Rydym yn deall sut y gall tarfu ar wasanaethau gael effaith waeth ar deithwyr anabl neu deithwyr hŷn.

Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu i barhau gyda’ch taith yn gyfforddus, yn ddiogel a heb fawr ddim anhwylustod.

Rydym yn darparu gwybodaeth glir i’ch cyfeirio at unrhyw drafnidiaeth amgen. Os bydd unrhyw darfu ar wasanaeth yn golygu bod y gwasanaeth yn anhygyrch i chi, byddwn yn darparu trafnidiaeth hygyrch amgen. Darperir hyn fel rhan o’r daith lle darperir trafnidiaeth amgen yn lle trên, neu caiff ei ddarparu ar gyfer y daith gyfan pe bai hynny’n golygu y byddai angen gwneud sawl newid fel arall rhwng tacsi a thrên.

Rydym am sicrhau bod teithwyr yn gallu gwneud cymaint o’u teithiau â phosibl ar drên. Fodd bynnag, byddwn yn trefnu trafnidiaeth hygyrch amgen, fel tacsi, i chi a chydymaith:

  • os na allwch deithio i neu o orsaf nad yw’n hygyrch i chi;
  • os nad yw’r drafnidiaeth yn lle trên yn hygyrch i chi; neu
  • os oes tarfu ar fyr rybudd i wasanaethau ac felly nad yw’r gwasanaethau yn hygyrch i chi.

Byddwn yn darparu’r drafnidiaeth hon i chi am yr un pris â’ch tocyn trên. Byddwn yn trafod pa fath o dacsi sydd ei angen arnoch cyn ei archebu. Bydd y drafnidiaeth amgen yn mynd â chi i neu o’r orsaf hygyrch fwyaf cyfleus i chi neu i orsaf gyda staff lle gall rhywun eich helpu.

Allwn ni ddim gwarantu trafnidiaeth hygyrch amgen ar gyfer sgwteri symudedd gan na allan nhw gael eu cludo’n ddiogel mewn tacsi yn aml. Fodd bynnag, os ydych chi eisoes yn teithio gyda ni ar sgwter symudedd pan fo’r tarfu yn digwydd, byddwn yn gofalu eich bod mor gyfforddus â phosibl wrth i chi aros am y trên nesaf.

Pan fo trenau’n cael eu symud i wahanol blatfform ar fyr-rybudd, byddwn yn gwneud ein gorau i’ch cael ar eich trên cyn iddo adael.

Lle bynnag y bo’n bosibl, os ydych chi wedi archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw a’n bod yn gwybod y bydd tarfu ar y gwasanaeth, byddwn yn ceisio cysylltu â chi ac, os oes angen, byddwn yn gwneud trefniadau amgen ar gyfer eich taith.

Byddwn hefyd yn ceisio ail-drefnu eich taith gyda chymorth os nad oeddech chi’n gallu mynd ar eich taith oherwydd unrhyw darfu. Gweler adran 4 am wybodaeth am sut rydym yn cyfathrebu’r diffyg mynediad at nodweddion fel lifftiau a thoiledau. Rhowch wybod am unrhyw broblemau fel hyn (yn enwedig mewn gorsafoedd heb staff) i’n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.

Cysylltwch â Cysylltiadau Cwsmeriaid

  • Ffôn: 03333 211 202
  • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf: 18001 03333 211 202
  • Ffurflen ar-lein: cliciwch yma
  • Oriau agor: 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan).

Mae gwybodaeth am ein gweithdrefnau ar gyfer helpu teithwyr anabl mewn argyfwng ar gael yn ein canllawiau ‘Making rail accessible: Helping older and disabled passengers’. Gallwch hefyd gael copi o’r canllawiau gan y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid. Gellir darparu’r ddogfen hon neu ein dogfen bolisi ar gais ar ffurf safonol neu amgen (er enghraifft print bras) am ddim.

Mae gan ein Pennaeth Profiad Cwsmeriaid gyfrifoldeb dydd i ddydd am ein Polisi Diogelu Pobl Anabl. Gallwch gysylltu â nhw drwy ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.