi'u cynnwys uchod), gwasanaethau bws/rheilffordd i fwydo gwasanaethau eraill sy'n codi tâl sy’n seiliedig ar docyn rheilffordd, gwasanaethau a ddarperir o dan Gytundeb lle y bu toriad dros dro yn y gwasanaeth rheilffordd eu cynnwys yn y Cynllun.

  • Ni chaiff gwibdeithiau a theithiau, gwasanaethau taith i ymwelwyr, gwasanaethau bysus pellter hir, gwasanaethau maes awyr a phorthladdoedd fferi eu cynnwys yn y Cynllun. 

  • Ni fydd unrhyw wasanaethau lle mae'n ymddangos i'r Cyngor bod prisiau'n cynnwys elfen amwynder arbennig, e.e. teithiau lleol, gweld y golygfeydd a gwasanaethau parcio a theithio, yn cael eu cynnwys yn y Cynllun. 

  • Ni fydd gwasanaethau tacsi (heblaw pan fyddant yn gweithredu gwasanaethau bws lleol cofrestredig) yn cael eu cynnwys yn y Cynllun. 

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am eich Cerdyn Teithio Rhatach newydd drwy ymweld â trc.cymru/cerdynteithio

 

Cyfyngiadau Daeryddol

Teithio ar wasanaethau bysiau lleol sy'n gweithredu'n gyfan gwbl yng Nghymru, neu ar y rhai sy'n dechrau/terfynu wrth fannau cyfagos i Gymru, ar yr amod nad yw'r daith drawsffiniol yn golygu newid bws o fewn Lloegr. 

 

Cyfyngiadau Amser

Mae’r Cardiau Teithio Rhatach yn ddilys ar bob adeg o'r dydd o fewn unrhyw wythnos.

 

Catergoriau o Berson Sy'n Gymwys I Gael cerdyn Teithio Rhatach

Rhaid i'r awdurdod dyroddi ddarparu cerdyn i bersonau ("person cymwys") sy'n preswylio yng Nghymru, ac ymddangos i'r awdurdod dyroddi ei fod yn  bodloni'r meini prawf cymhwysedd a ddiffinnir yn y canllawiau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o'r enw "Dull Cyffredin o Ymdrin â Chymhwysedd https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-06/canllawiau-ar-y-cynllun-teithio-rhatach-ar-fws.pdf

Mae'r awdurdod dyroddi yn cadw'r hawl i ganslo unrhyw gerdyn lle nad yw deiliad y    cerdyn yn bodloni unrhyw un o'r gofynion cymhwysedd a nodir yn y canllawiau hyn mwyach. 

 

Dyroddi Cardiau Teithio Rhatach

Mae Cardiau Teithio Rhatach yn ddilys o'r dyddiad y’u derbynnir a byddant yn dod i ben ar y dyddiad a nodir ar y cerdyn. Mae'r awdurdod dyroddi yn cadw'r hawl i ganslo cardiau pan nad yw deiliad y swydd bellach yn bodloni'r gofynion cymhwysedd a bennir ym mharagraff 6. Yn yr achos hwnnw, bydd yr awdurdod dyroddi yn darparu cadarnhad ysgrifenedig bod y cerdyn wedi ei ganslo a'r rheswm dros hynny. 

 

Codi Tal am Gardiau Teithio Rhatach

Bydd y Cerdyn Teithio Rhatach cyntaf yn cael ei ddyroddi am ddim.  Caiff yr awdurdod dyroddi godi tâl am ddyroddi unrhyw Gerdyn Teithio Rhatach newydd, ar yr amod nad yw'r tâl hwnnw'n fwy na'r costau sy'n gysylltiedig â dyroddi’r cyfryw Gerdyn Teithio Rhatach.

Ni fydd yr awdurdod dyroddi yn atebol am unrhyw arian a werir i dalu treuliau yr eir iddynt gan yr ymgeisydd o ran cael a chyflwyno dogfennaeth, gan gynnwys tystiolaeth ffotograffig a/neu feddygol os oes angen, er mwyn penderfynu ar gymhwysedd wrth wneud cais i barhau neu adnewyddu cerdyn.

 

Amodau Ychwanegol Sy'n Rheoli'r Defnydd o Gardiau Teithio Rhatach 

Mae defnyddio Cardiau Teithio Rhatach yn amodol ar yr amodau ychwanegol canlynol: 

