Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 22 Tachwedd 2019

Submitted by positiveUser on

Cofnodion Bwrdd TrC Tachwedd 2019

10:00 – 16:30; 22 Tachwedd 2019

Tŷ South Gate, Caerdydd

Yn bresennol

Scott Waddington (SW) (Cadeirydd); James Price (JP); Heather Clash (HC); Sarah Howells (SH); Nicola Kemmery (NK); Alison Noon-Jones (ANJ); Alun Bowen (AB); Vernon Everitt (VE) (eitemau 6a-6k); Gareth Howells (GH) (eitemau 1-3); a Jeremy Morgan (Ysgrifenyddiaeth).

Sesiwn diweddaru gweithredol (eitemau 5-11): Geoff Ogden (GO); David O’Leary (DOL); Lewis Brencher (LB); Lee Robinson (LR); Gareth Morgan (GM); Lisa Yates (LY); a Kate Avery (KA), Gary Forde (GF) a Phil Rawlings (PR) (eitem 6c). Ymddiheuriadau: Alexia Course a Karl Gilmore.

 

Rhan A – Cyfarfod Llawn o’r Bwrdd

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Vernon Everitt (eitemau 1-5); ymddiheurodd Alexia Course a Karl Gilmore am eitemau 6a-6k.

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod yna gworwm yn bresennol, agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy groesawu bawb yno.

1c. Gwrthdaro rhwng Buddiannau

Dim wedi’u datgan.

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd ar 17 Hydref 2019 yn gofnod cywir a dilys, yn amodol ar rai mân newidiadau ac eglurhad am rôl GH ar y Bwrdd.

Cafodd y bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd mewn perthynas â sawl cam gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Ymunodd GM â’r cyfarfod

2a. Sylw i Ddiogelwch

Hysbyswyd y Bwrdd fod cebl wedi’i daro yn y gwaith yn Ffynnon Taf yn ddiweddar. Dywedwyd wrthynt am gwmni a gafodd ei erlyn am ddigwyddiad tebyg mewn ardal arall yn y DU a arweiniodd at anaf. Er na achosodd y digwyddiad yn Ffynnon Taf unrhyw anaf, nid yw’n golygu y dylid trin digwyddiadau o’r fath yn ysgafn.

Cwblhawyd adroddiad llawn ar y digwyddiad yn Ffynnon Taf. Nododd yr adroddiad sawl mater lle mae camau unioni ac atal yn cael eu cymryd i leihau perygl yn y dyfodol.

2b. Perfformiad diogelwch

Cafodd y bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd sawl cam iechyd, diogelwch a lles o’r cyfarfod blaenorol. Mae camau wedi cael eu cymryd i fapio risgiau ac atebolrwydd diogelwch craidd. Hefyd, cafodd y gofrestr risg ei hadolygu a’i chraffu yng nghyfarfod diweddar y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles. Mae trosolwg o ddeiliaid cyfrifoldeb ac atebolrwydd wedi cael ei fapio, ond cytunwyd y dylai NK a GM ei gadarnhau a’i symleiddio y tu allan i’r cyfarfod. Hysbyswyd y Bwrdd bod TrC yn cynnal cyfarfod rhwng y Gweithredwr a Phartner Datblygu (ODP) a’r holl Bartneriaid Cyflenwi Seilwaith (IDPs) er mwyn atgyfnerthu cyfrifoldebau diogelwch.

Cam gweithredu: NK a GM i gadarnhau mapio’r cyfrifoldebau diogelwch a’i ailgyflwyno er mwyn ei adolygu yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr.

Trafododd y Bwrdd y camau sydd wedi’u cymryd i liniaru digwyddiadau yng nghyswllt rheoli llystyfiant. Roedd hyn yn cynnwys llythyr ffurfiol i Network Rail, ymchwiliadau gan, a chyfarfodydd rhwng, Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC a Network Rail a chreu Grŵp Rheoli Llystyfiant a Grŵp Lleihau Risg. Mae camau wedi’u cymryd mewn sawl ardal i fynd i’r afael â materion o ran coed trydydd parti, adrodd am ddigwyddiadau, a defnyddio technoleg i adrodd yn gyflymach ac i gasglu gwybodaeth. Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i wneud yn siŵr bod dull TrC o reoli llystyfiant yn cael ei fynegi’n glir cyn trosglwyddo Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL). Cadarnhawyd y byddai angen clirio chwe metr, ond bydd rhaid i’r ochrau fod yn sefydlog, a bydd angen sôn wrth trigolion tai sut gallai’r gwaith effeithio arnynt o bosib.

