Mae ein rheilffyrdd yn rhedeg drwy ddinasoedd, trefi a chefn gwlad Cymru, ac rydyn ni'n rhannu ein traciau ag amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a phlanhigion.

Mae ein gwaith yn cyflawni Metro De Cymru, a fydd yn fwy gwyrdd ac yn fwy effeithlon, yn golygu bod yn rhaid i ni sicrhau cydbwysedd rhwng parchu'r amgylchedd naturiol a'i helpu i ffynnu, a gwneud y gwaith hanfodol i gyflawni'r prosiect trawsnewidiol hwn. 

 

Metro De Cymru

Prosiect Metro De Cymru yw'r uwchraddiad mwyaf i system trafnidiaeth Cymru ers cenedlaethau. Mae'n brosiect gwerth miliynau o bunnoedd lle bydd 170km o drac yn cael ei drydaneiddio, £800m yn cael ei wario ar drenau tram trydan newydd, gorsafoedd a signalau'n cael eu huwchraddio, ac o leiaf pum gorsaf newydd yn cael eu hadeiladu. 


I gyflawni hyn bydd angen i ni wneud llawer o waith o gwmpas y rheilffyrdd, gan gynnwys torri llystyfiant er mwyn i'n gwasanaethau allu rhedeg yn ddiogel a gosod Cyfarpar Llinellau Uwchben (OLE) newydd i bweru'r Metro.   


A ninnau'n gorff cyhoeddus yng Nghymru, mae ein holl waith yn cael ei wneud gan ystyried Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (2015). Mae rhan o hynny'n golygu bod dyletswydd gyfreithiol arnom i wella ein lles amgylcheddol. Mae popeth rydyn ni'n ei wneud yn cyd-fynd â'r Ddeddf – o ailblannu coed i wneud gwaith rheoli llystyfiant ar yr adegau pan fydd hynny'n achosi'r niwed lleiaf i fywyd gwyllt. 

 

Pa fanteision amgylcheddol a ddaw yn sgil y Metro? 

Bydd Metro De Cymru yn arwain at fanteision amgylcheddol lu i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Rydyn ni'n gwario £800m i gael trenau tram newydd sbon yn lle'r hen drenau Pacer disel sy'n rhedeg ar Linellau Craidd y Cymoedd. Maen nhw'n dawelach ac yn cynhyrchu llai o CO2 o lawer na'r hen drenau.

Bydd trafnidiaeth gyhoeddus well a mwy dibynadwy hefyd yn golygu bod llai o bobl yn gorfod defnyddio eu ceir, gan leihau'r straen ar y ffyrdd prysur o amgylch Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

Rydyn ni hefyd yn gwneud ein gorsafoedd yn fwy ecogyfeillgar. Byddwn yn gosod blychau ystlumod ac adar, yn ogystal â thoeau a waliau gwyrdd. 

Ar ben hynny rydyn ni'n gwella'r llwybrau teithio llesol, fel llwybrau troed a beiciau ar hyd a lled ein rhwydwaith, felly byddwch yn gweld rhagor o blanhigion ar y llwybrau hyn.

 

Beth yw rheoli Llystyfiant?

Yn ei hanfod, rheoli llystyfiant yw pan fyddwn yn rheoli unrhyw lystyfiant ar ein hasedau tir. Rydyn ni’n gwneud hyn am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys iechyd a diogelwch. Gallai’r gwaith rheoli gynnwys tynnu, tocio, ailblannu, creu, gwella a rheoli rhywogaethau goresgynnol mewn amrywiaeth o gynefinoedd fel coed, prysgwydd a glaswelltir.

 

Pam ydyn ni’n tynnu llystyfiant wrth ymyl y rheilffyrdd?

Rydyn ni’n trydaneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd yng nghymoedd De-ddwyrain Cymru, felly mae rheoli llystyfiant yn yr ardal hon, a elwir yn Llinellau Craidd y Cymoedd, yn rhan hanfodol o hyn er mwyn ein galluogi i hwyluso’r gwaith hwn.

Hefyd, gall llystyfiant wrth ymyl y rheilffordd fod yn beryglus i iechyd a diogelwch staff a theithwyr. Gallai coeden sy’n disgyn ar draws y cledrau arwain at ddamwain ddifrifol fel trên yn dod oddi ar y cledrau. Byddwn hefyd yn rheoli llystyfiant anniogel yn rheolaidd – fel tynnu coed sy’n marw, sydd wedi marw neu sydd wedi’u heintio, torri llystyfiant sy’n rhy agos at y rheilffordd a chael gwared â rhywogaethau coed y mae eu dail yn achosi adlyniad isel i’r cledrau. Mae diffygion hanesyddol o ran cynnal a chadw llystyfiant ar Linellau Craidd y Cymoedd yn golygu newidiadau mawr ar ein rheilffyrdd; gyda mwy o lystyfiant yn cael ei dynnu mewn rhai ardaloedd nag a fu ers blynyddoedd lawer.

