Heather Clash

Cyfarwyddwr Gweithredol, Cyllid a Llywodraethu

Ar ôl byw, astudio a gweithio yng Nghymru am dros 26 o flynyddoedd, ymunodd Heather â TrC ym mis Gorffennaf 2018. Mae hi’n weithiwr proffesiynol profiadol ym maes cyfrifyddu, ac astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi wedi gweithio ym maes cyllid ar hyd ei gyrfa.

Mae Heather yn arbenigo mewn rheolaeth a rheoli portffolios contractau allanol a swyddogaethau corfforaethol mewn sefydliadau corfforaethol mawr. Cyn ymuno â Trafnidiaeth Cymru, bu’n Gyfarwyddwr Cyllid mewn amrywiaeth o sefydliadau mawr gan gynnwys Is-adran Gwasanaethau TG Capita Group Plc a Gwerthu a Marchnata yn y Deyrnas Unedig i Compass yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Mae Heather yn aelod o uwch dîm arwain TrC ac mae’n gyfrifol am gynllunio a strategaeth ariannol, dadansoddi perfformiad a risg y sefydliad, goruchwylio ei swyddogaeth llywodraethu a chyllid, yn ogystal â’r holl reolaethau ariannol mewnol ac archwilio. Mae Heather hefyd yn gyfarwyddwr Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig.