Cyfres yr Hydref 2025
Ydych chi’n mynd i'r rygbi yr hydref hwn?
Ym mis Tachwedd, bydd Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn cynnal pedwar gêm rygbi rhyngwladol cefn wrth gefn fel rhan o’r Gyfres Gemau Rhyngwladol yr Hydref 2025. Pwy bynnag rydych chi'n ei gefnogi, rydyn ni yma i'ch cael chi i'r gêm ac adref eto, yn esmwyth ac yn ddiogel.
Beth sy'n digwydd a phryd?
| Gêm | CG | Dyddiad | Lleoliad |
|---|---|---|---|
| Cymru v Ariannin | 15:10 | Dydd Sul 09 Tachwedd | Stadiwm Principality, Caerdydd |
| Cymru v Japan | 17:40 | Dydd Sadwrn 15 Tachwedd | Stadiwm Principality, Caerdydd |
| Cymru v Seland Newydd | 15:10 | Dydd Sadwrn 22 Tachwedd | Stadiwm Principality, Caerdydd |
| Cymru v De Affrica | 15:10 | Dydd Sadwrn 29 Tachwedd | Stadiwm Principality, Caerdydd |
Cau maes parcio Caerdydd Canolog
Gweler isod am fanylion llawn am yr holl feysydd parcio sydd ar gau yng Nghaerdydd Canolog ar gyfer Gemau Rhyngwladol yr Hydref:
Maes Parcio Glan yr Afon:
- Ar gau o 20:00 8 Tachwedd tan 04:00 10 Tachwedd
- Ar gau o 20:00 14 Tachwedd tan 04:00 16 Tachwedd
- Ar gau o 20:00 21 Tachwedd tan 04:00 23 Tachwedd
- Ar gau o 20:00 28 Tachwedd tan 04:00 30 Tachwedd
Maes Parcio Heol Penarth (y tu ôl i'r orsaf):
- Ar gau o 06:00 5 Tachwedd tan 04:00 10 Tachwedd
- Ar gau o 06:00 12 Tachwedd i 04:00 16 Tachwedd
- Ar gau o 06:00 19 Tachwedd tan 04:00 23 Tachwedd
- Ar gau o 06:00 26 Tachwedd tan 04:00 30 Tachwedd
Cau Caerdydd Heol y Frenhines
Bydd gorsaf Caerdydd Heol y Frenhines yn cau am 16:30 ar 9, 22 and 29 Tachwedd.
Bydd gorsaf Caerdydd Heol y Frenhines yn cau am 19:00 ar 15 Tachwedd.
Ciwio yng ngorsaf Caerdydd Canolog
Bydd system giwio ar waith ar ôl y gêm yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Mae hyn er mwyn cael pawb adref yn ddiogel, gweler y map uchod.
Cau ffyrdd
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau yng nghanol y ddinas ar gyfer pob digwyddiad:
- Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
- Stryd Tudor o'r gyffordd â Heol Clare i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i drigolion a masnachwyr drwy Arglawdd Fitzhamon).
- Plantagenet Street a Beauchamp Street o'u cyffyrdd â Despenser Place i'w cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i drigolion a masnachwyr).
- Heol Saunders o'i chyffordd â Heol Eglwys Fair.
- Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
- Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog.
- Bydd y ffyrdd canlynol wedi cau yn gyfan gwbl: Stryd y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas Y Neuadd, Y Gwter, Stryd y Parc, Stryd Havelock, Heol Scott, a Green Street.
Ychwanegiadau:
Canolfan Ddinesig: Wedi 07:00, bydd mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig yn cael ei reoli drwy gydol y dydd, gyda mynediad yn cael ei ganiatáu ar gyfer parcio digwyddiadau, parcio cyfyngedig i gymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.
Mae'r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
Cyfnodau cau ffyrdd:
9, 22 a 29 Tachwedd: 11:00 - 19:15
15 Tachwedd: 13:30 - 22:00
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Gwaith-ffordd/Pages/Gwaith-ffordd.aspx
Newidiadau i safleoedd tacsis
Bydd safle tacsis Heol Saunders yn cau a bydd safle tacsis dros dro yng nghefn gorsaf Caerdydd Canolog.
Bydd safle tacsis Heol Saunders yn cau rhwng 10:45 - 23:59 ar gyfer pob digwyddiad ac eithrio ar 15 Tachwedd pan fydd ar gau 13:15 - 23:59.
Bydd y safle tacsis dros dro yn y maes parcio yng nghefn yr orsaf ar Heol Penarth ar gael rhwng 06:00 - 16:00 ar gyfer pob digwyddiad ac eithrio ar 15 Tachwedd pan fydd ar agor rhwng 06:00 - 18:30.
Cau Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd
Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn cau i gyd-fynd â chyfnod cau’r ffyrdd.
9, 22 a 29 Tachwedd: 11:00 - 19:15
15 Tachwedd: 13:30 - 22:00
Gweler isod am leoliadau eraill i ddal eich bws.
Talu wrth fynd
Defnyddio talu wrth fynd? Peidiwch â phoeni 👍
Tapiwch i mewn yn eich gorsaf ac yna tapiwch allan gan ddefnyddio'r lonydd refeniw talu wrth fynd pwrpasol pan fyddwch chi'n gadael yng Nghaerdydd Canolog.
Mae gennym ein gwirfoddolwyr talu wrth fynd symudol i'ch helpu i dapio i mewn a thapio allan.
Tapio i mewn ar eich taith yn ôl?