D.S. y tu allan i Linellau Craidd y Cymoedd, Network Rail sy’n cynnal a chadw llystyfiant.

 

Beth yw’r broses o reoli llystyfiant? Beth sy’n digwydd cyn i ni dynnu unrhyw lystyfiant?

Mae gennym ni gyfres o fethodolegau, safonau a phrotocolau arolwg penodol sy’n cael eu cyflawni ar y cyd ymlaen llaw, yn union cyn ac yn ystod y gwaith, i ganfod meysydd sydd angen eu rheoli, i wneud yn siŵr bod yr hyn sydd angen ei dynnu yn cael ei dynnu, a’r hyn sydd ddim angen ei dynnu yn cael ei adael. Mae hyn yn cynnwys arolygon ecolegol cyn ac yn ystod y gwaith i sicrhau bod unrhyw effeithiau ar fywyd gwyllt yn cael eu hosgoi a’u lleihau yn ystod y gwaith.

 

Rydyn ni’n clywed llawer am rywogaethau goresgynnol. Beth yw ystyr rhywogaeth oresgynnol?

Mae rhywogaeth oresgynnol yn blanhigyn neu’n anifail anfrodorol sy’n cael ei gyflwyno (naill ai’n fwriadol neu’n ddamweiniol) gan weithgarwch dynol ac sydd â’r potensial i achosi niwed i’r amgylchedd, i’r economi a/neu i iechyd pobl. Er enghraifft, mae clymog Japan yn gallu lledaenu’n gyflym a bod yn drech yn ein hecosystemau, gan achosi effeithiau negyddol ar rywogaethau a chynefinoedd brodorol.

 

Beth fyddwn ni’n ei wneud ar ôl trydaneiddio?

O ran bywyd gwyllt, byddwn yn ymchwilio i’r holl opsiynau ar gyfer gwella bioamrywiaeth ar Linellau Craidd y Cymoedd ar ôl trydaneiddio’r llinell; gan gynnwys adolygiad llawn o’n hasedau ar ochr y rheilffordd ac ymhle y gallwn ni sicrhau’r manteision bywyd gwyllt gorau posibl. Bydd hyn yn cynnwys creu cynefinoedd a gwella cynefinoedd; lle bo hynny’n briodol. Bydd hyn yn creu cynefinoedd gwell, mwy o faint, mwy cadarn a fydd yn fwy cysylltiedig ar gyfer bywyd gwyllt brodorol ac yn cyflwyno bywyd newydd ochr yn ochr â’n rhwydwaith rheilffyrdd.

 

Pam ydych chi’n torri coed y tu allan i fy nhŷ i?

Rydyn ni’n trydaneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymoedd De-ddwyrain Cymru. Gall llystyfiant ger y rheilffordd fod yn beryglus i iechyd a diogelwch ein staff a theithwyr.  Mae rheoli llystyfiant ar hyd Llinellau Craidd y Cymoedd yn rhan hanfodol o drydaneiddio, a hefyd er mwyn gwneud y rheilffordd yn fwy diogel, yn fwy dibynadwy ac yn fwy addas i heriau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Mae diffygion hanesyddol o ran cynnal a chadw llinellau yn golygu newidiadau mawr ar ein rheilffyrdd ar hyn o bryd; gan gynnwys mwy o lystyfiant yn cael ei dynnu nag a fu ers blynyddoedd lawer.

 

Oni fydd bywyd gwyllt lleol yn cael ei golli? Sut ydych chi'n sicrhau ei fod yn cael ei ddiogelu?

Mae arolygon ecolegol ac asesiadau o’r effaith wedi cael eu cynnal cyn y gwaith er mwyn i ni allu deall effeithiau’r gwaith hwn, ac os/ble/pa fesurau lliniaru sydd eu hangen. Rydyn ni’n rhoi amrywiaeth o fesurau ar waith i warchod bywyd gwyllt yn ystod ac ar ôl y gwaith - mae hyn yn cynnwys, pan fo angen, sicrhau trwyddedau perthnasol gan Cyfoeth Naturiol Cymru i weithio mewn ardaloedd sydd â rhywogaethau gwarchodedig, goruchwylio a chynnal archwiliadau ecolegol ymlaen llaw (er enghraifft, ar gyfer adar sy’n nythu), mesurau bioddiogelwch i atal rhywogaethau goresgynnol rhag lledaenu a mesurau lliniaru tymor hir ar gyfer rhywogaethau fel ystlumod, lle rydyn ni’n creu ac yn gwella ardaloedd ychwanegol o gynefinoedd.

