Popeth mae angen i chi ei wybod am deithio ar ein trenau

  • Ydw i’n cael mynd â beic ar drên?
    • Cewch, serch hynny, gan mai hyn a hyn o le sydd ar ein trenau, mae’n syniad da iawn eich bod yn archebu lle mor fuan â phosibl ac yn cadw lle i’ch beic wrth brynu'ch tocyn.

      Sylwer, ar rai llwybrau lleol yn y Cymoedd a Chaerdydd ni ellir mynd â beiciau ar drenau yn ystod oriau brig. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.

       

      A oes unrhyw adegau pan nad ydw i’n gallu mynd â beic ar drên?

      Ni chewch fynd â beic ar drên:

      1. Pan fydd gwaith peirianneg, ni fyddwch yn cael mynd â'ch beic ar wasanaethau bws pan na fydd trên ar gael.
      2. Ar rai llwybrau yn y Cymoedd a Chaerdydd chewch chi ddim mynd â beiciau ar drenau yn ystod oriau brig.
      3. Os nad ydych wedi archebu lle ar gyfer eich beic ac nad oes lle ar y trên.

      Mae rhagor o fanylion ar gael yma.

       

      Pam nad ydych chi'n rhoi mwy o le i feiciau?

      Cafodd y rhan fwyaf o'n trenau eu hadeiladu gyda lle ar gyfer hyd at ddau feic. Rydym wedi cynyddu nifer y trenau sy'n cludo beiciau; ac mae archebu lle i feiciau yn rhad ac am ddim. Gyda lle yn brin rydym o'r farn bod archebu lle yn hollbwysig ar gyfer trenau sy’n teithio’n bell, er mwyn sicrhau bod teithwyr â beiciau yn cael teithio ar y trên maen nhw’n ei ddewis. Mae cynnig mwy o le ar ein fflyd o drenau ar hyn o bryd yn golygu cael gwared ar seddi, a ddefnyddir yn ystod oriau brig ac mae'n rhaid i ni gydbwyso dymuniadau'r teithwyr hynny sydd ddim yn defnyddio beic, ond sy'n dymuno cael sedd.

  • A allaf fynd â fy E-Sgwter ar drên?
    • Na, ar hyn o bryd nid ydym yn caniatáu E-Sgwteri ar ein gwasanaethau oherwydd pryderon diogelwch

      Sylwch, fodd bynnag, rydym yn caniatáu beiciau pedal â chymorth trydan (e-feiciau) ar ein gwasanaethau o dan yr un telerau â chylchoedd pedal safonol gan fod gan y rhain safonau gweithgynhyrchu uwch nag E-Sgwteri.

  • Ydw i’n cael mynd â fy nghath neu unrhyw anifail bach arall ar drên?
    • Anifeiliaid ar fwrdd

      Mae teithwyr yn cael mynd â chath neu anifeiliaid bach eraill gyda nhw (dau ar y mwyaf i bob teithiwr), am ddim, yn amodol ar yr amodau isod, ar yr amod nad ydyn nhw'n peryglu nac yn achosi anghyfleustra i deithwyr na staff.

      Rhaid cario cathod neu unrhyw anifeiliaid bach eraill mewn basged gaeedig, cawell neu gludwr anifeiliaid anwes. Rhaid iddo fod yn galed ac yn gaeedig (i’w atal rhag dianc) a bod yr anifail yn gallu sefyll a gorwedd yn gysurus.

      Rhaid i anifeiliaid a’r hyn sy’n eu dal beidio â mynd â sedd rhywun arall, neu fel arall, bydd yn rhaid talu.
      Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan National Rail.

  • Ydw i’n cael mynd â fy nghi ar drên?
    • Mae teithwyr yn cael mynd â chi gyda nhw (dau ar y mwyaf i bob teithiwr), am ddim, yn amodol ar yr amodau isod, ar yr amod nad ydyn nhw'n peryglu nac yn achosi anghyfleustra i deithwyr na staff.

      • Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser oni bai eu bod mewn basged.
      • Rhaid cludo cŵn heb dennyn mewn basged gaeedig, cawell neu gludwr anifeiliaid anwes. Rhaid iddo fod yn galed ac yn gaeedig (i’w atal rhag dianc) a bod yr anifail yn gallu sefyll a gorwedd yn gysurus.

      Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

       

      Oes rhaid i fi dalu i fynd â fy nghi ar drên?

