Sefydlwyd tref farchnad brysur Wrecsam yng ngogledd Cymru yn yr 11eg ganrif. Erbyn y 1500au hi oedd tref fwyaf Cymru, gan ddatblygu i chwarae rhan ganolog yn y Chwyldro Diwydiannol yn y 18fed ganrif, diolch i ddiwydiant glo a phlwm y rhanbarth.

Heddiw mae’r dref yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr, ac mae ei hagosrwydd at Barc Cenedlaethol Eryri yn ei gwneud yn ganolfan dda ar gyfer crwydro’r ardal. Mae ystod eang o lety - o fythynnod gwyliau clyd i westai moethus, a nifer o atyniadau addas i deuluoedd yn y cyffiniau. Os ydych am ddianc oddiwrth y cyfan, mae tref hynaws Wrecsam yn ddewis gwych.

Wrexham Viaduct

 

1. Archwiliwch Xplore! Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth

Yng nghanol Wrecsam, mae Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore yn darparu ffordd gwbl ryngweithiol a chyffrous o ddysgu am wyddoniaeth. Bydd llygaid oedolion a phlant yn cael eu hagor i'r byd o'u cwmpas a byddwch yn gadael gyda'ch ymennydd ar dân.

Gan annog dychymyg, meddwl beirniadol ac ymchwilio, mae Xplore yn dod â gwyddoniaeth yn fyw i deuluoedd, ond mae hefyd yn rhoi cyfle gwych i'r ysgolion a'r colegau lleol. Mae gan hyd yn oed blantos bychain eu sesiynau gwyddoniaeth eu hunain, mae diwrnodau synhwyraidd arbennig ac mae’r gweithdai yn agored i bawb. Yn y Ganolfan Wyddoniaeth mae dysgu’n datblygu’n hwyl sy’n ehangu’r meddwl. Mae'r siop a'r caffi ar y safle yn lleoedd gwych i ymlacio wedyn, a phrosesu’ch holl wybodaeth newydd.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

A post shared by James Wilson (@chilterndad)

 

2. Ewch yn Wyllt ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr

Yn gorwedd ar lan yr Afon Dyfrdwy hardd, mae Parc Gwledig Tŷ Mawr yn berffaith ar gyfer diwrnod llawn hwyl i'r teulu. Wedi'i ddynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, mae'r parc yn darparu mynediad i'r golygfeydd gorau sydd gan Gymru i'w cynnig. Yn tra-arglwyddiaethu ar yr olygfa mae Traphont urddasol Cefn. Wedi'i hadeiladu yn 1848 i gludo trenau ar draws dyfroedd cythryblus y Ddyfrdwy, mae'n 147 troedfedd (45m) o uchder ac yn 1508 troedfedd (466m) o hyd, gyda 15 bwa crwm gosgeiddig.

Dyfarnwyd y Faner Werdd i Dŷ Mawr bob blwyddyn ers 2006 gan gydnabod ei reolaeth a’i hygyrchedd da. Wrth i chi droelli ar hyd y llwybrau sydd wedi’u nodi, fe allech chi weld anifeiliaid fferm o frid prin, y lamaod sy’n gwarchod ŵyn rhag llwynogod newynog, neu hyd yn oed eogiaid yn llamu yn y Ddyfrdwy. Gyda pholisi organig y parc, mae yna nifer o rywogaethau o flodau gwyllt, trychfilod ac anifeiliaid, tra bod haul yr haf yn dod â therfysg o liw i’r dolydd.

 

3. Darganfyddwch Ddyfrbont Pontcysyllte

Wedi’i dylunio i gludo Camlas Llangollen ar draws yr Afon Dyfrdwy, adeiladwyd Dyfrbont Pontcysyllte ym 1805. Mae wedi’i chydnabod yn adeilad rhestredig Gradd I, a dyfarnwyd statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO iddi hi ynghyd ag 11 milltir o Gamlas Llangollen.

Yn 12 troedfedd (3.7 metr) o led, a 336 llath (307 m) o hyd, dyma’r hwyaf ym Mhrydain Fawr, a chydag uchder o 126 troedfedd (38 m), dyma’r uchaf yn y byd. Mae ei 18 bwa wedi’u dylunio’n gain i ddarparu’r cryfder a’r gwydnwch eithaf, ond eto’n edrych yn hardd, ac mae UNESCO wedi disgrifio’r ddyfrbont, a adeiladwyd gan Thomas Telford a William Jessop, fel ‘campwaith o athrylith greadigol’.

Ewch ar daith o amgylch yr ardal, rhowch gynnig ar lywio cwch, a gallwch h gwrdd â'r ceffylau wrth iddynt gerdded y llwybr tynnu ger y gamlas, gan dynnu'r badau. Mae llawer i’w weld a’i wneud ar Ddyfrbont Pontcysyllte.

 

4. Mwynhewch yr awyr agored ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun

Mae Parc Gwledig Dyfroedd Alun wedi’i leoli o fewn harddwch Dyffryn Alun a dyma’r parc gwledig mwyaf yn ardal Wrecsam. Yn safle achrededig Gwobr y Faner Werdd, mae amrywiaeth o lwybrau cerdded coetir, glaswelltir a glan yr afon ledled y parc. 
Gyda chanolfan ymwelwyr, caffi a siop anrhegion, mae Parc Gwledig Dyfroedd Alun yn llecyn hardd i ymweld ag ef unrhyw adeg o'r flwyddyn.

 

5. Castell y Waun

Yn gaer ganoloesol odidog y Mers, mae Castell y Waun yn frith o 700 mlynedd o hanes. Gyda 5.5 erw o erddi arobryn, daeargelloedd ar ddwy lefel, a thyllau llofruddio, mae gan Gastell y Waun 480 erw o barcdiroedd i’w harchwilio. Yn bwysig, mae digon o le i’r rhai bach redeg o gwmpas a chwarae. Mae yna hefyd ystafell weithgareddau lle gall plantos chwarae gemau, gwisgo amdanynt a dysgu am orffennol diddorol y castell.

  • Delfrydol ar gyfer pobl sy'n hoff o hanes
  • 480 erw o erddi prydferth a daeargelloedd arswydus
  • Gwefan Castell y Waun