 

Beth am adar yn nythu?

Rydym yn gwneud ein gorau i leihau gwaith llystyfiant yn ystod y tymor nythu. Os oes angen gwneud gwaith, rydym yn dilyn proses y cytunwyd arni i sicrhau nad oes unrhyw effeithiau ar adar sy'n nythu.

Byddwn yn gwirio’r ardal gyfagos yn drylwyr cyn cael gwared ar unrhyw lystyfiant, gan gynnwys ar lefel y ddaear, i nodi unrhyw nythod gweithredol, cywion neu adar nythu a all fod yn bresennol.

Os byddwn yn dod o hyd i unrhyw arwyddion o nythu, byddwn yn creu ‘parth diogel’ o amgylch yr ardal gyda thâp perygl neu farcwyr. Mae hwn yn parhau yn ei le nes bod yr holl gywion wedi hedfan y nyth ac ecolegydd wedi cadarnhau ei fod yn ddiogel i symud ymlaen.

Mae'n bwysig nodi efallai na fydd ecolegydd bob amser yn bresennol ar y safle, yn enwedig os bernir bod y cynefinoedd dan sylw yn anaddas, neu os yw'r gwaith a allai effeithio ar yr adar eisoes wedi'i gwblhau neu ei wirio.

 

Pryd mae’r gwaith rheoli llystyfiant yn digwydd? Pam ydych chi’n gweithio yn y nos?

Gall amseroedd gweithio ein tîm amrywio ar draws y rhwydwaith, a’r hyn sydd bwysicaf i ni yw ein bod yn gallu gweithio’n ddiogel. Weithiau gall hyn olygu gweithio yn ystod y nos, ar y penwythnos neu pan fydd rheilffyrdd ar gau ac nad yw trenau’n rhedeg.  Os yw ein timau’n gweithio yn y nos, byddan nhw’n gwneud eu gorau glas i ddefnyddio cyn lleied o olau â phosibl er mwyn gallu cwblhau’r gwaith yn ddiogel. Dim ond pan fydd angen y bydd unrhyw oleuadau artiffisial yn cael eu defnyddio.

Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod unrhyw oleuadau’n cael eu cyfeirio oddi wrth gartrefi’r trigolion sy’n ffinio â’n gwaith ac i osgoi colli golau i ardaloedd cynefin sy’n sensitif i effeithiau goleuadau.

 

Beth am y sŵn?

Mae gwaith ar y rheilffordd yn aml yn swnllyd ac yn digwydd yn hwyr y nos. Yn ogystal â’n prosiectau gwella, rydyn ni’n cynnal a chadw’r rheilffordd 24/7 ac weithiau mae’n rhaid i ni weithio ar fyr rybudd am resymau diogelwch.  Er ein bod yn gwneud ein gorau glas i sicrhau cyn lleied â phosibl o sŵn a tharfu, rydyn ni’n deall y gall y gwaith amharu arnoch chi.

Rydyn ni’n gofyn i’n timau sicrhau nad yw unrhyw offer swnllyd yn cael eu gadael yn segur, fel eu bod yn gweithio dim ond pan fo angen ac rydyn ni’n defnyddio offer trydanol ar y rhwydwaith lle gallwn ni, sy’n llai swnllyd.  Gofynnir i’n timau hefyd sicrhau cyn lleied â phosibl o sŵn, parchu trigolion wrth ymyl eu safleoedd gwaith a chyfathrebu’n sensitif.

Bydd ein timau rhanddeiliaid yn ysgrifennu atoch ymlaen llaw os oes unrhyw waith arbennig o swnllyd wedi’i gynllunio yn eich ardal.

 

Rydyn ni mewn argyfwng hinsawdd, i ba raddau y bydd torri coed yn helpu?

Byddwn yn datblygu cynllun rheoli llystyfiant ar gyfer Llinellau Craidd y Cymoedd fel rhan o’n strategaeth cadernid ac addasu i newid yn yr hinsawdd. Bydd y cynllun yn ceisio sicrhau ein bod yn cynnal a chadw llystyfiant mewn mannau (lle bo hynny’n briodol) i wneud ein hasedau’n fwy cadarn (fel gwaith cloddio), darparu cysgod mewn tymheredd poeth ac arafu glawiad a dŵr ffo – bydd yn rhaid cydbwyso hyn â sicrhau bod llystyfiant ar ochr y cledrau yn cael ei reoli i sicrhau diogelwch. Fe fyddwn ni hefyd yn adolygu unrhyw blannu newydd mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd – bydd rhai rhywogaethau, er enghraifft, yn fwy goddefgar o wyntoedd eithafol a newidiadau mewn tymheredd ac, o’r herwydd, gallent fod yn fwy addas ar leoliadau ar ochr y cledrau.

