Gweithredu diwydiannol

Mae’r undeb gyrwyr trenau ASLEF wedi cyhoeddi y bydd 16 o Gwmnïau Gweithredu Trenau (heb gynnwys TrC) yn cynnal gweithredu diwydiannol rhwng dydd Gwener 5 Ebrill - dydd Llun 8 Ebrill a gwaharddiad ar oramser o ddydd Iau 4 Ebrill i dydd Sadwrn 6 Ebrill a dydd Llun 8 Ebrill i dydd Mawrth 9 Ebrill.

Nid yw Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhan o weithredu diwydiannol gan aelodau o undeb y gyrwyr trenau ASLEF.

Bydd gwasanaethau TrC yn rhedeg ond bydd gwasanaethau gweithredwyr trenau eraill ar y rhwydwaith rheilffyrdd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban yn gyfyngedig. Mae rhai o’n gwasanaethau’n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i’r amserlen sydd wedi'i chwtogi'n sylweddol a roddwyd ar waith gan weithredwyr eraill.

Bydd y gweithredu diwydiannol hwn yn effeithio ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Gwener 5 Ebrill (Avanti West Coast, CrossCountry, East Midlands Railway a West Midlands Trains)
  • Dydd Sadwrn 6 Ebrill (Chiltern, GWR, LNER, Northern a TransPennine Trains)
  • Dydd Llun 8 Ebrill (c2c, Greater Anglia, GTR Great Northern Thameslink, Southeastern, Southern/Gatwick Express, South Western Railway a SWR Island Line)

Gwiriwch eich taith gyfan, gan gynnwys gwasanaethau a weithredir gan weithredwyr rheilffyrdd eraill gan y gallai lefel eu gwasanaeth fod yn wahanol i Trafnidiaeth Cymru.

 

Os ydych chi'n bwriadu mynychu unrhyw ddigwyddiadau ar ein rhwydwaith, gwiriwch eich taith gyfan.

 

  • Cwestiynau cyffredin
    • A yw gweithwyr Trafnidiaeth Cymru ar streic?

      Na, nid yw cydweithwyr TrC yn pleidleisio ac nid ydynt ar streic. Anghydfod yw hwn rhwng Undeb yr ASLEF a nifer o gwmnïau trenau yn Lloegr.

       

      Pam bod y streic hon yn effeithio ar wasanaethau TrC os nad yw eich staff yn cymryd rhan?

      Mae rhai o’n gwasanaethau’n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i’r amserlen sydd wedi'i chwtogi'n sylweddol a roddwyd ar waith gan weithredwyr eraill.

       

      A fydd gwasanaethau yn ôl i'r drefn arferol y diwrnod ar ôl y streic?

      Rydym yn bwriadu rhedeg ein hamserlenni arferol y diwrnod ar ôl y gweithredu diwydiannol. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd amhariad dilynol yn effeithio ar wasanaethau wrth i'r rhwydwaith ddod yn ôl i normal. Rydym yn cynghori cwsmeriaid yn gryf i wirio cyn teithio trwy gydol y cyfnod y cawn ein heffeithio gan weithredu diwydiannol.

       

      Os caiff y streic ei chanslo, fydd y trenau'n rhedeg?

      Oherwydd yr holl waith cynllunio a pharatoi y byddwn yn ei wneud cyn y dyddiau yr effeithir arnynt gan weithredu diwydiannol, mae "pwynt di-droi'n ôl" lle mae'n rhaid i ni fwrw 'mlaen â'n gwasanaeth. Mae hyn hyd yn oed os caiff y streic ei chanslo. Disgwylir y bydd hyn yn digwydd tua 24 awr cyn y streic.

       

      Pam na ellir adfer gwasanaethau os caiff streiciau eu gohirio?

      Mae angen o leiaf dri pheth arnoch i redeg amserlen. 

