Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 18 Rhagfyr 2019

Submitted by positiveUser on

Cofnodion Bwrdd TrC Rhagfyr 2019

09:30 – 16:30; 18 Rhagfyr 2019

Tŷ South Gate, Caerdydd

Yn bresennol

Scott Waddington (SW) (Cadeirydd); James Price (JP); Heather Clash (HC); Sarah Howells (SH); Nicola Kemmery (NK); Alison Noon-Jones (ANJ); Alun Bowen (AB); Vernon Everitt (VE); Gareth Howells (GH) (eitemau 1-3); a Jeremy Morgan (Ysgrifenyddiaeth). Rick Fisher (Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC) (eitem 1); Andy Carney (eitemau 1-3) a Natalie Rees (eitem 6i).

Sesiwn diweddariad gweithredol (eitemau 5-11): Alexia Course; Geoff Ogden (GO); David O’Leary (DOL); Lewis Brencher (LB); a Lee Robinson (LR).

Ymddiheuriadau: Lisa Yates (LY) a Gareth Morgan (GM).

1. Cyflwyniad ar addasu at y gaeaf a chlirio llystyfiant

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y strategaeth a’r mesurau diweddaraf ar gyfer delio â phroblemau’r gaeaf gan gynnwys uwchraddio timau ymateb o swyddogion gorsaf i Dimau Ymateb y Gaeaf. Bu’r Bwrdd yn trafod manteision posib defnyddio’r cwmnïau graeanu presennol ar gyfer ffyrdd a meysydd parcio yn y gorsafoedd.

Cafodd y Bwrdd eu cyflwyno i system rheoli llystyfiant newydd arfaethedig sy’n defnyddio technoleg fideo deallusrwydd artiffisial i ganfod achosion o goed, llwyni ac ati yn amharu ar y rheilffordd, ynghyd â darparu tystiolaeth o dresmasu. Bydd achos busnes yn cael ei ddrafftio ynglŷn â’i ddefnyddio’n llawn.

Tynnodd y Bwrdd sylw at ba mor anodd yw penderfynu sut gall cwsmeriaid roi gwybod am broblemau fel glendid gorsafoedd.

 

Rhan A – Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

Rhan A – Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

Doedd AB ddim ond ar gael ar gyfer eitemau 1-3 ac ymddiheurodd am weddill y cyfarfod. Dywedodd ANJ y byddai angen iddi adael y cyfarfod cyn amser cinio.

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, rhoddodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod a datgan bod y rhan ffurfiol o’r cyfarfod ar agor.

1c. Gwrthdaro rhwng Buddiannau

Dim wedi’i ddatgan.

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod y Bwrdd ar 20 Tachwedd 2019 yn gofnod gwir a chywir.

2a. Sylw i Ddiogelwch

Yn anffodus, bu farw dynes yn ddiweddar mewn damwain ger gorsaf Pont-y-clun pan gafod ei tharo gan gar. Atgoffwyd y Bwrdd bod angen bod yn ymwybodol o beth sydd o’ch cwmpas bob amser.

2b. Sylw i Gwsmeriaid

Bu’r Bwrdd yn trafod y problemau gorlenwi a fu ar y rhwydwaith y bore ‘ma, problemau a arweiniodd at deithwyr yn cael eu gadael mewn rhai gorsafoedd. Cafodd y Bwrdd wybod am arfer da gan giard GWR ar y gwasanaeth rhwng Llundain a Chaerdydd. Bu’r giard yn rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid bob ychydig funudau yn ystod gwasanaeth hwyr.

