Mae tref Caerfyrddin yn Ne Cymru yn denu llawer o dwristiaid gyda’i hamrywiaeth o atyniadau, hygyrchedd ac agosrwydd at gyrchfannau gwych eraill, fel Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot.

Tref ar lannau Afon Tywi, sy’n enwog am bysgota eogiaid, yw Caerfyrddin ac mae rhai pobl yn honni mai dyma’r dref hynaf yng Nghymru. Ond heddiw, gyda'i phrifysgol yn denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd, mae’r awyrgylch yn fywiog a chosmopolitan.

 

1. Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnig dros 400 erw i chi ei archwilio. Mae dolydd llawn blodau, coetiroedd, rhaeadrau, a llawer o atyniadau byw yn golygu y gallwch yn hawdd dreulio diwrnod yn mwynhau’r ardd. Mae’n hygyrch i bawb ac mae llawer i’w weld a’i wneud. Felly manteisiwch ar yr amrywiaeth o lwybrau ac apiau sydd ar gael i’ch helpu i wneud y gorau o’ch ymweliad. 

 

2. Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain

Mae ymweld â Chanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain, sydd ychydig y tu allan i Gaerfyrddin, yn brofiad anhygoel. Mae’r ganolfan wedi’i lleoli yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, lle mae’r adar eithriadol o hardd yn hedfan yn agos at eu cynulleidfa ac mae ymwelwyr yn cael cyfle i drin a hedfan eu hoff adar ysglyfaethus. Mae barcutiaid coch, tylluanod, eryrod a hebogiaid ymhlith rhai o’r adar y byddwch yn eu gweld. Mae hyd yn oed cyfleoedd i fabwysiadu un a chael nwyddau, lluniau a’r newyddion diweddaraf amdano’n rheolaidd. Mae’r Ganolfan Adar Ysglyfaethus yn addas i’r teulu cyfan, ac mae’n ddiwrnod allan gwych.

British Bird of Prey Centre

 

3. Castell Caerfyrddin

Mae adfeilion Castell Caerfyrddin sy’n edrych dros Afon Tywi, yn dangos pa mor fawreddog oedd y gaer hon pan oedd ar ei chryfaf a’i mwyaf cadarn. Cafodd ei adeiladu yn y 1100au, a daeth yn ganolfan weinyddol bwysig yn ne-orllewin Cymru. Drwy gydol hanes hir y castell, mae wedi dioddef nifer o ymosodiadau ac mae wedi newid dwylo sawl gwaith. Mae’r castell wedi cael ei ddefnyddio mewn sawl ffordd, gan gynnwys bod yn garchar a swyddfa heddlu’r dref, ond mae bellach yn gartref i gasgliad amgueddfa diddorol o greiriau o orffennol Caerfyrddin.  

  • Lleoliad: Llai na 10 munud ar droed o orsaf Caerfyrddin
  • Darganfod adfeilion y castell
  • Mynediad am ddim

 

4. Rheilffordd Gwili

Mae Rheilffordd Gwili, sy’n ymestyn dros bellter o 4.5 milltir, yn rhoi cyfle i blant ac oedolion yrru eu peiriant stêm eu hunain. Yn rhedeg ar drac lled safonol wedi'i warchod, mae'r rheilffordd dreftadaeth hon yn hanfodol i bawb sy'n frwd dros y rheilffyrdd.

Mae’n dilyn rhai o’r llwybrau gwreiddiol rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, ac yn mynd â chi o Danycoed i Bronwydd Arms. Mae’r trên yn crwydro glannau Afon Gwili, gan fynd drwy fryniau coediog a dyffrynnoedd tonnog. Gyda nifer o ddigwyddiadau i ymwelwyr a grŵp mawr o wirfoddolwyr brwd ac ymroddedig, mae Rheilffordd Gwili yn ddiwrnod allan gwych. 

 

P’un a ydych chi’n ymweld am yr hanes, y teithiau cerdded hyfryd neu i gael gwyliau hamddenol, Caerfyrddin yw’r lle i chi. Mae gan yr hen dref hon lawer i’w gynnig i ymwelwyr o hyd, ac mae wedi datblygu i fod yn dref gosmopolitan gyda chysylltiadau da.