Cynllun cydraddoldeb strategol ac amcanion 2020-2024

Submitted by positiveUser on

Croeso i Trafnidiaeth Cymru

Trafnidiaeth Cymru, a sefydlwyd yn 2015, yw’r cwmni nid-er-elw sy’n gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, cynaliadwy a fforddiadwy o safon uchel.

Rhwydwaith dibynadwy, hygyrch a charbon isel y gall pobl Cymru fod yn falch ohono.

Ein gweledigaeth, pwrpas a gwerthoedd

Mae ein gweledigaeth yn amlinellu ein dyheadau ar gyfer y dyfodol ac mae ein pwrpas yn sicrhau ein bod yn dal i ganolbwyntio ar y rheswm dros ein bodolaeth.

Ein gweledigaeth

Creu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid drwy rwydwaith trafnidiaeth diogel y mae Cymru’n falch ohono.

Ein pwrpas

Darparu gwasanaethau trafnidiaeth cynaliadwy sy’n cadw Cymru’n symud.

Ein gwerthoedd

Bod yn ddiogel Iechyd, diogelwch a lles - Rydym wedi ymrwymo i iechyd, diogelwch a lles ym mhopeth a wnawn ac rydym am i’n cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid ymddiried ynom a chael sicrwydd gan ein hymrwymiad.

Bod y gorau Perfformio’n dda, yn gyflymGyda’n cenhadaeth uchelgeisiol yn sail i’n gwaith, rydym ni am i’n cwsmeriaid, rhanddeiliaid, partneriaid a phobl Cymru fod yn falch o’r hyn rydym ni’n ei wneud a’i gyflawni.

Bod yn bositif Gallu gwneud, eisiau gwneud - Trwy roi’r grym i’n pobl a chydweithio rydym ni’n gwrando ar ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid er mwyn sicrhau ein bod yn ennill eu hymddiriedaeth a hyder.

Cysylltu Mentro a rhwydweithio - Mae ein dull cydweithredol a’n ffocws ar feithrin cysylltiadau cadarn yn ein helpu i ymateb i’r heriau rydym ni’n eu hwynebu wrth gyflawni ein cenhadaeth mewn ffordd arloesol.

Bod yn deg Uniondeb a chydraddoldebTrwy gydweithio a meithrin cysylltiadau cadarn, rydym ni am ddangos ein bod yn gwrando ar ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid a’n bod yn gwerthfawrogi ac yn ystyried ystod eang o safbwyntiau wrth wneud penderfyniadau.

Creu llwyddiant a rennir Awch am y fargen orau - Bydd y rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy rydym ni’n ei adeiladu yn gweddnewid y ffordd rydym ni’n teithio yng Nghymru. Rydym ni am i’n cwsmeriaid, rhanddeiliaid a phobl Cymru gael eu cyffroi gan y trawsnewidiad hwn.

 

Mewn amrywiaeth mae nerth

Yn Trafnidiaeth Cymru rydym ni’n gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud ni’n gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud gwell penderfyniadau a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb ei safbwynt ei hun felly rydym ni’n meithrin tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethwn. Drwy hyn, rydym ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr cynhwysol mwyaf blaenllaw Cymru. Rydym ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

“Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn sail i bopeth rydym yn ei wneud yn Trafnidiaeth Cymru. Drwy ystyried amryw o safbwyntiau, meddyliau, daliadau a syniadau yn ein prosesau gwneud penderfyniadau byddwn mewn sefyllfa well i wneud y gorau o’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau wrth i ni adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus y gall pobl fod yn falch ohono.”

James Price

Prif Weithredwr

 

“Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o’n diwylliant a gallant gael effaith gadarnhaol ar bob rhan o Trafnidiaeth Cymru. Mae gweithlu amrywiol yn allweddol i’n llwyddiant ac mae arnom eisiau i’n gweithwyr deimlo eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi a bod yn falch o weithio i ni. Rydym wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr delfrydol.”