3. Perfformiad diogelwch

Mae’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd (RAIB) wedi paratoi ei hadroddiad interim ar y ddamwain angheuol yn gynharach eleni, pan laddwyd dau o weithwyr Network Rail ym Margam. Briffiwyd y Bwrdd am wersi y gellid eu dysgu ynglŷn â chynllunio. Mae RAIB hefyd yn cynnal archwiliad trylwyr o ddiwylliant gweithredol Network Rail a’i effaith ar ymddygiad gweithwyr o ran diogelwch. Croesawodd y Bwrdd ddigwyddiad a gynhaliwyd yn ddiweddar gan TrC ynglŷn â diogelwch lle cafodd staff wybod am ganfyddiadau’r adroddiad interim. Mae TrC wedi bod yn gohebu gydag AKIL er mwyn sefydlu gweithdy ar y cyd i weld sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd i adnabod a lliniaru peryglon ar y rhwydwaith a sicrhau bod y diwylliant cywir yn datblygu yn sgil trosglwyddo Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd.

Cam gweithredu: JM i drefnu bod Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC/AKIL yn dod i gyfarfod o’r Bwrdd i amlinellu eu hymateb i’r materion a godwyd yn adroddiad RAIB.

Roedd chwe anaf a oedd yn hysbysadwy i RIDDOR yn y cyfnod hwn, ynghyd ag un SPAD Categori A. Bydd y rhain yn cael eu harchwilio yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles.

Mae data cymharol cenedlaethol bellach ar gael, a chytunodd y Bwrdd y byddai’n dda o beth adolygu’r data.

Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Bwrdd bod y rhan fwyaf o’r ohebiaeth y mae’n ei derbyn yn ymwneud â gorlenwi. Bu’r Bwrdd yn trafod natur oddrychol y mater a’r angen i ddysgu gwersi gan weithredwyr eraill fel Transport for London.

Cam gweithredu: JP a VE i drafod problemau gorlenwi ar y rhwydwaith, gan ystyried yn benodol sut mae Transport for London yn delio â’r materion hyn.

Gadawodd AB y cyfarfod.

4a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Rhoddodd JP yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd ynglŷn â’r hyn sydd wedi digwydd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd. Mae yna gerrig milltir pwysig wedi’u cyrraedd gan gynnwys Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo trosglwyddo Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd, yr Adran Drafnidiaeth yn rhoi esgusodiad ar fater PRM, a chynnydd o ran sicrhau cerbydau ar gyfer y newidiadau i’r amserlenni ym mis Rhagfyr 2019.

Mae’r perfformiad yn nhymor yr Hydref yn well na’r llynedd, ond mae lle i wella o hyd. Hyd yn hyn, nid ydyn ni wedi gorfod troi olwynion oherwydd y defnydd o offer Amddiffyn Olwynion rhag Llithro. Ond, mae argaeledd craidd yr unedau yn parhau i fod yn annerbyniol ac mae angen trafod hyn gyda Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd. [Wedi ei olygu]

Cafodd y bwrdd wybod bod perfformiad y bysiau yn lle trenau yn siomedig gan fod problemau o ran gwybodaeth leol, ac argaeledd y bysiau ar amseroedd pwysig. Mae’r mater wedi cael ei godi gyda Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC.

Bu’r Bwrdd hefyd yn trafod y cardiau bws rhatach newydd, a bod angen penderfynu pa gamau i’w cymryd pan fydd cwsmer yn ceisio defnyddio hen gerdyn.

Cam gweithredu: LR i ddarparu manylion ar gynlluniau i gwsmeriaid sy’n defnyddio’r hen fath o gerdyn bws rhatach.

Roedd y Bwrdd yn awyddus i ddeall materion yn ymwneud â cherbydau, [wedi ei olygu] ac effaith bosib gwerthu Amey. Gofynnodd y Bwrdd am bapurau a / neu wybodaeth yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Ionawr.

Cam gweithredu: AC i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â cherbydau a [wedi ei olygu] yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Ionawr.

Cam gweithredu: JP i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag effaith bosib gwerthu Amey yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Chwefror.

[Wedi ei olygu]

Gadawodd ANJ y cyfarfod.