      Nac oes, mae cŵn yn cael teithio am ddim. Rhaid i gŵn beidio â mynd â sedd rhywun arall, neu fel arall, bydd yn rhaid talu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

       

      Alla’ i fynd â’m ci ar y gwasanaeth bysiau?

      Fel arfer ni chaniateir cŵn ar y gwasanaethau bysiau sy'n rhedeg yn lle’r trenau, ac eithrio cŵn tywys.

  • Sut ydw i’n mynd ar y trên neu oddi arno mewn safle ar gais?
    • Beth yw safle ar gais?

      Mae ein safleoedd ar gais yn orsafoedd rheilffordd lle bydd trenau’n stopio dim ond os bydd cwsmer eisiau mynd ar drên neu oddi arno. Mae hyn yn ein galluogi i leihau amseroedd eich teithiau drwy beidio â stopio’n ddiangen mewn gorsafoedd sydd fel arfer â llai o deithwyr.

      Y ffordd hawsaf o gael gwybod a yw eich gorsaf yn safle ar gais yw i weld eich taith ar ap TrC. Byddwch yn gweld ‘stopio ar gais’ o dan safleoedd ar gais. Byddwch hefyd yn clywed cyhoeddiad yn rhai o’n gorsafoedd trenau os bydd trên sy’n gadael yn galw wrth unrhyw safleoedd ar gais. 

       

      Mae angen i mi fynd oddi ar y trên mewn safle ar gais

      Rhowch wybod i’r goruchwyliwr mewn da bryd pan fyddwch chi wedi mynd ar y trên. Os yw’r trên yn brysur iawn, gallwch chi wneud hyn ar y platfform cyn i chi fynd ar y trên. Bydd y goruchwyliwr yn trefnu bod y trên yn stopio yn eich gorsaf gyda’r gyrrwr.

       

      Mae angen i mi fynd ar y trên mewn safle ar gais

      Wrth i’r trên nesáu at yr orsaf, bydd angen i chi ddangos i’r gyrrwr eich bod am i’r trên stopio drwy godi eich llaw. Peidiwch â phoeni, bydd y trên yn dod at safleoedd ar gais yn araf, er mwyn rhoi digon o amser i’r gyrrwr eich gweld a dod â’r trên i stop yn ddiogel.

       

      A fydd y trên bob amser yn stopio os gofynnir amdano?

      Ar rai adegau, efallai na fydd trên wedi’i amserlennu i stopio mewn gorsaf, neu ond yn stopio er mwyn i deithwyr allu mynd oddi ar y trên. Tarwch olwg ar eich taith ar ap TrC i weld a oes trên wedi’i amserlennu i stopio yn eich gorsaf.

       

      Does gen i ddim yr ap a hoffwn gael rhagor o wybodaeth

      Mae rhestr o safleoedd ar gais ar gael ar ein Porth Wi-Fi ar y trên. Os nad oes gennych chi ddyfais sydd â Wi-Fi wedi’i alluogi, siaradwch â’ch goruchwyliwr ar y trên neu cysylltwch â ni drwy ddilyn y ddolen isod. Byddwn yn fwy na pharod i helpu.

  • Oes wi-fi ar eich trenau?
    • Mae cysylltiad WiFi am ddim ar rhan fwyaf o'n gwasanaethau rheilffordd.

      Mae'r gwasanaeth WiFi, gan ddibynnu os oes gwasanaeth rhwydwaith symudol ar gael, yn caniatáu i deithwyr wneud tasgau fel pori’r we, cael mynediad i apiau a bwrw golwg ar e-byst.

      Dyma'r trenu sydd heb Wifi. Rydym yn y proses o osod Wifi ar y trenau canlyniol:

      Dosbarth 153 - rhedeg ar reilffyrdd Calon Cymru, Gorllewin Cymru, Dyffryn Conwy, Lein y Ddinas a Bae Caerdydd.

      Dosbarth 170 - rhedeg rhwng Maesteg a Cheltenham.

      Mae’r manylion llawn ar gael yma.

  • Beth gallwch chi ddod gyda chi ar y trên
    • Teithio â bagiau neu anifeiliaid anwes?

      Gallwch chi ddod â hyd at dair eitem bersonol ar ein trenau am ddim – yn cynnwys hyd at ddwy eitem fawr (fel cês neu fag cefn) ac un bag llaw, bag cefn neu fag dogfennau llai.