Lisa Yates

Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliado

 

Cyflwyniad

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i egwyddorion ac arferion cyfle cyfartal ac amrywiaeth, fel cyflogwr ac fel darparwr gwasanaeth. Rydym wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr delfrydol ac er mwyn cyflawni ein hymrwymiad rydym yn gwneud yn siŵr bod ein pobl yn cael eu trin â pharch ac urddas.

Mae gennym weledigaeth glir ynglŷn â sut y gall cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gael effaith gadarnhaol ar bob rhan o’n cwmni a sut y bydd hyn o fudd i’n pobl a Trafnidiaeth Cymru fel sefydliad yn ogystal â’n cwsmeriaid a phobl, cymunedau a busnesau Cymru. Ein nod yw sicrhau bod pawb yn Trafnidiaeth Cymru ac yn ein cadwyn gyflenwi’n teimlo ei fod yn cael ei barchu a’i werthfawrogi. Rydym yn adeiladu tîm amrywiol yn Trafnidiaeth Cymru sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu oherwydd ein bod yn credu y bydd hynny’n ein galluogi i ddarparu gwell gwasanaeth i’n cwsmeriaid.

Building a diverse workforce

Mae arnom eisiau i’n gweithwyr a’n partneriaid fod yn falch o weithio i ni.

Mae arnom eisiau i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant fod yn rhan annatod o’n diwylliant a’r ffordd rydym yn ymgysylltu â’n cwsmeriaid, ein pobl a’n cadwyn gyflenwi.

Credwn fod gweithlu amrywiol yn allweddol i lwyddiant Trafnidiaeth Cymru, a thrwy groesawu gwahanol safbwyntiau, meddyliau, daliadau a syniadau byddwn mewn sefyllfa well i wynebu heriau’r busnes a manteisio ar gyfleoedd.

Yn Trafnidiaeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i fod yn gynhwysol, ac rydym yn croesawu gweithwyr o bob cefndir ac yn eu trin yn gyfartal. Mae ein gwerthoedd yn greiddiol i’r hyn ydym, a’r i’r hyn rydym yn ei wneud, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau iechyd, diogelwch a llesiant yn ogystal â thegwch a chreu llwyddiant a rennir. Mae arnom eisiau i’n cwsmeriaid, rhanddeiliaid a phobl ein trystio a theimlo’n ddiogel oherwydd ein hymrwymiad. Drwy gydweithio mae arnom eisiau dangos ein bod yn gwrando ac yn ystyried safbwyntiau amrywiol wrth wneud penderfyniadau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Yn ychwanegol at hyn, rydym yn sicrhau bod gweithgareddau Trafnidiaeth Cymru yn gydnaws â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a saith nod llesiant y Ddeddf:

• Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

• Cymru iachach.

• Cymru o gymunedau cydlynus.

• Cymru gydnerth.

• Cymru lewyrchus.

• Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

• Cymru sy’n fwy cyfartal.

Mae gennym hefyd ddyletswydd gyfreithiol i gyfrannu’n gadarnhaol tuag at gymdeithas decach drwy hybu cydraddoldeb a chysylltiadau da yn ein gweithgareddau o ddydd i ddydd. Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn sicrhau bod ystyriaethau cydraddoldeb yn rhan o’r gwaith o gynllunio ein polisïau a darparu ein gwasanaeth, a bod y rhain yn cael eu hadolygu a’u mesur er mwyn cael canlyniadau gwell i bawb.

Deddf Cydraddoldeb 2010

Drwy gyhoeddi ein hamcanion a rhannu gwybodaeth am ein perfformiad gallwn fod yn dryloyw ynglŷn â sut rydym yn cymhwyso fframwaith cyfreithiol Deddf Cydraddoldeb 2010, er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau i’n pobl a’n cwsmeriaid yn ogystal â chreu Cymru decach i bawb.

