Bellach, APCOA sy'n gofalu am ein meysydd parcio gorsafoedd

Mae APCOA Parking UK bellach yn gweithredu ac yn rheoli meysydd parcio gorsafoedd rheilffordd ar ran Trafnidiaeth Cymru.

 

Sut mae hyn yn effeithio arna i?

PayByPhone

Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer ap PayByPhone, gallwch ddefnyddio'r un manylion i fewngofnodi i'ch cyfrif a defnyddio'r ap i dalu ym mhob un o feysydd parcio gorsaf TrC.

I gael manylion llawn ewch i wefan PayByPhone.

 

Tocynnau tymor

Os oes gennych docyn parcio tymor ar gyfer unrhyw faes parcio gorsaf TrC, bydd hyn yn parhau'n ddilys tan ei ddyddiad dod i ben presennol.  Gallwch barhau i ddefnyddio ein peiriannau tocynnau i brynu’r tocyn.

Sicrhewch bod eich tocyn Tymor papur bob amser yn cael ei arddangos wrth barcio mewn maes parcio gorsaf.

Os hoffech brynu tocyn Tymor rhithwir, ewch i wefan APCOA i gofrestru. Cofiwch y bydd angen i chi wneud hyn cyn i'ch tocyn presennol ddod i ben.

Gwefan APCOA

 

Deiliad Bathodyn Glas?

Cofiwch arddangos eich bathodyn glas os ydych yn parcio yn un o’n mannau hygyrch. Byddwch yn talu ein cyfraddau safonol os bydd costau parcio yn berthnasol.

Gwefan APCOA

 

Gyrwyr tacsi

Os nad ydych wedi gwneud hyn eisoes, cofrestrwch ac ymgeisiwch am drwydded tacsi rithwir newydd ar wefan APCOA i'w defnyddio ym meysydd parcio gorsaf TrC.

APCOA TfWRL Taxi Permit Portal

 

Cyfyngiadau parcio ceir

Rydym yn gwneud gwaith seilwaith ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r gororau i adfywio ein gorsafoedd a darparu gwasanaethau cyflymach, amlach sy’n diwallu anghenion ein cwsmeriaid yn well.

Mewn rhai o’n gorsafoedd, efallai y bydd llai o leoedd parcio ar gael gan fod angen i ni ddarparu mynediad i’r rheilffordd i’n contractwyr.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y mae hyn yn ei achosi. Rydym yn gweithio'n galed i gwblhau'r gwaith hwn yn ddiogel, cyn gynted ag y gallwn.

Ewch i'n tudalennau gorsafoedd i weld a oes unrhyw gyfyngiadau parcio ar waith.

 

Prisiau parcio yn ein meysydd parcio

Gorsaf

Dyddiol Wythnosol

Nifer y bylchau

Y Fenni £4.25 £17.00 66
Bangor £4.75 £20.00 214
Pen-y-bont ar Ogwr £7.40 £30.00 94
Caerdydd £13.25 £53.00 353
Caerfyrddin £4.25 £17.00 64
Caer £8.50 £34.00 252
Bae Colwyn £4.75 £20.00 74
Henffordd £6.40 £26.00 135
Cyffordd Llandudno £4.75 £20.00 66
Llwydlo £4.25 £17.00 26
Castell-nedd £5.30 £22.00 64
Casnewydd £10.60 £43.00 250
Doc Penfro £1.60 £7.00 19
Port Talbot £5.30 £22.00 135
Twnnel Hafren £4.00 £16.00 105
Amwythig £5.85 £24.00 203
Abertawe £7.40 £30.00 3 (Mannau i'r anabl)
Dinbych-y-pysgod £4.25 £17.00 75
Wrecsam Cyffredinol £4.75 £20.00 62

Cewch ragor o wybodaeth gan gynnwys lleoliadau, tariffau, oriau agor a nifer y llefydd parcio drwy chwilio am orsaf yma.

 

Manylion cyswllt

Gwefan: https://www.apcoa.co.uk/contact/

Ffôn: 03453 193 542