Cam gweithredu: GM i wneud yn siŵr bod dull a pholisi TrC ar gyfer rheoli llystyfiant ar Linellau Craidd y Cymoedd yn cael eu mynegi’n glir.

Trafododd y Bwrdd Gynllun Gwella Diogelwch ar y cyd sydd wedi’i greu gan Wasanaethau Rheilffyrdd TrC a Network Rail. Mae’r cynllun yn cynnwys croesfannau rheilffordd, trên yn pasio signal stop, damweiniau teithwyr a chyfathrebu. Hysbyswyd y Bwrdd am y posibilrwydd o ddefnyddio technoleg rhith-wirionedd i addysgu ysgolion am beryglon trydaneiddio.

Wrth nesáu at gyfnod trosglwyddo’r gwasanaethau arlwyo, mae asesiadau o’r gweithle wedi’u cynnal yng nghanolfannau gwasanaeth Casnewydd, Caerfyrddin a’r Amwythig. Byddwn yn cymryd camau i foderneiddio lle bo angen. Byddwn yn cynnal Archwiliadau Safonau Bwyd, ond nid oes modd gwneud gwaith ffisegol tan y gall TrC gael mynediad at y canolfannau o 5 Ionawr 2020 ymlaen.

Cynhaliwyd ymweliad â Sheffield Tram er mwyn deall yr heriau a wynebir o ran hyfforddi a chymhwyso gyrwyr. Cynhelir ymweliad dilynol gan Croydon Trams ar 19 Tachwedd.

Hefyd, hysbyswyd y Bwrdd am y cynnydd at gyflawni’r Safon Iechyd Corfforaethol; y Grŵp Llywio Rheoli Gorflinder; a briffio diogelwch mewnol bob mis.

Cafodd un SPAD Categori A ei riportio yn y cyfnod blaenorol a thri damwain riportio RIDDOR a achosodd anaf i weithiwr.

Holodd y bwrdd a oedd asesiadau wedi’u gwneud i weld a oedd yr un bobl yn cael eu targedu o ran ymosodiadau. Cadarnhawyd nad oedd patrwm i’r digwyddiadau a bod alcohol yn ffactor cyffredin fel arfer. Hysbyswyd y Bwrdd bod camerâu cyrff yn dechrau cael eu defnyddio gyda’r bwriad o’u cyflwyno i bob un aelod staff ar y trenau.

Gadawodd GM y cyfarfod.

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Rhoddodd DP grynodeb o’i farn am y busnes dros y mis diwethaf. Ar hyn o bryd, mae perfformiad yr Hydref yn well na’r adeg hon y llynedd gyda 60% yn llai o broblemau olwynion fflat. Mae’n ymddangos bod y mesurau atal a fabwysiadwyd ar gyfer eleni yn gweithio. Ond, gallai argaeledd y fflyd fod yn well ac mae rhai amrywiadau dyddiol sylweddol wedi bod. Fodd bynnag, nodwyd mai dim ond am un diwrnod yr oedd argaeledd y fflyd yn isel a bod yr ymateb yn gwella. Yn gyffredinol, mae’r amser y mae teithwyr yn ei golli (ATG) yn waeth na'r targed, ond mae’n ymddangos bod hyn yn gysylltiedig ag argaeledd a seilwaith cyffredinol yr uned ac nid yw’n cael ei yrru gan berfformiad tymor yr Hydref. Mae gan Wasanaethau Rheilffyrdd TrC gynllun ar waith i ddelio ag ATG.

