Mae ein gwasanaethau Dosbarth Cyntaf yn cynnig bwyd ffres wedi’i baratoi’n fedrus gan ein cogyddion ar y trên

P’un a ydych chi’n teithio ar gyfer busnes neu bleser, mae tocynnau Dosbarth Cyntaf yn cynnig ein profiad gorau o deithio, gyda seddi mwy a diodydd meddal a bisgedi am ddim ar lwybrau penodol.

Ciniawa yn y Dosbarth Cyntaf? Mae dewisiadau tymhorol gan ddefnyddio’r cynhwysion lleol gorau wrth galon ein bwydlenni blasus. Ar beth fyddwch chi’n rhoi cynnig?

 

I frecwast

Boed yn frecwast llawn, yn rhywbeth ychydig yn fwy melys, neu’n ffefryn modern.

Bydd ein brecwast yn eich paratoi ar gyfer y diwrnod.

Gweld ein bwydlen brecwast

 

I ginio neu swper

Beth gymrwch chi, dau gwrs neu dri, wedi’u paratoi’n ffres gan ein cogyddion ar y trên?

Cofiwch holi am bryd arbennig y cogydd yr wythnos hon.

Gweld ein bwydlen cinio neu swper

 

Archebwch eich tocynnau nawr i fwynhau ein profiad ciniawa Dosbarth Cyntaf. Maen nhw ar gael ar ein Gwasanaeth Premier rhwng Caerdydd a Chaergybi a Chaerdydd a Manceinion. Gallwch hefyd uwchraddio o docyn Dosbarth Safonol lle bo hynny’n bosibl.

Rhagor o wybodaeth am deithio yn y Dosbarth Cyntaf