Cynllunio trafnidiaeth – beth yw hynny?

Rydyn ni’n trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y dyfodol, gan ysbrydoli cenedl i newid y ffordd mae’n teithio. Rhaid gwneud trafnidiaeth gynaliadwy yn ddewis naturiol ar gyfer ein teithiau, hir a byr, er mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd y mae pob un ohonom yn ei wynebu.

Un o’r ffyrdd o wneud hyn yw drwy ddefnyddio trosolwg strategol, eang o rwydwaith trafnidiaeth Cymru ac edrych ar sut y gall ddiwallu ein holl anghenion yn well. Boed hynny’n mynd i’r gwaith, i’r ysgol, i’ch apwyntiad yn yr ysbyty neu i ffwrdd am y penwythnos.

 

Beth mae ein tîm Cynllunio a Datblygu Trafnidiaeth yn ei wneud?

Mae ein tîm o arbenigwyr yn gwneud cynigion ar gyfer datblygiadau trafnidiaeth newydd ledled Cymru ar sail data, arloesedd, arferion gorau’r diwydiant a gwybodaeth broffesiynol. Maent yn gweithio’n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol, i gyflwyno’r achos dros fuddsoddi mewn prosiectau sy’n addo sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl, cymunedau a Chymru gyfan.

Rydyn ni’n cynnal astudiaethau cadarn o’r rhwystrau mae pobl yn eu hwynebu wrth ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy a sut gallwn ni oresgyn y rhwystrau. Yn ogystal â helpu i warchod ein hamgylchedd, bydd trafnidiaeth well yn helpu i drawsnewid rhagolygon economaidd Cymru drwy fwy o swyddi, busnesau a chyfleoedd hamdden.

 

Gweithio gyda’n cymunedau

Rydyn ni’n gwybod bod y cymunedau sy’n cael eu gwasanaethu gennym yn gwybod yn aml yn well na neb am yr heriau sy’n eu hwynebu o ddydd i ddydd wrth deithio. Rydyn ni eisiau iddyn nhw helpu i siapio’r gwaith cyffrous rydyn ni’n ei wneud i sicrhau bod trafnidiaeth yn gweithio’n well yng Nghymru.

Rydyn ni’n darparu cyfleoedd i bobl a chymunedau roi adborth ar brosiectau allweddol drwy ymgynghoriadau ffurfiol, grwpiau rhanddeiliaid a phaneli.