Roedd Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dod â’r cyfreithiau gwrth-wahaniaethu blaenorol at ei gilydd ac yn cyflwyno un Ddeddf yn eu lle. Daeth y rhan fwyaf o’r Ddeddf hon i rym ar 1 Hydref 2010. Mae’r Ddeddf yn cynnwys dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (y ‘ddyletswydd gyffredinol’), a ddaeth i rym ar 5 Ebrill 2011 gan ddisodli dyletswyddau ar wahân ar gyfer hil, anabledd a chydraddoldeb rhywiol.

Ein hymrwymiad yw datblygu diwylliant sydd â’n pobl yn greiddiol iddo, a lle maent yn cael eu parchu a’u cynnwys oherwydd eu holl briodoleddau. Mae’r ymrwymiad hwn a gwerthoedd Trafnidiaeth Cymru yn greiddiol i’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac rydym wedi gosod amcanion a fydd yn golygu y byddwn yn gweithredu fel sefydliad tecach i’n holl bobl ac yn darparu’r gwasanaeth gorau i’n holl gwsmeriaid.

Datblygu ein hamcanion cydraddoldeb strategol

Er mwyn datblygu ein hamcanion cydraddoldeb, rydym wedi ymgysylltu â’n pobl a defnyddio gwybodaeth berthnasol, gan gynnwys canllawiau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) a chanlyniadau arolygon amrywiaeth mewnol.

Datblygwyd ein hamcanion drwy ddefnyddio:

• canfyddiadau ein harolwg diweddaraf

• ymchwil allanol perthnasol

• arferion gorau a rannwyd

Rydym wedi ymgynghori ymhellach ynglŷn â’n hamcanion drafft i’n helpu i lunio’r amcanion terfynol.

Mae arnom eisiau i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant fod yn rhan annatod o’n diwylliant a’r ffordd rydym yn ymgysylltu â’n cwsmeriaid, ein pobl a’n cadwyn gyflenwi.

 

Ein hamcanion cydraddoldeb strategol ar gyfer 2020 – 2024

1. Cydraddoldeb i bawb wrth ddenu a chadw ein gweithwyr ac wrth ddatblygu eu gyrfaoedd.

Gwella prosesau recriwtio, cadw staff, camu ymlaen, datblygiad, a phrofiad y bobl a gyflogir gan Trafnidiaeth Cymru o bob grŵp, er mwyn galluogi’r sefydliad i arwain fel cyflogwr delfrydol cynhwysol.

2. Adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth Cymru a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Cau’r bwlch cyflog ar gyfer nodweddion gwarchodedig, ac edrych yn fwyaf arbennig ar wella cynrychiolaeth o gymunedau du, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig (BAME), menywod, pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol a queer (neu’n cwestiynu) (LGBTQ+) a staff anabl yn y Sector Trafnidiaeth yn ei gyfanrwydd.

3. Addysgu ein pobl.

Cael cynllun arweinyddiaeth ar gyfer pob arweinydd yn y sefydliad i arwain ac ysgogi timau a dangos ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

4. Darparu fframwaith priodol i ddadlau dros amrywiaeth a chynhwysiant.

Sicrhau cydraddoldeb ym mhob un o brif brosesau a pholisïau’r sefydliad, yn y gadwyn gyflenwi ac wrth ddarparu gwasanaeth.

 

1. Cydraddoldeb i bawb wrth ddenu a chadw ein gweithwyr ac wrth ddatblygu eu gyrfaoedd.

Rydym yn anelu at fod yn sefydliad lle mae pob gweithiwr yn hyderus y gall fod yn ef neu hi ei hun yn y gwaith. Ein nod yw gwella prosesau recriwtio, cadw staff, camu ymlaen, datblygiad a phrofiad y bobl a gyflogir gan Trafnidiaeth Cymru, er mwyn galluogi’r sefydliad i fod yn gyflogwr delfrydol cynhwysol.