4b. Cyllid

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf ar waith y Tîm Cyllid dros y mis diwethaf gan ganolbwyntio ar drosglwyddo Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd, trosglwyddo gwasanaethau arlwyo a [wedi ei olygu]. Cafodd y Bwrdd wybod bod cynnydd da wedi bod o ran y cynllun i leihau’r bwlch cyllido rhwng cyllid Llywodraeth Cymru a chyllideb TrC ar gyfer 2019/20, ond ei bod dal yn bwysig datrys y broblem a gobeithio y caiff hyn ei wneud cyn diwedd yr wythnos. Dywedodd y Cadeirydd ei fod eisiau i’r mater gael ei ddatrys cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd Llywio ar 15 Ionawr 2020.

Bu’r Bwrdd yn trafod yr angen am eglurder o ran cyllido, gan nodi bod hyn yn hanfodol yn enwedig pan mae TrC yn berchen ar asedau Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd.

Cam gweithredu: SW a JP i godi’r mater o eglurder o ran cyllido gyda Llywodraeth Cymru yng nghyfarfod mis Ionawr o’r Bwrdd Llywio.

Cafodd y Bwrdd wybod ein bod yn aros i gael gwybod a fydd TrC yn gallu cael peth o’r TAW yn ôl oddi ar wasanaethau sydd ddim yn ymwneud â busnes. Mae cyfarfod â CThEM wedi’i drefnu ar gyfer 22 Ionawr 2020 i drafod TAW a thriniaeth o ran treth.

£18.2m oedd y gwariant gweithredol ym mis Tachwedd, ac roedd £14.7m ohono’n ymwneud â'r rheilffyrdd ac yn mynd drwodd i'r Partner Gweithredu a Datblygu. £7.4m oedd gwariant cyfalaf ac roedd £6.7m ohono’n ymwneud â Rheilffyrdd. Roedd gan y Fantolen asedau net o £0.7m ar ddiwedd mis Tachwedd (dim newid sylweddol yn y chwarter diwethaf). Nododd y Bwrdd Gyfrifon Rheoli mis Tachwedd 2019.

4c. Diweddariadau is-bwyllgorau’r Bwrdd

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd diweddar y pwyllgorau Archwilio a Risg a Chwsmeriaid a Chyfathrebu. Nid yw’r Pwyllgor Pobl na’r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles wedi cwrdd ers cyfarfod y Bwrdd ym mis.

4c. Yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Bwrdd Llywio

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Cadeirydd am gyfarfod diweddaraf y Bwrdd Llywio, gyda’r rhan fwyaf o’r materion wedi’u cynnwys yn agenda’r cyfarfod hwn.

5. Unrhyw Fater Arall

Dim wedi’i godi.

Rhan B – Sesiwn ddiweddariad gweithrediadol

Alexia Course (AC); Karl Gilmore (KG); Geoff Ogden (GO); David O’Leary (DOL); Lewis Brencher (LB); ac ymunodd Lee Robinson (LR) â’r cyfarfod.

6a. Pris Tendr Terfynol Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y pris tendr terfynol ar gyfer trawsnewid Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd. [wedi ei olygu]

Aeth y Bwrdd ati i [wedi ei olygu] gytuno ar bwysigrwydd dysgu gwersi o brosiect Crossrail sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd.

6b – Y diweddaraf ar brosiect Llan-wern

Nododd y Bwrdd bapur yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Llan-wern sy’n cynnwys Lein Gadw ar gyfer Digwyddiadau Mawr, gorsaf rheilffordd newydd, maes parcio Parcio a Theithio, pont droed a seilwaith cysylltiedig ar dir gerllaw leiniau gwasanaeth Gwaith Dur Tata Llan-wern yng Nghasnewydd.

[Wedi ei olygu] Felly, penderfynodd TrC nad oedd yn gallu cyflawni’n cwmpas presennol o fewn y gyllideb a ddyrannwyd na’r amser a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae TrC wedi cynnig i Lywodraeth Cymru ein bod am adolygu’r cylch gwaith sy’n dal yn cyflawni’r prif amcanion.

