Child on train

Os ydych chi'n rhiant ac eisiau mynd â'r plant allan am y diwrnod, rydyn ni'n gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i rywbeth addas - a fforddiadwy, a gall fod yn anoddach fyth gyda sawl plentyn i'w bodloni.

Soniwch am Ogledd Cymru a a bydd pobl yn meddwl am Eryri, tra bod gan Dde Cymru Fannau Brycheiniog, ond mae'r wlad yn cynnig cymaint mwy i ymwelwyr. O’r Parciau Cenedlaethol byd-enwog, y cestyll ac amgueddfeydd mawreddog, i draethau euraidd, profiadau siopa, a bwytai â sêr Michelin, mae gan Gymru’r cyfan.

Dyma rai o'r atyniadau a'r gweithgareddau gorau i blant a'u teuluoedd:

 

1. Gwaeddwch os am fynd yn gynt gyda Zip World

Gyda safleoedd ledled Cymru, gan gynnwys yn Eryri, Blaenau Ffestiniog ac Aberdâr, mae’r anhygoel Zip World yn cynnig amrywiaeth eang o anturiaethau gan gynnwys gwibgerti pob tir, roller coasters y goedwig, a’r pinacl – y wifren wib. Fel y gwelir ar gyfres y BBC The Apprentice, mae Zip World yn darparu profiadau gwych llawn adrenalin y gall y teulu cyfan o 3 oed a hŷn eu mwynhau. Mae hyn yn wir yn antur gwefr-bob-munud.

 

2. Dewch i gwrdd â Meerkatiaid a Llewod Grymus yn Folly Farm

Yn ddwfn yng nghanol Sir Benfro, yng Nghilgeti, mae Cymru’n trawsnewid i’r Safana Affricanaidd, lle mae llewod yn crwydro, rhinos yn ymdrochi a jiraffod yn crwydro. Heb fod yn rhy bell o diroedd gwyllt Affrica, gallwch brofi'r gorau sydd gan Asia i'w gynnig, gan gynnwys pandas coch del a blewog, cathod llewpart, a phelicaniaid gyda’i pigau hirion.

Ond mae Folly Farm yn cynnig cymaint mwy. Ochr yn ochr â’r 250 o anifeiliaid egsotig, gallwch gwrdd ag anifeiliaid fferm, gan gynnwys perchyll â’u gwichian, geifr, merlod, a chwningod. Gydag ieir, alpacas, a hyd yn oed tylluanod gwyn hardd, mae yna anifeiliaid di-rif yma, ac ar ôl i chi gael eich digoni gan y rhai fflwfflyd, beth am anelu am y ffair?

Mae eich hoff reidiau i gyd yma – olwyn fawr enfawr, meri-go-rowndiau, ceir taro a llawer mwy.

Gan ei bod yn aelod o Gymdeithas Sŵau ac Acwaria Prydain ac Iwerddon (BIAZA) a Chymdeithas Sŵau ac Acwaria Ewrop (EAZA), mae Folly Farm yn chwarae rhan bwysig mewn cadwraeth, ac os dymunwch, trwy fabwysiadu eich hoff anifail, gallwch chithau hefyd helpu i warchod anifeiliaid yn eu hamgylchedd naturiol. Mae'n ddiwrnod allan gwirioneddol wych i'r teulu cyfan.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

A post shared by Folly Farm (@follyfarmwales)

 

 

3. Archwiliwch Hanes yng Nghastell Caernarfon

Yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel un o adeiladau mwyaf trawiadol yr Oesoedd Canol, mae Castell Caernarfon yn gwylio dros y dref yng Gogledd Cymru. Gyda muriau mawreddog o amgylch yr anheddiad yn sicrhau diogelwch y trigolion, mae wedi bod yn destun balchder i Gymru o'i adeiladu yn yr 11eg ganrif, ac yn dyst i hirhoedledd eu dulliau adeiladu.

Ar lan yr Afon Seiont, mae'r Safle Treftadaeth y Byd hwn wedi gweld hanes yn cael ei greu. Brwydrau gwaedlyd, gwarchaeau chwerw, a newidiadau di-rif o frenhinoedd, mae Caernarfon wedi gweld y cyfan dros ei 700 mlynedd. Heddiw, mae'n werth ymweld â'r castell hwn sydd mewn cyflwr arbennig o dda. Mae’n gartref i Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, twrnameintiau saethyddiaeth, a nifer o arddangosfeydd a pherfformiadau byw eraill.

Caernarfon Castle

 

4. Mwynhewch Ddiwrnod Bythgofiadwy ar Reilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru

Gan fynd â theithwyr drwy ran o gefn gwlad mwyaf prydferth a dramatig Cymru, gan gynnwys y syfrdanol Barc Cenedlaethol Eryri, mae Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru sydd wedi ennill gwobrau yn ddewis perffaith ar gyfer diwrnod allan, p’un a ydych yn frwd dros drenau stêm ai peidio.