  • Mae Cardiau Teithio Rhatach yn bersonol i ddeiliaid y cerdyn ac nid ydynt yn drosglwyddadwy. Bydd gyrwyr yn gwirio'r ffotograff a gallant atafaelu unrhyw Gerdyn Teithio Rhatach nad yw'n cael ei ddefnyddio gan y deiliad cerdyn awdurdodedig. Mewn achosion o'r fath, gall yr awdurdod dyroddi ganslo'r Cerdyn Teithio Rhatach, neu wrthod adnewyddu'r Cerdyn Teithio Rhatach neu roi Cerdyn Teithio Rhatach arall yn y dyfodol i ddeiliad y cerdyn. Gall yr awdurdod dyroddi hefyd gymryd camau cyfreithiol yn erbyn deiliad y cerdyn a allai arwain at ddirwy o hyd at £1,000 o dan Ddeddf Twyll 2006.
  • Os bydd deiliad cerdyn yn colli ei Gerdyn Teithio Rhatach, dylai roi gwybod am golli'r Cerdyn Teithio Rhatach i'r awdurdod dyroddi cyn gynted â phosibl. Gellir rhoi Cerdyn Teithio Rhatach yn ei le, y gellir codi tâl amdano neu beidio.
  • Os caiff Cerdyn Teithio Rhatach ei ddifwyno neu ei ddifrodi, gan ei wneud yn annarllenadwy, rhaid i ddeiliad y cerdyn ddychwelyd y Cerdyn Teithio Rhatach i'r awdurdod dyroddi cyn gynted â phosibl. Gellir rhoi Cerdyn Teithio Rhatach yn ei le, y gellir codi tâl amdano neu beidio.
  • Mae'r Cerdyn Teithio Rhatach yn parhau'n eiddo i'r awdurdod sy'n ei ddyroddi a bydd deiliad y cerdyn yn dychwelyd ei Gerdyn Teithio Rhatach i'r awdurdod dyroddi i’w ganslo;
    • pan nad yw deiliad y cerdyn bellach yn dymuno neu'n methu manteisio ar y consesiynau; neu 
    • pan nad yw deiliad y cerdyn yn berson cymwys mwyach, er enghraifft, oherwydd ei fod wedi newid ei breswylfa i ardal y tu allan i Gymru neu nad yw bellach yn bodloni'r meini prawf i fod yn berson cymwys ar sail anabledd.
  • Pan hysbysir yr awdurdod dyroddi o farwolaeth deiliad y cerdyn, caiff y Cerdyn Teithio Rhatach ei ganslo
  • Rhaid i ddeiliad cerdyn ddangos ei Gerdyn Teithio Rhatach pryd bynnag y gofynnir am daith ratach. Os oes unrhyw docyn yn cael ei roi am siwrnai ratach, rhaid i'r deiliad cerdyn ddangos ei Gerdyn Teithio Rhatach pan gaiff y cyfryw docyn ei archwilio. Mae'n bosibl na fydd y gweithredwr yn derbyn unrhyw Gardiau Teithio Rhatach sydd wedi'u difwyno, eu difrodi neu fel arall yn annarllenadwy.
  • Nid yw meddu ar Gerdyn Teithio Rhatach yn rhoi unrhyw hawliau i ddeiliad y cerdyn y tu hwnt i’r rheiny sydd gan unrhyw deithiwr arall sy'n talu am docynnau.  Mae defnyddio Cerdyn Teithio Rhatach ar wasanaethau cymwys o fewn y Cynllun yn amodol ar gydymffurfiaeth y sawl sy'n dal y cerdyn â'r Rheoliadau Cyffredinol ac amodau teithio gweithredwyr y gwasanaethau hynny.
  • Nid yw'r awdurdod dyroddi yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw fethiant ar ran gwasanaethau bysiau i weithredu neu i weithredwyr dderbyn Cerdyn Teithio Rhatach.
  • Gall y gyrrwr atafaelu cardiau sydd wedi'u rhwystro, sy'n annilys neu sydd wedi dod i ben, oni bai bod amgylchiadau lle byddai hynny'n rhoi person sy'n agored i niwed neu eu hunain mewn perygl.

 

Diffinidau

Bydd gan y geiriau a'r ymadroddion canlynol yr ystyron a nodir: 
Ystyr "Awdurdod" yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru sy'n gweithredu fel awdurdod consesiynau teithio ar gyfer y Cynllun;
Ystyr "Cyngor" yw'r awdurdod yr oedd deiliad y cerdyn yn byw ynddo pan roddwyd y Cerdyn Teithio Rhatach;
Ystyr "Person cymwys" yw'r ystyr a roddir iddo ym mharagraff 6;
Ystyr "Gweithredwr" yw gweithredwr gwasanaethau bysiau yn ardal y Cynllun; 
Ystyr "Cerdyn Teithio Rhatach" yw trwydded consesiynau teithio statudol a roddir yn unol â'r Cynllun;
Ystyr "Deiliad cerdyn" yw person y rhoddwyd Cerdyn Teithio Rhatach iddo yn unol â'r Cynllun;
Ystyr "Awdurdod Dyroddi" yw'r Awdurdod neu unrhyw un y mae'r Awdurdod wedi dirprwyo'r swyddogaeth o roi Cardiau Teithio Rhatach i bobl cymwys, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru a PTI Cymru Ltd; ac
Ystyr "Telerau defnyddio" yw'r telerau a'r amodau hyn ar gyfer defnyddio Cerdyn Teithio Rhatach yn unol â'r Cynllun.