Wedi'i leoli rhwng Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe, mae Castell-nedd Port Talbot yn hawdd ei gyrraedd ar drên a bws. Mae yna nifer o atyniadau a digon i'w wneud felly mae'n gyrchfan wych os ydych chi'n cynllunio gwyliau, penwythnos i ffwrdd neu awydd diwrnod allan.

 

1. Archwiliwch Abaty Nedd

Yn cael ei gydnabod ar draws gwlad un adeg fel un o abatai harddaf Cymru, mae Abaty Nedd bellach dan ofal CADW. Fe’i sefydlwyd gan farchogion yn y 12fed ganrif, a thyfodd mewn cyfoeth ac enw da. Erbyn diwedd y 1300au, hi oedd y cyfoethocaf o’r abatai Cymreig, gydag ymhell dros 100 o fynachod a brodyr lleyg yn byw yn ei neuaddau helaeth ac yn gweithio ar y stad.

Erys llawer o gynllun yr Abaty o hyd, gan alluogi ei ymwelwyr niferus i werthfawrogi ei raddfa a’i fawredd. Mae wedi ymddangos mewn sawl rhaglen deledu’r BBC, gan gynnwys Dr Who a Merlin, lle cafodd ei drawsnewid yn gartref i’r Ford Gron chwedlonol. Mae’n lle gwych i ymlacio, a mwynhau picnic.

Neath Abbey

 

2. Treuliwch Ddiwrnod ar Draeth Aberafan

Mae’r hyfryd Fae Abertawe yn cynnwys nifer o draethau hynod boblogaidd, ac mae Aberafan ym Mhort Talbot yn un o’r rhai gorau oll. Gan ymestyn am dair milltir, mae’r ehangder o dywod euraidd yn ddelfrydol i deuluoedd, gan gynnig nofio diogel gydag achubwr bywyd yn bresennol, a digon o le i adeiladu cestyll enfawr. Mae'r pen gogleddol hefyd yn boblogaidd gyda chaiacwyr a syrffwyr, tra bod cychod hwylio tywod a syrffwyr barcud yn rasio ar y traeth.

Gerllaw mae digon o weithgareddau i'w mwynhau, gan gynnwys parc sglefrio, mannau chwarae i blant a phwll dŵr antur. Mae’r Llwybr Celtaidd, sy’n rhan o’r Llwybr Beicio Cenedlaethol, yn dilyn y promenâd eang o amgylch y bae, ac mae digonedd o gaffis, bwytai a bariau i ymlacio ynddynt a mwynhau’r golygfeydd. 

 

3. Mwynhewch yr Hud ym Mharc Gwledig Margam

Mae Parc Gwledig Margam yn cynnig 850 erw llawn o hwyl ac antur.

O fewn ystâd helaeth y parc mae nifer o adeiladau hynod ddiddorol - mynachlog Sistersaidd, Orendy hyfryd o gain, a phlasty neo-Gothig trawiadol. Mae peunod yn crwydro'n rhydd ac mae ceirw llwyd a choch wedi byw ar y stad ers cyfnod y Normaniaid.

Mae’r Pentref Tylwyth Teg, y maes chwarae antur, a’r llwybr coetir wedi’u cynllunio i ysgogi a chyffroi plant, ac mae trên y parc yn mynd â chi o un antur i’r llall. Mae gan Barc Gwledig Margam rywbeth at ddant pawb. Gallwch dreulio diwrnodau yn archwilio a bod yn dal heb weld y cyfan.

 

4. Mwynhewch yr Awyr Agored ym Mharc Coedwig Afan

Fel un o gyrchfannau beicio mynydd mwyaf eiconig y DU, mae Parc Coedwig Afan yn berffaith ar gyfer anturiaethau sy’n addas i deuluoedd. Mae yna lu o lwybrau beicio mynydd enwog, llwybrau cerdded ag arwyddbyst a llwybrau beicio addas i deuluoedd gyda Chwm Afan hardd yn gefndir iddynt.

 

5. Parc Gwledig Ystâd y Gnoll

Mae Parc Gwledig Ystâd y Gnoll wedi'i leoli ymhlith 230 erw o goetir. Mae maes chwarae antur, parc chwarae i blant ac amrywiaeth o fannau picnic a meinciau ynghyd â phyllau pysgota. Mae yna hefyd gwrs golff bach hwyliog 9 twll ‘pitch and putt’, a gallwch roi cynnig ar gyfeiriannu neu geogelcio.

Os ydych yn anelu am Dde Cymru, mae Castell-nedd Port Talbot yn lle perffaith ar gyfer seibiant hamddenol ger y môr, ond eto gyda digon ar wahan i’r traeth i ddiddori teuluoedd a phlant.