Gan gynnig dewis o brofiadau, gyda chyfleoedd i archwilio pentrefi hudolus fel Beddgelert a Than-y-bwlch, defnyddiai’r rheilffordd drac cul 1 troedfedd 111⁄2 modfedd (597 mm) yn wreiddiol. O Harbwr Porthmadog i Flaenau Ffestiniog, 131⁄2 milltir (21.7 km) o filltiroedd i ffwrdd, agorwyd rhan Ffestiniog o’r lein ym mis Ebrill 1836 ac mae bellach yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd “Tirwedd Llechi Gogledd Cymru” UNESCO.

Gan ymuno â'r llwybr ym Mhorthmadog, mae rhan Ucheldir Cymru yn rhedeg am 25 milltir (40.2 km) i dref gaerog Caernarfon, sy'n golygu mai hon yw'r rheilffordd dreftadaeth hiraf yn y DU.

Camwch yn ôl mewn amser yn rhai o'r cerbydau mwyaf cyfforddus a moethus, gan gynnwys y Pullman moethus o'r radd flaenaf - profiad unwaith mewn oes, a mwynhewch brydau ffres wedi'u gweini wrth eich bwrdd. Bydd yr hen a'r ifanc wrth eu bodd â'r antur hon trwy olygfeydd godidog Cymru.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

A post shared by Will S (@drones_and_steam)

 

5. Archwiliwch Benrhyn Gŵyr

I'r gorllewin o ddinas Abertawe, mae crwydro Penrhyn Gŵyr yn gwneud diwrnod allan gwych i bawb. Yn hardd, heb ei ddifetha, ac yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig ers 1949, mae cymaint i'w fwynhau yma.

Mae'r penrhyn yn cynnig amrywiaeth gyfoethog o amgylcheddau, pob un â fflora a ffawna penodol - na welir yn aml mewn mannau eraill. Tywod euraidd eang, rhostir agored garw a morfeydd heli, wynebau clogwyni calchfaen trawiadol a dyffrynnoedd coetir oer; mae Penrhyn Gŵyr yn ryfeddod daearegol. Mae mamaliaid morol fel morloi, dolffiniaid a siarcod i’w gweld yn rheolaidd, ac fry uwchben mae huganod, cudyllod coch a’r barcutiaid coch trawiadol yn esgyn. Mae’r glaswelltiroedd yn gartref i’r frân goesgoch brin, mae pibyddion duon yn rhydio drwy’r forfa heli, ac mae colomennod y graig gwyllt yn clwydo ar y clogwyni yn gwylio am y gwencïod sy’n ceisio dwyn eu hwyau.

Dysgwch badlfyrddio, syrffio neu hwylio ym mae Abertawe, neu ymlacio gyda choffi a thafell o gacen cartref. Mae Penrhyn Gŵyr yn cynnig llu o weithgareddau i deuluoedd sy’n ymweld â’r ardal, neu os yw’n well gennych, ewch am dro a chreu eich adloniant eich hun.

 

 

6. Hwyl Ceg-Agored ym Mharc Thema Oakwood

Mae Parc Thema Oakwood yn ddiwrnod allan gwych. Yn wir, dyma barc thema mwyaf Cymru, ac mae’n werth chweil ym mhob agwedd.

Ers iddo agor ar ddiwedd yr 80au mae wedi torri tir newydd, gan gymysgu cyffro llawn adrenalin ag awyrgylch teulu-gyfeillgar. Mae’n ymgorffori traciau BMX a go-cart gwefreiddiol, profiad sinematig 3D, a llithren ddŵr enfawr. Ymddangosodd y Megafobia 85 troedfedd o daldra (26 m) yn ddiweddarach ac mae wedi cael ei bleidleisio ymhlith y roller coasters gorau yn Ewrop. Ymunwyd ag ef dros y blynyddoedd nesaf gan Vertigo – yr awyr-siglen dalaf yn y DU, Drench a Speed – roller coaster Euro-Fighter Gerstlauer gyda gostyngiad syfrdanol o 97 gradd. Does dim diwedd ar y cyffro.

Gyda dim llai na phum roller coaster, pedair reid ddŵr ac 17 o reidiau arall i'w mwynhau, mae'r parc hefyd yn cynnwys ardal ar gyfer plant llai yn unig. Mae'r atyniadau yma wedi'u cynllunio i ysgogi ac annog plant i archwilio, dysgu a chwarae gyda'i gilydd. O’r Llong Môr-ladron Jolly Roger i ardal chwarae meddal enfawr, darperir ar gyfer hyd yn oed y plentyn ieuengaf heb i rieni orfod poeni.

 

7. Ewch yn Wyllt yn y Sw Fynydd Gymreig

Yn edrych dros Fae Colwyn, mae’r Sw Fynydd Gymreig yn dod â bywyd gwyllt y byd i Gymru. Wedi'i hagor yn 1963, roedd y sw yn weledigaeth gan Robert Jackson, naturiaethwr profiadol ac yn frwd dros anifeiliaid. Ar y cychwyn, dim ond canolfan fridio ar gyfer rhywogaethau prin ac mewn perygl oedd hi, ond penderfynodd Jackson ganiatáu i'r cyhoedd rannu ei freuddwyd trwy ei hagor i'r cyhoedd a’I gwneud yn ymddiriedolaeth elusennol. Yn 2008 cafodd y Sw Fynydd Gymreig ei chydnabod yn swyddogol fel Sw Genedlaethol Cymru.

