Skip to main content

Beyonce at the Principality Stadium travel advice – update

11 Mai 2023

Mae teithwyr o Gymoedd De Cymru sy’n mynychu cyngerdd Beyonce yn cael eu hannog i adael ddigon o amser ar gyfer eu taith gan fod bysiau yn lle trenau y neu lle ddydd Mercher (17 Mai).

Mae teithwyr o Gymoedd De Cymru sy’n mynychu cyngerdd Beyonce yn cael eu hannog i adael ddigon o amser ar gyfer eu taith gan fod bysiau yn lle trenau y neu lle ddydd Mercher (17 Mai).

Oherwydd gor-redeg gwaith peirianyddol fel rhan o drawsnewidiad Metro De Cymru, ni fydd unrhyw drenau i'r gogledd o Bontypridd (Rheilffyrdd Treherbert a Merthyr Tudful) ac Aberpennar (Rheilffordd Aberdâr) drwy dydd Mercher.

Bydd hyn yn effeithio ar deithwyr sy’n mynd i/o gyngerdd Beyonce yn Stadiwm Principality Caerdydd. Bydd cynllunwyr taith ar wefan TrC a gwefannau eraill yn cael eu diweddaru o ddydd Sadwrn 13 Mai i adlewyrchu’r newidiadau diweddaraf. Ewch i www.journeycheck.com/tfwrail 

Bydd bysiau newydd yn gweithredu ar y llwybrau hyn, gyda newidiadau i wasanaethau rheilffordd ym Mhontypridd ac Aberpennar. Cytunwyd hefyd ar dderbyniad tocyn gyda Stagecoach ar gyfer y gwasanaethau isod:

  • T4 Merthyr – Pontypridd
  • 60/61 – Aberdâr i Bontypridd
  • 120-130 – Treherbert – Pontypridd
  • 132 – Pontypridd - Porth

Dywedodd cynrychiolydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: “Yn anffodus mae ein gwaith peirianyddol arfaethedig yn gor-redeg wrth i ni gwblhau’r holl wiriadau angenrheidiol i ganiatau i’r seilwaith gael ei ailagor yn ddiogel.

“Rydym yn deall y bydd yr estyniad i fysiau yn lle trenau ar hyn o bryd yn rhwystredig i deithwyr, yn enwedig gyda digwyddiad mawr yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

“Mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn ymgyfarwyddo â’r amserlenni bysiau yn lle trenau er mwyn cyrraedd y digwyddiad a dychwelyd adref yn ddiogel wedyn. Mae gennym hefyd drefniadau derbyn tocynnau ar waith gyda gweithredwyr bysiau a chynghorir cwsmeriaid i ddefnyddio’r rhain lle bo modd.”

Bydd gwaith peirianyddol ar Reilffordd Merthyr Tudful yn parhau tan o leiaf ddydd Iau 18 Mai ac ar Lein Aberdâr (i’r gogledd o Aberpennar) tan ddydd Sul 21 Mai. Mae Rheilffordd Treherbert ar gau ar hyn o bryd tan fis Chwefror 2024 ar gyfer gwaith trawsnewid mawr.

Am ragor o wybodaeth ewch i trc.cymru