 

Pam na allwch chi ailblannu coed nawr?

Mae angen i ni wneud y gwaith cynnal a chadw hanfodol a’r gwaith trydaneiddio hwn yn gyntaf. Ar ôl cwblhau hyn, byddwn yn gallu deall ac asesu’n llawn yr holl opsiynau sydd ar gael ar gyfer gwella bioamrywiaeth ar Linellau Craidd y Cymoedd ar ôl trydaneiddio’r rheilffordd.  Mae hyn yn cynnwys creu a gwella cynefinoedd; lle bo’n briodol. Mewn rhai ardaloedd, nid plannu coed fydd yr opsiwn gorau i fywyd gwyllt, o reidrwydd.  Bydd hyn yn creu cynefinoedd gwell, mwy o faint, a fydd yn fwy cysylltiedig ar gyfer bywyd gwyllt brodorol ac yn cyflwyno bywyd newydd ochr yn ochr â’n rhwydwaith rheilffyrdd.

 

A fyddwch chi’n plannu coed i sgrinio offer uwchben neu asedau agored?

Na fyddwn, fyddwn ni ddim yn ailblannu coed at ddibenion sgrinio yn unig.

 

Beth fyddwch chi’n ei blannu, ac ymhle?

Penderfynir ar hyn fesul achos o ran beth sydd fwyaf addas yn yr ardal leol o ystyried bioamrywiaeth ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd, gan gydbwyso gofynion iechyd a diogelwch ar yr un pryd. Er enghraifft, mewn rhai ardaloedd mae llystyfiant glaswelltir neu brysgwydd sy’n tyfu’n isel yn gallu cynnig mwy o fanteision i fywyd gwyllt o gymharu ag ailblannu coed unigol.

 

Mae gennym gwynion weithiau am blâu mewn ardaloedd lle rydyn ni’n gweithio. Beth ddylai pobl ei wneud os ydyn nhw’n gweld llygod mawr?

Mae llygod mawr yn gyffredin iawn ac ar wasgar yn eang. Gan fod mwy o bobl yn gweithio gartref, mae’n debygol y byddwch chi’n gweld llygoden fawr yn eich gardd lle na fyddech wedi sylwi arni o’r blaen. Ar ben hynny, gallai aflonyddwch o ganlyniad i waith ddadleoli llygod mawr dros dro yn yr ardal leol. Os ydych chi'n poeni am unrhyw blâu ar eich eiddo, ffoniwch dîm iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol. Bydd y rhif ar eu gwefan.

 

Rydyn ni hefyd wedi cael cwynion am sbwriel gweladwy o ganlyniad i glirio llystyfiant - sut ydyn ni’n rheoli hyn?

Wrth i ni glirio’r llystyfiant, yn enwedig o amgylch gorsafoedd a lleiniau ymyl ffordd, rydyn ni’n sylwi ar sbwriel sydd wedi cael ei chwythu neu ei daflu i mewn i’r gordyfiant. Bydd y sbwriel hwn yn cael ei glirio, ond gall hyn gymryd ychydig o fisoedd ar ôl rheoli’r llystyfiant, gan fod rhaid i ni roi gwybod i’r timau glanhau neu Network Rail. Os ydych chi’n poeni am sbwriel, gallwch roi gwybod i Network Rail ar eu gwefan. Peidiwch â cheisio mynd ar unrhyw dir o amgylch yr orsaf i gasglu sbwriel eich hun.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu i gadw ein gorsafoedd yn daclus a chymryd rhan yn ein prosiectau cymunedol, gallwch wneud cais i fod yn fabwysiadwr gorsaf ar wefan Trafnidiaeth Cymru neu gysylltu ag un o’n grwpiau o fabwysiadwyr cyfeillgar drwy ein Tîm Rheilffyrdd Cymunedol.

 

Beth am lygredd yn ystod y gwaith?

Mae gennym amrywiaeth o fesurau ar waith i atal llygredd yn ystod gwaith o bethau fel llwch, sŵn a dŵr ffo cemegol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio generaduron solar i leihau sŵn a mygdarth, nifer sefydlog o beiriannau sy’n gweithredu ar unrhyw adeg, osgoi gwaith dros nos lle bynnag y bo modd, defnyddio hidlyddion offer priodol, defnyddio offer llaw lle bo’n bosibl i leihau sŵn a chael pecynnau gollyngiadau wrth law bob amser.