Camau gweithredu

  • Datblygu strategaeth dysgu a datblygu sy’n hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn Trafnidiaeth Cymru yn ei gyfanrwydd, ni waeth pwy allai gael ei effeithio, neu na fydd yn cael ei effeithio, gan nodwedd warchodedig.
  • Darparu rhaglen hyfforddi a datblygu fewnol, agored i holl weithwyr Trafnidiaeth Cymru. Byddai’r rhaglen ar gael i gydweithwyr a byddai’n seiliedig ar yr amcanion a bennir gan reolwyr llinell i adlewyrchu anghenion datblygu cydweithwyr.
  • Dal i leihau effaith rhagfarn ddiarwybod yn ein harferion recriwtio drwy ddal i ddefnyddio dulliau sifftio dall ar gyfer yr holl waith recriwtio mewnol ac allanol.
  • Dal i hysbysebu pob swydd yn allanol a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gynyddu ymwybyddiaeth o’n swyddi gwag ymhlith ymgeiswyr o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Byddwn yn gweithio gyda’n tîm cyfathrebiadau i geisio deall ble mae grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli’n ymgynnull ar-lein, gan hyrwyddo swyddi yn yr ardaloedd hynny.
  • Cynllunio a chyflwyno rhaglen ‘addysgu’r addysgwyr’ mewn ysgolion er mwyn dylanwadu ar y dewisiadau a wneir gan ferched ifanc mewn ysgolion gyda’r bwriad o’u cyfeirio tuag at yrfa ym maes trafnidiaeth.

Meini prawf llwyddiant

  • Sefydlu model talu a pherfformio sy’n cefnogi lleihau’r bwlch rhwng cyflogau dynion a menywod a gweithio tuag at gyflog cyfartal.
  • Datblygu dull rheoli talentau sy’n sicrhau rhaniad 50/50 rhwng dynion a menywod ar lefel swyddogion gweithredol a graddau 1 a 2a gan roi sylw i’r nodweddion gwarchodedig eraill.
  • Peidio â chael unrhyw hawliadau cyflog cyfartal.

 

2. Adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth Cymru a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Rydym yn bwriadu gwella cynrychiolaeth o gymunedau BAME, Menywod, LGBTQ+ a staff anabl a gweithwyr sydd â chyfrifoldebau rhiant yn y sector trafnidiaeth, er mwyn sicrhau ein bod yn adlewyrchu poblogaeth Cymru a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn fwy cywir.

Camau gweithredu

  • Cynyddu cyfleoedd ac ymwybyddiaeth o weithio hyblyg a threfniadau gweithio rhan-amser drwy hybu ein polisi gweithio hyblyg mewn ffordd gadarnhaol, ystyried rhannu swyddi a mathau eraill o gontractau hyblyg.
  • Cymryd rhan mewn rhaglenni gwaith maes a digwyddiadau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) mewn cymunedau anodd eu cyrraedd a difreintiedig o safbwynt economaidd-gymdeithasol.
  • Cynnig cyfleoedd datblygu, er enghraifft cysgodi uwch arweinwyr ac uwch arweinwyr y dyfodol, gan dargedu grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu.
  • Gofyn am adolygiad allanol, herio ac achredu’r hyn y mae Trafnidiaeth Cymru’n ei wneud fel cyflogwr drwy ymwneud â safonau a meincnodau cydraddoldeb perthnasol (e.e. Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, Safon Hyderus o ran Anabledd, Siarter Llesiant y Gweithle, ac yn y blaen)

Meini prawf llwyddiant

  • Cael calendr digwyddiadau clir a chyhoeddedig i hyrwyddo gweithgareddau sefydliadol sy’n dathlu pob nodwedd warchodedig.
  • Gwell cynrychiolaeth o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ar draws graddau a rolau, gan gynnwys yn y Strwythur Uwch-reoli.
  • Achrediad gan gorff allanol sy’n cydnabod bod Trafnidiaeth Cymru yn rhoi sylw i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn fwyaf arbennig Mynegai Cydraddoldeb Stonewall.
  • Tystiolaeth mewn diwygiadau polisi y bydd cefnogaeth i bobl anabl yn cynnwys pob agwedd ar anabledd, gan gynnwys Iechyd Meddwl, Niwroamrywiaeth a Dyslecsia, agweddau na fydd gweithwyr yn cyfeirio atynt o reidrwydd.