Mae’r cynlluniau i gyflwyno amserlen mis Rhagfyr yn datblygu. Hyd yn oed gyda’r heriau sy’n ymwneud â fflyd newydd, dylai fod modd ei gyflawni. Mae cyfarfod diweddar gyda Porterbrook ynglŷn â C1769s wedi arwain at y tebygolrwydd y bydd dwy uned yn cael eu defnyddio cyn mis Rhagfyr.

Mae gwaith sylweddol o hyd wrth reoli AKIL a Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC er mwyn iddynt fod yn barod i ddechrau'r broses o waredu Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae’r gwaith o ran y cynllun gwreiddiol yn parhau ac mae cynllun wrth gefn yn cael ei ddatblygu hefyd.

[Wedi ei olygu]

Mae’r rhaglen i adnewyddu cardiau teithio rhatach ar fws yn datblygu’n dda ac mae’n debygol y bydd dros 500,000 o gardiau wedi cael eu prosesu cyn diwedd mis Tachwedd. Pwysleisiwyd, er bod cynnydd da wedi’i wneud, bydd angen rheoli cyfraniad TrC yn y dyfodol.

Hysbyswyd y bwrdd am y trafodaethau sy’n parhau â Llywodraeth Cymru ynghylch y bwlch rhwng gweithgareddau TrC (fesul cais gan Lywodraeth Cymru) a nodwyd yn y llythyr cylch gwaith ym mis Ebrill a'r cyllid cysylltiedig. Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i roi mewnwelediad yng nghyswllt y rhagolygon a’r cynllun ariannu gwreiddiol. Mae cynllun gweithredu wedi’i drafod â Llywodraeth Cymru i gau’r bwlch cyllido drwy opsiynau ac atebion amrywiol.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i gael cyngor trydydd parti ynghylch cynllunio a gweithredu’r gwaith trawsnewid ar Linellau Craidd y Cymoedd. Gofynnodd y Bwrdd am adborth ar y gwaith hwn yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr.

Cam gweithredu: JP i roi adborth am gyngor trydydd parti sy’n craffu ar integreiddio a gweithredu cynllun trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd

3b. Cyllid

Mae’r tîm cyllid yn dal i weithio ar draws sawl gweithgaredd allweddol. Cafodd y Bwrdd eu briffio am waith y tîm o ran trosglwyddo Llinellau Craidd y Cymoedd, trosglwyddo’r gwasanaeth arlwyo, y gwasanaeth cyflogres newydd, a’r llwyfan e-borth a’r rhaglen Trafnidiaeth Integredig y Dyfodol (FIT). Nododd y Bwrdd:

  • Mae defnyddio Dadansoddeg BI ar gyfer adrodd yn parhau i ddatblygu (gyda’r llwyfan azure wedi’i sefydlu a’r gwaith yn dechrau ar y warws data)
  • Mae’r Tîm Cyllid yn hollol barod nawr
  • Mae gweithgaredd archwilio mewnol yn parhau ar gyflymder gan ddefnyddio adnoddau Llywodraeth Cymru (ar waith), ac adnoddau trydydd partïon eraill ar gyfer meysydd arbenigol
  • Erbyn hyn, mae tendr y gwasanaethau cyflogres wedi’i chwblhau a’i chymeradwyo, gan symud ymlaen i’r cam gweithredu er mwyn galluogi slipiau cyflog electronig drwy’r porth.
  • Mae trosglwyddo asedau Llinellau Craidd y Cymoedd (TOGC ac os yw’n amodol ar dreth), dyrannu costau canolog a Digideiddio'r Dreth yn eitemau sydd ar y gweill hefyd.

Yng nghyswllt gwariant, roedd gwariant ar adnoddau ym mis Hydref yn £17.9m ac roedd £15.9m ohono yn ymwneud â'r Rheilffyrdd a throsglwyddo i’r Gweithredwr a Phartner Datblygu. Roedd Gwariant cyfalaf yn £7.4m ac roedd 94% ohono’n ymwneud â Rheilffyrdd. Nododd y Bwrdd tanwariant y gyllideb oherwydd y rhagdybiaeth wreiddiol y byddai’r ased CVL yn trosglwyddo ym mis Medi 2019. Nododd y Bwrdd ostyngiad o £5-6m o ran gwariant yn ymwneud â phrosiectau tybiannol a’r rhai nad oedd wedi’i ymrwymo iddynt. Erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno y bydd unrhyw weithgaredd prosiect y tu allan i'r cylch gwaith yn cael ei yrru gan archebion prynu.