Bydd ymarfer i ailosod y llinell sylfaen yn cael ei gynnal ar ôl cwblhau’r gwaith o ail-gwmpasu er mwyn penderfynu ar ragolygon diwygiedig ar gyfer y rhaglen a’r gyllideb. Bydd hyn yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosib yn 2020.

Cytunodd y Bwrdd ei bod yn hollbwysig cynnal diwydrwydd dyladwy ac adolygiadau gateway ar brosiectau sydd eisoes ar waith cyn cytuno i’w derbyn.

6c - Trosglwyddo Asedau Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd a Sefyllfa rhwymedigaethau TrC

Nododd y Bwrdd bapur yn amlinellu (i) dyraniad atebolrwydd ariannol ar gyfer Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd (ii) eglurder cyfrifoldebau (iii) statws parodrwydd gweithredol (iv) sefyllfa ariannol AKIL. Cadarnhaodd y papur y canlynol:

  • bod yr atebolrwydd ariannol sy’n gysylltiedig â throsglwyddo Llinellau Craidd y Cymoedd, ei weithrediad parhaus, cynnal a chadw ac adnewyddu wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy’r Achos Busnes Terfynol, amryw bapurau eraill a chyfraniad at Nodiadau Cyngor Gweinidogol;
  • bod atodlen 3A o’r Cytundeb Grant yn amlinellu goblygiadau’r partïon yng nghyd-destun gweithrediad, cynnal a chadw ac adnewyddu Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd;
  • bod AKIL wedi gwneud cynnydd da ar bob agwedd o barodrwydd gweithredol sy’n rhoi sicrwydd cadarnhaol, gan fod monitro a thracio parodrwydd gweithredol bellach yn brif ffocws cyfarfodydd adolygu wythnosol TrC gydag AKIL;
  • bod TrC wedi ailadrodd cyfres o Brofion Sefyllfa Ariannol a gynhaliwyd ar Riant-gwmnïau’r Partner Gweithredu a Datblygu yn ystod y cyfnod caffael a bod Amey UK plc bellach yn methu tri o’r pedwar prawf yn seiliedig ar eu canlyniadau ariannol ar 31 Rhagfyr 2018. [wedi ei olygu] Mae gan TrC fecanwaith rheoli risg ychwanegol ar waith trwy weithgareddau monitro’r Rheolwr Seilwaith Dewis Olaf drwy gydol cyfnod y contract rheoli seilwaith. Mae TrC a’i gynghorwyr yn parhau i fonitro a dadansoddi sefyllfa ariannol Amey UK. [wedi ei olygu] 

6d - Cyfathrebu

Mae sgorau mynegai’r brand dros y cyfnod blaenorol yn dangos cydberthynas agos â’r perfformiad gweithredol ac er bod y sgôr yn dal yn bositif (0.1) ac yn well na’r llynedd, mae llawer o le i wella.

Mae’r adran farchnata yn parhau i godi ymwybyddiaeth ynglŷn ag adnewyddu cardiau bws rhatach ac yn gweithredu ar hyn, ac mae’r ffigurau diweddaraf ar adnewyddiadau yn awgrymu bod hyn wedi bod yn weddol lwyddiannus.

Cafodd y bwrdd wybod bod llawer llai o gwsmeriaid a rhanddeiliaid y rheilffordd wedi cysylltu o gymharu â’r un cyfnod yn 2018.

Bydd y Panel Cynghori cyntaf yn cyfarfod yn nechrau 2020.

6e - Cynnydd mewn cysylltiad â cherrig milltir

Cytunodd y Bwrdd ar gynllun newydd arfaethedig ar gyfer adnoddau tracio rhaglen a chorfforaethol sy’n ceisio rhoi eglurder ar yr eitemau pwysicaf a mwyaf cymhleth.

