Gwella gwasanaethau bysiau ledled Cymru

Rydyn ni’n edrych ar sut gallwn ni wella amseroedd teithio a dibynadwyedd gwasanaethau bysiau ledled Cymru.

Dyma olwg fanylach ar yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal chi:

Gogledd Cymru

  • Bydd ein Rhaglen Metro Gogledd Cymru sydd werth miliynau o bunnoedd yn trawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol ledled Gogledd Cymru. 
  • Rydyn ni'n gweithio ar gynlluniau i wella gorsafoedd, gan ei gwneud hi’n haws newid rhwng y rheilffordd a’r gwasanaeth bws yn Wrecsam Cyffredinol, a rhwng gwasanaethau Arfordir Gogledd Cymru a Rheilffordd Borderlands yn Shotton. 
  • Rydym wedi gweithio gyda Chyngor Sir Gwynedd i wella hen wasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa. Mae Sherpa’r Wyddfa newydd bellach yn gweithredu yn yr ardal, gan ddod â thwristiaid a phobl leol i’r Parc Cenedlaethol. Mae’n cefnogi’r economi leol ac yn helpu i leddfu tagfeydd ar y ffyrdd drwy annog ymwelwyr i adael eu ceir gartref neu y tu allan i’r Parc Cenedlaethol. 
  • Rydyn ni’n cyflwyno trafnidiaeth fwy hyblyg sy’n ymateb i’r galw gyda gwasanaethau bws fflecsi yn cael eu cyflwyno yng Nghonwy, Gwynedd, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
  • Rydyn ni’n adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth mwy aml-ddull yn y rhanbarth drwy integreiddio gwasanaethau bysiau â dulliau trafnidiaeth eraill. 
  • Rydyn ni’n cyflwyno teithiau tapio ar y dechrau a’r diwedd wedi'u capio gan ddefnyddio cardiau banc digyswllt ar draws 25 o weithredwyr bysiau yng Ngogledd Cymru. Ar ben hynny, rydyn ni wedi gweithio gyda’r awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau i gyflwyno teithiau tapio ar y dechrau a’r diwedd ar y tocyn 1bws sy’n cefnogi teithiau wedi’u capio ar bob gwasanaeth bws yng Ngogledd Cymru am £6.

 

De Cymru

  • Rydyn ni’n gweithio gyda Chyngor Caerdydd i ddatblygu Cyfnewidfa Bws Caerdydd. Mae’n rhan o ganolfan drafnidiaeth integredig a fydd yn darparu cyfnewidfa hawdd rhwng pob math o drafnidiaeth gyhoeddus. 
  • Rydyn ni’n gweithio gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf i ddarparu a gweithredu cyfnewidfa bysiau threnau newydd yn y Porth. 
  • Rydyn ni’n gweithio gyda Chyngor Caerffili i ddarparu cyfnewidfa bysiau a threnau newydd yng Nghaerffili.
  • Rydyn ni’n gweithio gyda Rhanbarth Dinas Caerdydd ac awdurdodau lleol i ddarparu achosion busnes Cam 2 WelTAG i gyflawni Fframwaith Gwella’r Metro ar gyfer pedwar coridor trafnidiaeth gyhoeddus ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd hyn yn caniatáu ar gyfer integreiddio dulliau teithio ac amseroedd teithio cyflymach ar fysiau.
  • Rydyn ni’n helpu Uned Gyflawni Burns i gyflymu’r broses o roi argymhellion Burns ar waith. Mae hyn yn cynnwys Bus Rapid Transit (BRT) rhwng Casnewydd a Chaerdydd, cynigion ar gyfer cyfnewidfa bysiau a threnau newydd yng ngorsaf drenau Casnewydd ac ailagor cylchfan brysur Old Green i roi blaenoriaeth i fysiau, cerddwyr a phobl sy’n teithio ar olwynion.
  • Rydyn ni wedi cyflwyno bysiau trydan ar lwybr T7 TrawsCymru rhwng Cas-gwent a Bryste.

 

  • Beth sydd ar y gweill gyda bysiau?
      • Rydyn ni’n edrych ar ragor o ffyrdd y gallwn annog pobl i newid o geir i fysiau i helpu i ddatgarboneiddio rhwydwaith trafnidiaeth Cymru.
      • Rydyn ni’n darparu gwybodaeth gliriach i gwsmeriaid mewn gorsafoedd rheilffordd i hyrwyddo teithio ymlaen ar fws.
      • Rydyn ni’n edrych ar gynigion ar gyfer tocynnau mwy integredig rhwng bysiau a threnau er mwyn arbed amser i chi a symleiddio eich teithiau.
      • Rydyn ni’n annog mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau bysiau a llwybrau cerdded, ar olwynion a beicio, gyda manteision i’n hiechyd yn ogystal â’n hamgylchedd.
      • Rydyn ni’n datblygu cynllun talu wrth ddefnyddio, sy’n cynnwys tocynnau digyswllt integredig ar gyfer rheilffyrdd a bysiau a chapio prisiau aml-daith.
      • Mae ymchwil ac arloesi yn cael ei gynnal a fydd yn caniatáu i fysiau ddefnyddio tanwyddau glân fel hydrogen, yn ogystal â defnyddio trydan.