 

3. Addysgu ein gweithlu.

Byddwn yn canolbwyntio ar gael cynllun arweinyddiaeth a fydd yn cefnogi pob arweinydd yn y sefydliad i arwain ac ysgogi timau a dangos ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Byddwn yn sefydlu cysylltiadau ag amryw o sefydliadau cydraddoldeb i’n helpu i gyflawni ein hymrwymiad i’n gweithlu yng nghyswllt cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Camau gweithredu

  • Hyfforddiant a dosbarthiadau meistr ar gyfer y busnes yn cynnwys amrywiaeth a chynhwysiant a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
  • Dal i gynyddu ymwybyddiaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant drwy gyfathrebiadau a sesiynau hyfforddi sy’n cael eu rhedeg gan arbenigwyr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Sicrhau bod pob gweithiwr newydd yn dilyn hyfforddiant cydraddoldeb a bod pob rheolwr yn cael hyfforddiant yn ymwneud â rhagfarn ddiarwybod.
  • Hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r dyletswyddau cyffredinol a’r dyletswyddau penodol yn unol â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Byddai hyn yn cael ei gyflwyno i bob aelod o’n tîm uwch-arweinwyr a’r bwrdd mewn sesiwn hyfforddi, a byddai’n cael ei raeadru wedyn i uwch-reolwyr perthnasol a phobl sy’n gwneud penderfyniadau polisi maes o law.

Meini prawf llwyddiant

  • Penodi a hyfforddi 5 Llysgennad Tegwch, Cynhwysiant a Pharch yn Trafnidiaeth Cymru – i hybu Tegwch, Cynhwysiant a Pharch yn y Gweithle a gyda’n cyflenwyr.
  • Cynhyrchu adroddiad interim ar ddewisiadau ar gyfer datblygu gwell trefniadau monitro, drwy gyfeirio at nodweddion gwarchodedig ledled Trafnidiaeth Cymru.

 

4. Darparu fframwaith priodol i ddadlau dros amrywiaeth a chynhwysiant.

Byddwn wedi ymrwymo i adolygu effaith y prif bolisïau sefydliadol ar gydraddoldeb mewn meysydd fel: recriwtio a dewis staff, dysgu a datblygu, cefnogi presenoldeb yn y gwaith, parch yn y gwaith (gwrth-fwlio ac aflonyddu); rheoli talentau; Adolygiad Blynyddol o Berfformiad, materion disgyblu, cwynion a gwerthuso swyddi.

Camau gweithredu

  • Sicrhau bod profiad gweithwyr Trafnidiaeth Cymru, a fydd yn cael ei fesur drwy ein harolwg gweithwyr a dulliau perthnasol eraill o gael adborth gan weithwyr, yn cael ei ddadansoddi, gan edrych am amrywiadau ar sail nodweddion gwarchodedig a gwelliannau y gellir eu gwneud.
  • Gwella gallu gweithwyr Trafnidiaeth Cymru ac eraill i ddeall a rhoi sylw i’r rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus drwy ddarparu’r hyfforddiant perthnasol i’r uwch dimau angenrheidiol.
  • Sicrhau cydymffurfiad â’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol cyn ac ar yr adeg y mae polisi’n cael ei ystyried a rhoi tystiolaeth o hyn wrth gadw cofnod o’r ystyriaethau a wnaethpwyd.
  • Ymateb yn deg ac yn gyfartal i’r blaenoriaethau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yng nghyswllt rhoi sylw i Ffyniant i Bawb: y strategaeth i Gymru. Canolbwyntio’n benodol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol.