      • 1. Diagram Trên - Sy’n mapio ble mae pob trên yn cychwyn ac yn gorffen a ble mae’n mynd rhwng y ddau bwynt - gan gynnwys arosfannau tanwydd a chynnal a chadw ac ati. Er mwyn gwneud defnydd effeithlon o'r tanwydd/staff/seilwaith sydd ar gael, bydd unrhyw drên yn gwneud 3 neu 4 taith y dydd y mae'n cychwyn o un depo ac mae angen iddo ddychwelyd i un arall ar gyfer tanwydd/cynnal a chadw dros nos. Mae'r diagramau hyn yn ailadrodd dros gyfnod o wythnosau.
      • 2. Diagram staff - Sy’n mapio lle mae angen i aelodau staff ymuno â’r trên, pryd mae angen iddynt gymryd egwyl a sut maen nhw’n cyrraedd yn ôl i’w gorsaf wreiddiol ar ddiwedd eu sifft. Mae'r diagramau hyn yn berthnasol i griw trên, gyrwyr, archwilwyr tocynnau, gwarchodwyr ac ati. Er enghraifft, mae X yn dechrau ei shifft yng Nghaerdydd, yn teithio i Gaergybi a dwy gyrchfan arall cyn dychwelyd i’w depo cartref.
      • 3. Llwybr trên - Clirio ar gyfer trenau unigol (a ddarperir gan Network Rail) ar y trac fel y gall trenau lluosog redeg ar amser/rhyngweithio â’i gilydd yn synhwyrol ac yn effeithlon - gan gynnwys gyda defnyddwyr traciau eraill fel timau cludo nwyddau a chynnal a chadw traciau.
      • 4. Pan fyddwn yn newid amserlenni, nid dim ond mater o newid amseriad trenau unigol ydyw, mae angen ichi ddod â phob un o’r tri newidyn hynny ynghyd a gwneud iddynt weithio fel amserlen gydlynol. Yn ôl trefn arferol, gall dod â’r elfennau hyn ynghyd i greu amserlen gymryd wythnosau.
      • 5. Ar gyfer diwrnodau streic mae'n rhaid i gwmnïau trenau adeiladu eu hamserlenni symlach o amgylch y lefel o staff sydd ar gael iddynt - mae'n rhaid iddynt gymryd yn ganiataol na fydd rhai carfannau o staff yn gweithio oherwydd bod y mwyafrif yn perthyn i'r Undeb sydd wedi cyhoeddi'r streic - felly nid ydynt ar y rhestr ddyletswyddau (Caiff eu disodli gan staff wrth gefn sy'n gymwys i sicrhau diogelwch i redeg amserlen streic).  Mae'r gostyngiad mewn gwasanaethau hefyd yn golygu nad yw staff mewn rolau nad ydynt yn rhaid sy'n perthyn i rôl gweithredu diwydiannol yn cael eu rhoi ar rota oherwydd nad oes unrhyw drenau yn y cynllun iddynt weithio arnynt. Yn y dyddiau cyn y streiciau, mae trenau'n cael eu symud fel eu bod yn y lle iawn i redeg amserlen y streic sydd wedi'i symleiddio'n sylweddol.
      • 6. Mae canslo streic ar fyr rybudd yn golygu bod angen i ni gynllunio’r holl ddiagramau hyn i fodloni’r amserlenni ar gyfer amserlen arferol diwrnod yr wythnos ac mae hynny'n anoddach fyth oherwydd nad yw llawer o drenau, criwiau ac ati yn y lle iawn - h.y. maen nhw yn y lle iawn ar gyfer amserlen y streic amserlen ond nid ar gyfer amserlen arferol.
      • 7. Yn olaf, mae angen i Network Rail resymoli'r holl gynlluniau hyn i sicrhau bod popeth yn cyd-fynd.

       

      Rwy'n mynd i ddigwyddiad mawr ar ddiwrnod y streic - a fydd y trenau yn rhedeg?

      Rydym yn ymwybodol y cynhelir nifer o ddigwyddiadau ar ddyddiau'r streic ac yr effeithir arnynt gan y gweithredu diwydiannol.  Fodd bynnag, yn anffodus, ni allwn wneud eithriadau ar gyfer y rhain. Byddwn yn darparu cymaint o le ar ein trenau ag y gallwn ar y gwasanaethau fydd yn rhedeg.

       

      A fydd cwmnïau trenau eraill yn rhedeg yn eu lle?

      Bydd staff 16 o weithredwyr trenau eraill yn cymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol:

      • Avanti West Coast
      • c2c
      • Chiltern
      • CrossCountry
      • East Midlands Railway
      • Greater Anglia
      • GTR Great Northern Thameslink
      • GWR
      • LNER
      • Northern
      • South Western Railway
      • Southeastern
      • Southern/Gatwick Express
      • SWR Island Line
      • TransPennine Trains
      • West Midlands Trains

      Rydym yn cynghori gwirio gyda gweithredwyr unigol ynghylch y gwasanaeth y byddant yn ei gynnig, ond mae'r rhan fwyaf o weithredwyr yn cynghori i beidio â theithio ar ddiwrnodau'r gweithredu diwydiannol.

 

Gwaith trawsnewid y Metro

I gael gwybod am y gwaith trawsnewid y Metro a all effeithio ar yr amserlen, ewch i’r dudalen hon.

Gwaith trawsnewid y Metro