Mae'r sw yn gartref i fwy na 140 o rywogaethau gan gynnwys mamaliaid, adar ac ymlusgiaid. Mae cyfleoedd hefyd i helpu'r ceidwaid gyda bwydo, a gweithdai ar dynnu lluniau o'ch hoff fwystfilod. Gyda’r llewpart eira hardd na welir yn aml, lemwriaid digywilydd, meerkatiaid direidus, arddangosfeydd hedfan gan eryrod ac adar ysglyfaethus eraill, a chwningod blewog annwyl yn sw’r plant, mae digon i’w weld a rhyngweithio ag ef.

 

8. Treuliwch Ddiwrnod yng Nghastell Penrhyn

Gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen arno ac yn ei reoli, mae gan y safle yng Nghastell Penrhyn ger Bangor amrywiaeth o atyniadau sy’n sicr o gadw’r teulu’n hapus.

Adeiladwyd y castell ei hun yn wreiddiol ym 1498, er nad yw’r castell ffurf ffantasi presennol, a adeiladwyd ym 1822, yn debyg iawn i’r maenordy caerog blaenorol. Mae mawredd yr ystâd yn cuddio cyfrinach dywyll, serch hynny, yn gysylltiedig â chyfnod gwaedlyd wrth ecsbloetio caethweision trawsatlantig.

Mae’r castell yn gartref i gasgliad celf ac arteffactau trawiadol, tra bo’r tiroedd yn cynnig llwybrau natur, cuddfannau adar a gardd furiog hardd. Gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau a pherfformiadau, gall ymwelwyr golli diwrnod cyfan yn hawdd wrth grwydro Castell Penrhyn.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

A post shared by Ross Jones (@filez)

 

9. Anelwch am Draeth Gorau Cymru – De Broadhaven

Yn boblogaidd gyda theuluoedd, syrffwyr a nofwyr, mae gan Dde Broadhaven bopeth rydych chi ei eisiau o draeth. Gan deimlo’n gysgodol hyfryd, er ei fod I’w ganfod ar arfordir garw Sir Benfro, mae gan y traeth ehangder llyfn o dywod meddal, euraidd, ac mae twyni tywod y tu ôl iddo. Ar drai, mae'r môr yn cilio gan roi benthyg hyd yn oed mwy o le i'r traeth, sy'n golygu nad oes angen i deuluoedd fyth deimlo ei fod yn rhy lawn. 

Mae presenoldeb achubwr bywyd yn sicrhau poblogrwydd y traeth, yn ogystal â’r cyfleusterau eraill gan gynnwys stondin hufen iâ, caffi yn gweini te hufen, siopau lleol a thafarn groesawgar. Yn berffaith ar gyfer diwrnod allan, mae De Broadhaven yn hudolus.

  • Tocynnau: AM DDIM
  • Hwyl i'r teulu cyfan
  • Mwynhewch yr Awyr Agored

Broadhaven Beach

 

10. Ewch ‘nôl i’r Gorffennol yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan

Ychydig y tu allan i Gaerdydd, mae Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn cynnig cyfle unwaith-mewn-oes i ymwelwyr brofi hanes byw. Mae’r amgueddfa awyr agored hon wedi’i lleoli ar dir helaeth Castell Sain Ffagan, maenordy trawiadol o Oes Elisabeth gyda statws rhestredig Gradd I. Mae cylchgrawn Which? wedi pleidleisio Sain Ffagan yn hoff atyniad ymwelwyr yn y DU gyfan. Mae hefyd wedi’i henwi’n Amgueddfa’r Flwyddyn y DU 2019 gan y Gronfa Gelf, a ddywedodd ei bod yn dangos “dychymyg, arloesedd a chyflawniad eithriadol.”

Mae dros 40 o adeiladau wedi’u hailadeiladu’n union fel y gwreiddiol ar draws 100 erw’r safle, gan gynnwys fferm o’r Oes Haearn, llys tywysog canoloesol, a thanws. Mae yna hefyd weithdai lle mae crefftau traddodiadol yn cael eu harddangos, megis gof, crochenwaith, a gwneud clocsiau, man dysgu a chanolfan chwarae i blant, a bwyty.

Gall ymwelwyr hefyd archwilio fferm weithredol yr amgueddfa. Yn gartref i fridiau traddodiadol a phrin o dda byw Cymreig, mae’r siop ar y safle yn gwerthu nwyddau o’r fferm, ac o’r ddwy felin weithredol – un yn melino blawd a’r llall wlân o ddefaid y fferm.

Mae cymaint i’w weld a’i wneud yn Sain Ffagan, mae’n hawdd gweld pam ei fod mor uchel ei barch gan ymwelwyr.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

A post shared by 🐙 (@thefussyoctopus)