      Mae cadeiriau olwyn (hyd at faint penodol), pramiau sy’n plygu, caricot a beiciau i gyd yn cael eu caniatáu ar ein trenau. Mwy o wybodaeth am feiciau ar y trên.

      Gallwch chi hefyd ddod â chŵn, cathod ac anifeiliaid bach eraill (dim mwy na dau fesul teithiwr) ar yr amod nad ydynt yn peryglu neu’n peri trafferth i gwsmeriaid eraill neu i’r staff. Yn ystod gwaith peirianyddol, ni chaniateir cŵn ar y gwasanaethau bysiau sy'n rhedeg yn lle’r trenau, ac eithrio cŵn tywys.

      Os oes gennych chi ormod o fagiau, neu eitemau mawr dros fetr o hyd, byddwn yn gallu cludo’r rhain o bosib, os oes digon o le. Yn ystod gwaith peirianyddol, does dim modd i chi ddod ag eitemau mawr ar y bysys sy’n cael eu defnyddio yn lle’r trenau.

       

      Sgwteri symudedd, cadeiriau olwyn trydan a beiciau cymorth pedal

      Caniateir i chi ddod â chadeiriau olwyn trydan a sgwteri symudedd ar y trên. Er mwyn ein helpu i ddiwallu’ch anghenion orau, rhowch wybod i ni cyn eich taith os oes angen i chi ddod â’r rhain i mewn – byddwn yn hapus i helpu. Gellir cario beiciau trydan cymorth pedal ar y trên hefyd yn unol â'n polisi beicio.

       

      Beth sydd ddim yn cael ei ganiatáu?

      • Eitemau dros fetr mewn unrhyw ddimensiwn nad ydych chi’n gallu eu cario heb gymorth. Mae hyn yn cynnwys canŵau, gleiderau, byrddau hwylio/syrffio, dodrefn mawr ac unrhyw offerynnau cerddoriaeth mawr
      • Ni all e-sgwteri ac e-feiciau gael eu cario ar ein trenau o dan unrhyw amgylchiadau. Mae astudiaethau wedi dangos y gall y batris lithiwm-ion a ddefnyddir ar y dyfeisiau hyn achosi risg tân a hefyd allyrru mwg gwenwynig. Rydym yn cydnabod y gallai hyn fod yn siomedig, ond diogelwch a chysur ein cwsmeriaid fydd ein blaenoriaeth bob amser.
      • Ni all beiciau trydan (sy'n cael eu pweru gan fodur yn unig) gael eu cario ar ein trenau am resymau diogelwch.
      • Beiciau modur a mopeds
      • Da byw (e.e. moch, defaid a geifr)
      • Unrhyw anifail neu eitem sydd, ym marn ein staff, yn achosi neu’n debygol o achosi trafferth i gwsmeriaid o ganlyniad i'w faint neu ei ymddygiad

      Mae mwy o wybodaeth am beth gallwch chi ddod ar y trên, a beth sydd ddim yn cael ei ganiatáu, ar gael yn Rheoliadau a Chyngor National Rail.

  • Ai chi sy'n gyfrifol am ansawdd a chyflwr y trenau?
    • Yn bendant.  Mae gennym fflyd o 134 o drenau a cherbydau, yn bennaf, trenau diesel un neu ddau gerbyd.

      Mae ein holl drenau ar brydles gan Gwmnïau Gweithredu Cerbydau Rheilffyrdd. Ni sy'n gyfrifol am eu cynnal a’u cadw ac am eu glanhau o ddydd i ddydd, a'r cwmnïau prydlesu sy'n gyfrifol am waith adnewyddu mawr sy'n rhaid ei wneud o bryd i'w gilydd.

      Os oes angen gwneud gwella neu addasu ein fflyd ar raddfa fawr, rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, y Cwmnïau Gweithredu Cerbydau Rheilffyrdd a chyflenwyr eraill i sicrhau bod ansawdd ein fflyd yn diwallu anghenion a dymuniadau ein teithwyr a’n rhanddeiliaid.

  • Y system awyru ar ein trenau
    • Rydyn ni eisiau i’n cwsmeriaid allu teithio’n gyfforddus gyda ni drwy’r flwyddyn, beth bynnag fo’r tywydd.

      Mae newid yn yr hinsawdd yn golygu bod y tymheredd yn codi ledled Cymru, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Er bod llawer ohonom yn mwynhau’r tywydd poeth a heulog, mae’n well gan rai ohonoch dywydd oerach. Mae ein trenau wedi’u dylunio i gadw'r tymheredd o fewn ystod sy’n gyfforddus i bawb.