Os ydych chi'n aros yng nghiw'r Cymoedd, Maesteg, Sba Cheltenham neu Lynebwy - gallwch gysylltu â'n gwirfoddolwr talu wrth fynd a fydd yn eich tapio i mewn i'ch taith cyn i chi gael eich cyfeirio i'r platfform.
Cofiwch, os byddwch chi'n anghofio tapio allan, gallwch chi gywiro'ch hanes tapio trwy lawrlwytho ein ap newydd.
Ar ôl y gêm
|
| Prynwch cyn teithioRhaid i chi brynu eich tocyn cyn mynd ar y trên. I arbed amser wedyn, prynwch docyn dwyffordd ar eich ffordd i mewn. Gallwch hefyd brynu’ch tocyn ar yr ap TrC neu ar wefan trc.cymru. Bydd Arolygwyr Diogelu Refeniw yn archwilio tocynnau cyn ac ar ôl y gêm. Os ydych chi'n teithio heb docyn dilys, neu heb dapio ymlaen (lle mae talu wrth fynd ar gael), efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Tâl Cosb. Os ydych chi'n talu wrth fynd, defnyddiwch ap TrC i dapio i ffwrdd. |
|
| Ciw ar ôl y gêmBydd system ciwio yn weithredol yng ngorsaf Ganolog Caerdydd. Bydd nifer y teithwyr yn cael eu cyfyngu ar gyfer teithiau dwyffordd, byddwch yn amyneddgar. |
|
| Diogelwch y cyhoeddBydd unrhyw un sydd dan ddylanwad alcohol sy'n cael ei ystyried yn fygythiad i'w diogelwch ei hun neu i ddiogelwch y cyhoedd yn cael ei atal rhag teithio. |
|
| Bydd unrhyw un sy’n defnyddio iaith ddifrïol neu ymddygiad bygythiol tuag ein cwsmeriaid neu ein cydweithwyr yn cael ei atal rhag teithio. |
Gwasanaethau olaf ar ôl y gêm
Cymru v Ariannin
| Cyrchfan | Amser gadael yn ôl yr amserlen |
| Abertawe | 23:36 |
| Henffordd | 23:35 |
| Bryste Temple Meads | 23:11 |
| Gaerloyw | 22:35 |
| Caerfyrddin | 22:30 |
| Ynys y Barri | 22:28 |
| Treherbert | 22:01 |
| Rhymni | 21:52 |
| Penarth | 21:35 |
| Glynebwy | 21:34 |
| Merthyr Tudful | 21:26 |
| Caerffili | 21:21 |
| Llundain Paddington | 21:20 |
| Caer | 21:11 |
| Birmingham | 20:45 |
| Aberdâr | 20:43 |
| Maesteg | 19:43 |
| Manceinion | 18:42 |
Cymru v Japan
| Cyrchfan | Amser gadael yn ôl yr amserlen |
| Pontypridd | 23:43 |
| Ynys y Barri | 23:30 |
| Ystrad Mynach | 23:22 |
| Gaerloyw | 23:18 |
| Maesteg | 23:15 |
| Penarth | 23:12 |
| Glynebwy | 23:08 |
| Caerffili | 23:05 |
| Treherbert | 23:00 |
| Abertawe | 22:50 |
| Bryste Temple Meads | 22:47 |
| Aberdâr | 22:41 |
| Rhymni | 22:35 |
| Merthyr Tudful | 22:30 |
| Coryton | 22:18 |
| Henffordd | 22:15 |
| Sba Cheltenham | 22:10 |
| Caerfyrddin | 21:57 |
| Caer | 21:21 |
| Llundain Paddington | 20:42 |
| Caergybi | 20:25 |
Cymru v Seland Newydd
| Cyrchfan | Amser gadael yn ôl yr amserlen |
| Pontypridd | 23:43 |
| Ynys y Barri | 23:30 |
| Ystrad Mynach | 23:22 |
| Gaerloyw | 23:18 |
| Maesteg | 23:15 |
| Penarth | 23:08 |
| Glynebwy | 23:08 |
| Caerffili | 23:03 |
| Treherbert | 23:00 |
| Abertawe | 22:50 |
| Bryste Temple Meads | 22:47 |
| Aberdâr | 22:41 |
| Rhymni | 22:35 |
| Merthyr Tudful | 22:30 |
| Coryton | 22:18 |
| Henffordd | 22:15 |
| Sba Cheltenham | 22:10 |
| Caerfyrddin | 21:57 |
| Caer | 21:21 |
Cymru v De Affrica
| Cyrchfan | Amser gadael yn ôl yr amserlen |
| Pontypridd | 23:43 |
| Ynys y Barri | 23:30 |
| Ystrad Mynach | 23:22 |
| Gaerloyw | 23:18 |
| Maesteg | 23:15 |
| Penarth | 23:08 |
| Glynebwy | 23:08 |
| Caerffili | 23:03 |
| Treherbert | 23:00 |
| Abertawe | 22:50 |
| Bryste Temple Meads | 22:47 |
| Aberdâr | 22:41 |
| Rhymni | 22:35 |
| Merthyr Tudful | 22:30 |
| Caerfyrddin | 22:27 |
| Coryton | 22:18 |
| Henffordd | 22:15 |
| Sba Cheltenham | 22:10 |
| Caer | 21:21 |
Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau
Gall digwyddiadau mawr olygu bod mwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i gadw ein cwsmeriaid i deithio’n ddiogel ac yn ddibynadwy.