Nododd y Bwrdd gynnwys y briff cyllid a’r cyfrifon rheoli ar gyfer mis Hydref 2019.

3c. Diweddariad am yr is-bwyllgorau

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd is-bwyllgorau Bwrdd TrC. Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles gyfarfod yn ddiweddar, gyda’r rhan fwyaf o’r materion yn cael sylw yn eitem 2b. Cytunodd y Bwrdd y byddai VE yn cymryd lle AB ar y Pwyllgor.

Mewn cyfarfod diweddar, adolygwyd y data sydd ar gael gan y Pwyllgor Cwsmeriaid a Chyfathrebu; dylid rhoi sylw i dueddiadau dros amser er mwyn ei wneud yn fwy ystyrlon ar gyfer adrodd yn ôl. Adroddodd SH ei fod wedi bod yn derbyn diweddariadau wythnosol am gyswllt â chwsmeriaid bysiau.

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Risg i fod i gyfarfod yng nghanol mis Rhagfyr. Nododd AB yr hoffai weld yr amserlen ar gyfer llunio’r adroddiad blynyddol.

Cam gweithredu: HC i gyflwyno’r amserlen ar gyfer cynhyrchu’r adroddiad blynyddol drafft yng nghyfarfod Pwyllgor Archwilio a Risg ym mis Rhagfyr.

Nid yw’r Pwyllgor Pobl wedi cyfarfod ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd. Bydd y cyfarfod nesaf yn trafod papur ar godiadau cyflog blynyddol.

3d. Yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Bwrdd Llywio

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Cadeirydd am gyfarfod diwethaf Bwrdd Llywio TrC ar 25 Hydref. Roedd yr eitemau a drafodwyd yn cynnwys cymorth refeniw, trosglwyddo asedau Llinellau Craidd y Cymoedd a strategaeth Llywodraeth Cymru.

Mae’r Bwrdd Llywio wedi cytuno ar gylch gorchwyl diwygiedig sydd wedi’i gymeradwyo gan Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru, a fydd yn cadeirio’r cyfarfodydd deufisol.

Adroddodd SW ei fod ef a JP wedi cyfarfod â’r Arglwydd Burns yn ddiweddar ynghylch gwaith Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru.

4. Unrhyw Fater Arall

Dim.

5. Codiad cyflog blynyddol

Cytunodd y Bwrdd i godi cyflog blynyddol dau Gyfarwyddwr TrC yn unol â'r broses ar gyfer pobl eraill yn y sefydliad sy’n derbyn codiad blynyddol fel y cytunwyd yn flaenorol gan Uwch Dîm Arwain TrC.

Ymunodd DOL, GO, GM, LB, LR, LY, KA, PR a GF â’r cyfarfod, a VE (dros y ffôn).

6. Diweddariad am Linellau Craidd y Cymoedd

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa bresennol trosglwyddo asedau Llinellau Craidd y Cymoedd gyda’r nodiadau mewn papur ategol. Ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd, mae’r tîm wedi cynnal rhagor o waith diwydrwydd dyladwy ar y dewisiadau sydd ar gael i hwyluso’r broses trosglwyddo [wedi ei olygu].

Trafododd y Bwrdd faterion ynghylch indemniad a sefyllfa'r rhwymedigaethau ariannol yn y ddau gynllun. Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i fod yn barod cyn trosglwyddo.

Cam gweithredu: VE, Chris Gibb a thîm trosglwyddo Llinellau Craidd y Cymoedd i asesu’r parodrwydd cyn trosglwyddo ar 3 Rhagfyr.

Trafododd y Bwrdd ofynion AKIL i brynu rhai gwasanaethau (dadleuol ac annadleuol) gan Network Rail o ddechrau’r broses trosglwyddo Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae AKIL wedi gofyn am ryddhad o wasanaeth gwael a sawl eitem arall gan Network Rail am gyfnod o flwyddyn. Rhannodd y Bwrdd bryder am gais o’r fath, ond gofynnwyd am fwy o fanylion ynghylch y meysydd lle byddai AKIL yn dibynnu ar Network Rail. Ni chytunodd y Bwrdd ar ddim un ohonynt a gwnaethant gais i ddeall mwy ac i gynnal adolygiad â’r Cadeirydd.

Cam gweithredu – GF i roi manylion i’r Bwrdd am ba feysydd fydd AKIL yn dibynnu ar Network Rail yn syth ar ôl trosglwyddo Llinellau Craidd y Cymoedd, a lle gallai’r risg ddisgyn i TrC.

Cam gweithredu: GF a PR i lunio papur drafft am rôl a chylch gwaith yr ‘adroddwr annibynnol’ gan gynnwys amserlenni adrodd.

Gadawodd PR a GF y cyfarfod.

6b. Parodrwydd i drosglwyddo’r gwasanaeth arlwyo

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am drosglwyddo’r gwasanaethau arlwyo ar drenau. Mae’r prosiect wedi gwneud cynnydd da ac mae bron popeth yn barod ar gyfer trosglwyddo yn y flwyddyn newydd. Mae trosglwyddo cyflogau staff wedi cael ei feincnodi ac mae’n cymharu’n ffafriol ar draws y diwydiant, gyda’r staff yn elwa o delerau ac amodau gwell megis tâl salwch, mwy o wyliau a chyfraniadau pensiwn hefyd.

Gadawodd KA y cyfarfod.

6c. Adnewyddu cardiau teithio rhatach ar fws

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y cynnydd o ran adnewyddu’r cardiau teithio rhatach ar fws. Hyd yma, mae 412,000 o gardiau wedi cael eu hadnewyddu, ac mae’n debyg y bydd tua 500,000 o gardiau wedi’u hadnewyddu erbyn diwedd mis Tachwedd. Dylai hyn gwmpasu'r rhan fwyaf o’r defnyddwyr gweithredol. Mae TrC wedi derbyn tua 22,000 o geisiadau ar bapur hefyd. Nid yw'r rhain wedi cael eu prosesu eto, ond hysbyswyd y Bwrdd y bydd proses i ddelio â’r rhain yn weithredol cyn bo hir.

Trafododd y Bwrdd rhai o’r heriau sy’n weddill. Gan fod y broses adnewyddu yn datblygu’n dda, bydd angen troi sylw at y tymor hir ac at yr angen i Lywodraeth Cymru egluro rôl TrC yn y dyfodol o ran cardiau teithio rhatach ar fws ar ôl 31 Mawrth 2020, pan fydd cytundeb yr asiantaeth yn dod i ben. Mae TrC wedi llunio rhagolygon ariannol ac wedi gofyn am gyllid hyd at ddiwedd mis Ionawr gan Lywodraeth Cymru, ac os bydd Llywodraeth Cymru angen i TrC barhau gyda’r cardiau teithio rhatach ar fws yn y flwyddyn ariannol hon ar ôl mis Ionawr 2020, yna, bydd angen iddynt ddarparu rhagor o arian gan gynnwys cytundeb i gynyddu’r cylch gwaith.

6d. Gweledigaeth ar gyfer bysiau

Nododd y Bwrdd bapur a ddrafftiwyd gan TrC i gefnogi papur cabinet gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu datganiad gweledigaeth drafft ar gyfer gwasanaethau bws yng Nghymru. Nododd y Bwrdd y papur.

6e. Asesu prosiectau mawr / Bwrdd Newidiadau

Ystyriodd y Bwrdd bapur yn amlinellu’r cynlluniau ar gyfer dull arfaethedig i asesu prosiectau ‘mawr’ yn Trafnidiaeth Cymru ac ar gyfer sefydlu trefn llywodraethu addas. Fel is-bwyllgor Uwch Dîm Arwain TrC, mae’r ‘Bwrdd Newidiadau’ i fod i gyfarfod am y tro gyntaf ar 3 Rhagfyr a byddant yn cyfarfod bob tair wythnos. Bydd y Bwrdd Newidiadau yn ceisio sicrhau bod trefniadau llywodraethu addas a digonol ar waith i ddeall ac i reoli’r risg sy’n gysylltiedig â phrosiectau a rhaglenni ar draws TrC. Nododd y Bwrdd y papur a thrafod ei rôl bosibl yn y maes hwn.