      Dyma gwestiynau rydyn ni’n eu cael yn aml am y system awyru ar ein trenau.

       

      Oes gennych chi system awyru ar eich holl drenau?

      Mae gennym system awyru ar oddeutu 60 y cant o’n trenau. Mae’r rhain yn cynnwys:

      • Trenau Class 197 - sy’n gweithredu ar y rhan fwyaf o brif lwybrau’r rheilffordd
      • Trenau Class 158 - sy’n gweithredu ar y rhan fwyaf o brif lwybrau’r rheilffordd
      • Trenau Class 231 - sy’n gweithredu ar reilffordd Rhymni a rheilffordd Bro Morgannwg
      • Trenau Class 230 - sy’n gweithredu ar reilffordd y Gororau (Wrecsam-Bidston)
      • Cerbydau Mark 4 - sy’n gweithredu ar ein gwasanaethau rhwng Caerdydd a Chaergybi a Chaerdydd a Manceinion
      • Trenau Class 170 - sy’n gweithredu ar lwybrau sy’n cynnwys Maesteg-Cheltenham a Chaerdydd-Glynebwy

      Does gan rai o’n trenau hŷn ddim system awyru gan eu bod wedi cael eu hadeiladu ar adeg pan nad oedd hynny’n gyffredin yn y DU. 

      Rydyn ni’n parhau i gyflwyno trenau newydd a gwell a fydd yn cynnwys system awyru ar bob un o’n llwybrau.  

       

      Pam nad oedd y system awyru yn gweithio ar fy nhrên?

      Mae ein timau cynnal a chadw trenau yn gweithio’n galed i sicrhau bod y system awyru yn gweithio fel y dylai ar ein trenau, ond mae namau’n digwydd.

      Weithiau, ni fydd y system awyru yn gweithio’n iawn os yw’r drysau rhwng cerbydau wedi’u rhwystro ac yn methu cau. Mae hyn yn achosi i’r system orweithio drwy geisio oeri’r aer cynhesach y tu allan i’r salŵn. Rydyn ni’n gofyn i gwsmeriaid geisio osgoi rhwystro’r drysau os oes modd, er ein bod yn sylweddoli y gall hyn fod yn anodd os yw trên yn brysur iawn.

      Os ydych chi ar drên a dydy’r system awyru ddim yn gweithio’n iawn, gallwch roi gwybod i ni ar Twitter yn @tfwrail. Rhowch wybod i ni beth yw rhif eich cerbyd (gall goruchwyliwr roi gwybod i chi os nad ydych chi’n siŵr). Gall hyn ein helpu i drwsio llawer o namau gyda’r system awyru ar y diwrnod rydyn ni’n cael gwybod amdanyn nhw. 

       

      Alla i agor ffenestr?

      Gallwch agor y ffenestri ar lawer o’n trenau. Peidiwch â gwneud hyn os yw’r system awyru ymlaen oherwydd gallai hyn ei atal rhag gweithio’n iawn.

      Ar rhai o’n trenau, gallwch roi gwybod i’r goruchwyliwr os hoffech agor y ffenestr a gall wneud hyn gydag allwedd.

       

      Pam mae’r gwres ymlaen yn yr haf?

      Dydy’r gwres ddim ymlaen ar y trenau yn ystod yr haf.

      Os byddwch yn teimlo aer cynnes yn dod allan o’r fentiau, efallai nad yw’r system awyru’n gweithio’n iawn. Rhowch wybod i’r goruchwyliwr neu roi gwybod i ni ar Twitter yn @tfwrail er mwyn i ni allu ymchwilio iddo. Dywedwch wrthym beth yw rhif eich cerbyd (gall y goruchwyliwr roi gwybod i chi os nad ydych chi’n siŵr).

       

      Beth fydd yn digwydd pan fydda i’n rhoi gwybod am nam gyda’r system awyru?

      Cyn gynted ag y byddwch yn rhoi gwybod i ni am nam, byddwn yn gofyn i’n technegwyr trenau symudol ymchwilio iddo. Mae llawer o ddiffygion yn cael eu trwsio ar y diwrnod rydyn ni’n cael gwybod amdanyn nhw.

      Os oes angen rhagor o waith, byddwn yn anfon y trên i un o’n depos i ddatrys y broblem.