Meini prawf llwyddiant

  • Cyhoeddi polisïau sy’n dangos cydymffurfiad â’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol.
  • Pum deg y cant o reoli talentau grid 9 blwch A1, A2 ac 1 wedi’u poblogi â chydweithwyr sy’n ystyried bod ganddynt un o’r nodweddion gwarchodedig.

 

Cydweddu ag amcanion Trafnidiaeth Cymru

Mae arnom eisiau dangos bod camau gweithredu Trafnidiaeth Cymru yn cyfrannu tuag at Gymru decach ac rydym wedi datblygu amcanion Trafnidiaeth Cymru yn unol ag:

• ‘A yw Cymru’n Decach?’, amcanion cydraddoldeb Llywodraeth Cymru

• y nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu - 2 + 3 - Bydd ein sefydliadau’n adlewyrchu amgylchedd teg a chynhwysol, lle bydd pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi ac yn cael cyfle cyfartal i gyflawni ei botensial yn ei s efydliad.

Dileu bylchau cyflog - 1 + 4 - Mae datgelu gwybodaeth yn rhan o ddiwylliant y sefydliad, ac mae’r staff yn deall pam y cesglir data, ac yn sicrhau mai dim ond data angenrheidiol sy’n cael eu coladu (GDPR).

Ymgysylltu â’r gymuned - 2 + 4 - Bydd cymunedau amrywiol ledled Cymru yn ymwneud â gwaith ein sefydliadau. Bydd strategaethau, polisïau a phenderfyniadau’n cael eu cynhyrchu ar y cyd ag unigolion amrywiol. Bydd profiadau a barn pobl yn dylanwadu ar ein sefydliadau.

Sicrhau bod cydraddoldeb wedi’i wreiddio yn y broses gaffael /comisiynu a’i fod yn cael ei reoli drwy gydol y camau cyflawni - 4 - Mae cydraddoldeb wedi’i wreiddio mewn egwyddorion caffael sy’n cael eu gweithredu a cheir tystiolaeth o hynny.

Sicrhau bod y gwaith o ddarparu gwasanaeth yn adlewyrchu anghenion unigol. - 3 - Mae pobl ac arferion da a rennir yn dylanwadu ar y modd y caiff gwasanaethau eu darparu i ddiwallu anghenion unigol.

 

Gwneud cynnydd a mesur a monitro cynnydd

Rydym wedi ymrwymo i weithredu mewn ffordd ystyrlon yn Trafnidiaeth Cymru, gyda’n cadwyn gyflenwi a gyda’n cwsmeriaid er mwyn cyflawni ein dyletswyddau cydraddoldeb statudol.

Rydym yn adrodd am y cynnydd rydym yn ei wneud wrth gyflawni’r amcanion a amlinellwyd yn y cynllun hwn yn rheolaidd i dîm yr uwch-arweinwyr ac yn chwarterol i’n Pwyllgor Pobl, sy’n un o is-bwyllgorau’n bwrdd.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb i gyflawni ein dyletswydd statudol wrth gyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol. Rydym hefyd wedi lansio gweithgor cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n cyfarfod yn fisol, ac sy’n cynnwys gwirfoddolwyr o bob rhan o Trafnidiaeth Cymru sy’n cydweithio er mwyn hybu cynhwysiant. Mae’r gweithgor, sy’n cael ei arwain gan uwch swyddogion adnoddau dynol, yn adrodd ar gynnydd i’n bwrdd. Mae’r grŵp hwn yn allweddol gan ei fod yn ein helpu i gyflawni ein cynllun cydraddoldeb strategol a chyflawni ein hamcanion.

Mae’n cynnwys trawstoriad o’n pobl sy’n frwdfrydig am faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn hyrwyddo cynhwysiant. Er bod gan lawer o’n haelodau nodweddion gwarchodedig, mae pob un wedi gwneud ymrwymiad personol i hybu camau gweithredu cadarnhaol a newid diwylliannol.