• A oes unrhyw gyfyngiadau’r coronafeirws o ran teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus?
    • Er nad oes cyfyngiadau teithio ar hyn o bryd. Gallwch weld canllawiau teithio diweddaraf Llywodraeth Cymru yma.

      Rydym yn annog pawb i barhau i deithio'n fwy diogel a bod yn deithiwr cyfrifol drwy:

      Cyn teithio

      • Cynlluniwch eich taith. Gall rhai o'n gwasanaethau fod yn brysur. Dewch o hyd i drenau gyda gofod, ein Gwiriwr Capasiti.
      • Ewch yn ddigyffwrdd a phrynwch eich tocyn o'n ap. Mae gwiriadau tocynnau ar waith.
      • Peidiwch â theithio os ydych chi'n teimlo'n sâl.

      Yn ystod eich taith

      • Meddyliwch am wisgo gorchudd wyneb ar ein trenau ac yn adeiladau ein gorsaf.
      • Cerddwch neu feiciwch ar deithiau byrrach os gallwch chi.
      • Cadwch unrhyw ffenestri ar agor i helpu awyru.
      • Byddwch yn barchus - nid yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dderbyniol yn unrhyw le ar ein rhwydwaith.
      • Cadwch eich pellter - mae Coronafeirws yn dal yn ein cymunedau, helpwch ni i barhau i Gadw Cymru'n Ddiogel drwy gadw pellter parchus oddi wrth eraill os gallwch chi.
  • Sut gallaf fod yn siŵr fod gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn lân?
    • Mae cerbydau a threnau trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i gael eu glanhau’n drylwyr yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae ein timau glanhau’n mynd ati’n rheolaidd ac yn drylwyr i lanhau mannau a gaiff eu defnyddio’n aml, fel byrddau, dolenni, peiriannau tocynnau ac unrhyw lefydd y bydd teithwyr yn eu cyffwrdd yn rheolaidd, yn cynnwys mannau mewn gorsafoedd. Cyhoeddwyd adroddiad diweddar ar ddiogelwch trenau a gorsafoedd, a gallwch ddarllen adroddiad y BBC yma.

  • A fydd angen i fi gael prawf negatif cyn teithio?
    • Na fydd. Ni fydd angen i chi gymryd prawf Covid cyn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond ond byddem yn eich annog i gymryd llif unfordd cyn i chi deithio, os gallwch. Peidio â theithio os ydych yn teimlo’n sâl, hyd yn oed os mai mân symptomau sydd gennych.

      Os ydych yn arddangos symptomau, dilynwch ganllawiau diweddaraf y llywodraeth yma.

  • A fydd hi’n ofynnol i fi gael brechlyn cyn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus?
    • Na fydd. Ni fydd yn ofynnol i chi gael brechlyn covid cyn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn y DU, ond rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb ar ein gwasanaethau, oni bai eich bod wedi eich eithrio rhag gwneud hynny.

      Peidiwch â theithio os ydych yn teimlo’n sâl, hyd yn oed os mai mân symptomau sydd gennych chi.

  • A fydd rhywun yn cymryd fy nhymheredd cyn teithio?
    • Na fydd. Ni fydd neb yn cymryd eich tymheredd cyn i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Os oes gennych wres, neu os ydych yn arddangos unrhyw symptomau coronafeirws, peidiwch â theithio.

  • A oes system ‘profi ac olrhain’ ar waith ar drafnidiaeth gyhoeddus, fel yn achos bwytai a chaffis?
    • Nac oes. Oherwydd natur agored ein rhwydwaith, gyda llawer o orsafoedd heb staff, nid oes system o’r fath i’w chael ar drafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, rydym yn annog pawb i osgoi teithio os ydynt yn teimlo’n sâl neu os ydynt yn arddangos unrhyw symptomau, waeth pa mor fach ydynt. Hefyd, mae hi’n bwysig i bob teithiwr ddilyn y canllawiau sydd ar waith, yn cynnwys gwisgo gorchudd wyneb.

  • Dydw i ddim yn gyrru, ond mae fy nghydweithiwr wedi cynnig lifft i fi – ydy ‘rhannu car’ yn cael ei ganiatáu?
    • Ydy, ond ystyriwch a allech chi feicio neu gerdded i’ch cyrchfan neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
      Mae yna rai pethau y gallwch eu gwneud i geisio lleihau’r risgiau diogelwch:

      • gwisgo gorchudd wyneb os gallwch chi
      • gofalu bod cyn lleied o deithwyr â phosibl yn y car
      • cadw ffenestri ar agor er mwyn cael awyr iach
      • peidio â wynebu’r teithwyr eraill os oes modd
      • dylid glanhau’r cerbyd yn rheolaidd trwy ddefnyddio nwyddau glanhau safonol, a dylid canolbwyntio ar fannau a gaiff eu cyffwrdd yn aml, fel handlenni drysau