6f - Cofrestr Risg TrC

Trafododd y Bwrdd bedwar o fân newidiadau i gofrestr risg strategol TrC. Gofynnodd y Bwrdd am adolygiad o’i risgiau diogelwch o ran TG. Nodwyd bod archwiliad mewnol ar y mater hwn wedi cychwyn yn ddiweddar.

6g - Dangosfwrdd KPI Profiad Cwsmeriaid

Trafododd y Bwrdd y Dangosfwrdd Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI) ar Brofiad Cwsmeriaid. Roedd sgoriau Wavelength ar goll gan fod problemau gyda’r setiau data. Mae’r sgôr bodlonrwydd cyffredinol yn dangos bod llawer o waith i’w wneud o hyd. Mae cwynion am bob 100,000 o deithiau yn dal yn uchel, ond amlygwyd bod y sgoriau yn dilyn tueddiad tebyg i ganfyddiadau’r brand a pherfformiad gweithredol.

6h - Cynnydd mewn cysylltiad â cherrig milltir

Trafododd y Bwrdd yr Adnoddau Tracio Cerrig Milltir Corfforaethol a Rhaglenni. Yn benodol, rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y rhaglen Trafnidiaeth Integredig y Dyfodol (FIT). Penodwyd Rheolwr Rhaglen ar y cyd (Llywodraeth Cymru a TrC) ar gyfer y prosiect. Nododd yr Adolygiad o'r Porth a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf bum argymhelliad hollbwysig ac mae camau yn cael eu cymryd mewn ymateb i’r argymhellion hyn. Ond nodwyd yn gyffredinol bod TrC mewn sefyllfa dda i dderbyn swyddogaethau a gweithgareddau pellach.

6i - Cynllun Corfforaethol

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am gynnydd y Cynllun Corfforaethol a chytunwyd i’r newidiadau arfaethedig i Weledigaeth a Diben TrC, ar yr amod y bydd yn cytuno i roi cyfieithiad Cymraeg mwy addas i ‘proud’ yn y datganiad gweledigaeth; a phrofi'r Weledigaeth, y Diben a'r Amcanion Strategol gyda thîm ehangach TrC. Gofynnodd y Bwrdd am adborth yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr.

Cam gweithredu: LB i wirio’r cyfieithiad Cymraeg o’r gair ‘proud’ yn y datganiad gweledigaeth a’i newid yn unol â hynny.

6j - Clirio Llystyfiant, Rheoli a Ffensio ar gyfer Trosglwyddo Llinellau Craidd y Cymoedd

Cymeradwyodd y Bwrdd y dylid bwrw ymlaen â chaffael fframwaith o gyflenwyr i glirio llystyfiant ac i ffensio ar rwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd er mwyn galluogi’r rhaglen i drosglwyddo Llinellau Craidd y Cymoedd a’r gwaith cynnal a chadw parhaus. Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i wneud yn siŵr bod gan y contractwyr sydd ar y fframwaith achrediadau priodol o ran diogelwch.

6k - Cyfathrebu

Roedd gostyngiad cyffredinol yn yr argraffiadau brandio dros y cyfnod diwethaf. Gostyngodd i +2.2 sy’n cyd-fynd â gostyngiad cyffredinol mewn perfformiad gweithredol o ganlyniad i dymor yr Hydref ac effaith hynny ar brofiad cwsmeriaid.

Mae ymgyrch farchnata ar adnewyddu cardiau teithio rhatach ar fws yn fyw ledled Cymru gan gynnwys ar y radio, yn y cyfryngau print, yn yr awyr agored a thrwy weithgareddau rhanddeiliaid. Bydd ymgyrch i atgoffa pobl sydd heb adnewyddu eu cardiau yn cael ei lansio. Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y gwaith diweddar gyda Thasglu’r Cymoedd.

Cam gweithredu - LB i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am Saernïaeth Gynghorol yng nghyfarfod mis Rhagfyr.