6f - PTI Cymru

Bu’r bwrdd yn trafod papur yn amlinellu’r trefniadau presennol a chefndir ‘Gwybodaeth am Drafnidiaeth Gyhoeddus (PTI) Cymru’. Mae PTI Cymru, sy’n masnachu fel Traveline, yn wasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru. Mae disgwyl i’r cyfrifoldeb ariannu dros wasanaethau fel PTI Cymru gael ei drosglwyddo i TrC o Lywodraeth Cymru yn 2020 fel rhan o Raglen Trafnidiaeth Integredig y Dyfodol. Cytunodd y Bwrdd ar argymhellion y papur i ystyried perthynas TrC â PTI Cymru yn y dyfodol.

Cam gweithredu: DOL i symud ymlaen a’r argymhellion yn adroddiad PTI Cymru

[wedi ei olygu]

6h - Cofrestr Risgiau TrC

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am sawl newid i’r gofrestr risgiau ers y cyfarfod diwethaf gan gynnwys risg newydd ynglŷn â threnau Cl768 sy’n cael eu darparu ar gyfer amserlen mis Mai 2020.

6i - Adroddiad Dyletswydd ar Fioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau

Ymunodd NR â’r cyfarfod. Cymeradwyodd y Bwrdd Adroddiad Dyletswydd cyntaf TrC ar Fioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau sydd wedi cael ei gynhyrchu er mwyn cydymffurfio â’r ddyletswydd sef bod rhaid i awdurdodau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi cynllun yn amlinellu’r hyn maen nhw’n bwriadu ei wneud er mwyn cynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu cydnerthedd.

6j - Dangosfwrdd KPI Profiad Cwsmeriaid

Nododd y Bwrdd y data diweddaraf ar y dangosfwrdd KPI Profiad Cwsmeriaid, gyda’r prif bennawd yn cyfeirio at y ffaith fod perfformiad trenau yn cael effaith andwyol ar fodlonrwydd cwsmeriaid.

Cam gweithredu: AC i baratoi adolygiad un dudalen a rhagolwg o berfformiad gweithredol rheilffyrdd ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol

6k - Contract Cyfryngau Hysbysebu

Nododd y Bwrdd bapur yn crynhoi’r contract cyfryngau hysbysebu sydd wedi’i gael yn ddiweddar. Ym mis Chwefror 2019, gofynnwyd i TrC ystyried cais gan Wasanaethau Rheilffyrdd TrC i gymryd perchnogaeth uniongyrchol ar y contract cyfryngau. Cafodd y cais gymeradwyaeth Bwrdd TrC ym mis Mawrth 2019 i gynnal ymarfer caffael . Cafwyd un cais ar gyfer y contract ond nid oedd yn cydymffurfio. Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan ddau ymgeisydd arall, ond fe wnaethon nhw wrthod parhau â’r broses ymgeisio.

O ganlyniad, mae’r cyflwyniad gafodd ei dendro wedi cael ei wrthod a daeth y broses i ben heb ganlyniad. Mae tîm TrC wedi ystyried camau nesaf priodol ar gyfer y broses ac wedi rhoi diwedd ar y diddordeb o ddod â hysbysebu o dan reolaeth TrC. Yn hytrach, byddwn yn ymdrechu i ddarparu amcanion y tendr drwy gontract presennol Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC.

6i - Swyddfa Pontypridd

Cafwyd cymeradwyaeth y Bwrdd i arwyddo’r Cytundeb Prydlesu ar gyfer swyddfa Pontypridd.

6m - Gwybodaeth ddiweddaraf y Cynllun Corfforaethol

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â datblygiad Cynllun Corfforaethol TrC, gyda’r bwriad o’i gyhoeddi yn nechrau 2020.

Cam gweithredu: GO i rannu’r Cynllun Corfforaethol drafft gyda’r Bwrdd er mwyn cael sylwadau

6N - Unrhyw Fater Arall

Hoffai’r Bwrdd ddiolch i dîm TrC am ddelio â sawl tasg fawr a chymhleth dros y flwyddyn ddiwethaf.

Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben, gan ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.