Cwestiynau Cyffredin ynghylch Cyfarpar Llinellau Uwchben (OLE)

Mae gwaith wedi dechrau ar drydaneiddio a moderneiddio tua 170km o drac, sy'n golygu gosod cyfarpar llinellau uwchben yn bennaf er mwyn pweru ein trenau newydd.

Rydym yn gweithio’n galed i gyfleu’r neges bod perygl newydd o ran tresmasu ar y rhan hon o’r rheilffordd. Er nad oes perygl i bobl sy’n defnyddio’r rheilffordd yn gywir, mae unrhyw un nad yw’n parchu ffin y rheilffordd - y llinell ffens sy’n diogelu pobl a’r rheilffordd weithredol rhag tresmasu damweiniol neu fwriadol - yn peryglu eu hunain.

Yn ogystal â'r potensial o ddod i gysylltiad â'r llinellau pŵer, mae peryglon hefyd wrth dresmasu ar y rheilffordd, oherwydd dros y misoedd nesaf byddwn yn profi ein cerbydau newydd ar draws y rhwydwaith, ac nid yw symudiadau’r trenau hyn bob amser yn ymddangos ar ein byrddau gwybodaeth nac ar gynllunwyr teithiau ar-lein. Byddwn hefyd yn parhau i wneud gwaith seilwaith i wella ein rheilffyrdd, lle byddwn yn defnyddio cerbydau a pheiriannau rheilffordd ar y cledrau.

O’r herwydd, bydd ein hymgyrch diogelwch y cyhoedd ‘Dim Ail Gyfle’ yn mynd yn fyw ganol mis Mai 2023. Mae hyn yn cynnwys ymgyrch hysbysebu bwysig, dosbarthu llythyrau torfol i gymunedau a rhanddeiliaid, cyfryngau cymdeithasol a chynnwys y wasg, ymweliadau ag ysgolion a digwyddiadau cyhoeddus.

 

  • Beth yw Cyfarpar Llinellau Uwchben? 
    • Cyfarpar Llinellau Uwchben (OLE) yw enw'r pyst metel a'r gwifrau i bweru'r trenau tram newydd. Bydd y pyst ychydig yn uwch na'r trenau ac wedi'u cysylltu gan wifrau.  

    • Rydyn ni'n gosod y rhain ar hyd llinellau'r cymoedd yn barod i bweru ein trenau tram newydd. Bydd y trenau hyn yn fwy esmwyth, yn fwy tawel ac yn fwy ecogyfeillgar na'r trenau disel presennol.

  • Sut fydd yr OLE yn edrych? 
    • Bydd yr OLE newydd yn newid ymddangosiad llinellau'r cymoedd yn sylweddol. Mae wedi'i wneud o byst metel cydnerth sydd wedi'u hadeiladu i bara. Gallwch weld enghreifftiau o OLE tebyg sydd wedi'i osod mewn mannau eraill yn y DU yn ein llyfryn yma.

    • Byddwch hefyd yn gweld y byddwn yn torri mwy na'r arfer oddi ar y coed a'r gwrychoedd ger llinellau'r cymoedd i adeiladu'r OLE, ac i wneud yn siŵr bod y trenau tram yn rhedeg yn ddiogel ac yn esmwyth.

  • Ble fyddwch chi'n rhoi'r pyst?
    • Byddwn yn gosod cyfarpar llinellau uwchben dros tua 170km o drac ar draws holl Linellau Craidd y Cymoedd (Llinellau Treherbert, Aberdâr, Merthyr, Rhymni, Coryton, y Bae a'r Ddinas). Bydd y pyst dur yn cael eu gosod ar sylfeini rhwng 20 a 65 metr ar wahân ar hyd y trac. 

    • Mae ble yn union y byddwn yn gosod OLE, a'r math o OLE, yn dibynnu ar ffactorau gan gynnwys troeon yn y llinellau, nodweddion y tir a chyflwr y ddaear, yn ogystal â ffactorau diogelwch megis mynediad i dimau cynnal a chadw. 

    • Bydd yn cael ei osod wrth ymyl y trac a bydd ychydig yn uwch na'r trenau.

  • Pam ydych chi'n gosod yr OLE y tu allan i fy nghartref i – allwch chi ddim gwneud hynny rywle arall? 
    • Mae angen i ni osod yr OLE ar hyd llinellau'r cymoedd i bwerau ein trenau tram newydd, ac weithiau bydd angen i ni osod yr OLE tu allan i dai ger llinellau'r cymoedd.  Does dim modd osgoi hyn, gan fod nifer o dai yn cefnu ar y llinellau hyn. Mae nifer o ffactorau'n dylanwadu ar ble rydyn ni'n gosod yr OLE, gan gynnwys troeon yn y llinellau, nodweddion y tir, a chyflwr y ddaear. 

    • Gallwn eich sicrhau ein bod yn cymryd y gofal mwyaf posib wrth osod yr OLE. Gallwn hefyd eich sicrhau ein bod yn ystyried ein cymdogion sy'n byw ger llinellau'r cymoedd, yn ogystal â diogelwch ein cwsmeriaid a'n gweithwyr. 

    • Gyda miloedd o gartrefi'n wynebu neu’n cefnu ar ein rheilffyrdd, ni allwn ystyried ceisiadau unigol ac ni fyddwn yn gallu eu 'sgrinio' gan ddefnyddio llystyfiant neu ffensys.

  • A fyddwch yn ymgynghori â chymdogion ynghylch ble fyddwch yn rhoi'r pyst neu'n rhoi'r lleoliadau i ni cyn i chi eu gosod?
    • Rydym yn ceisio lleihau effaith pyst OLE yn ystod y cam dylunio. Rydym yn deall y byddai'n well gennych wybod ble yn union y byddwn yn gosod pyst, ond gyda dros 2,500 i'w gosod a miloedd o gartrefi yn cefnu ar Linellau Craidd y Cymoedd, ni allwn osgoi gosod y pyst ger eiddo ac ni allwn ystyried ceisiadau unigol nac ymgynghori â chymdogion ar eu lleoliad penodol. 

    • Mae sawl ffactor yn dylanwadu ar leoliadau'r pyst hyn yn cynnwys troeon yn y llinellau, nodweddion y tir ac - yn hollbwysig - yr amodau dan draed.  Mae angen sylfaen ddiogel ar bob postyn i’w atal rhag symud yn y dyfodol, a bydd angen i'r rhan fwyaf ohonynt fod yn ddwfn yn y ddaear, wedi'u gosod drwy ddull gosod seilbyst a bydd lleoliad pob 'seilbost' wedi'i ddylunio drwy amryw o gamau dylunio.  

    • Ym mhob cam, gall lleoliadau’r gwaith seilbyst newid. Mae ffactorau o hyd a all effeithio ar y lleoliad terfynol unwaith y bydd y gwaith gosod yn dechrau megis seilbost yn taro daear galed iawn ac angen cael ei symud. Gall hyn yn ei dro ddylanwadu ar leoliad sylfeini cyfagos.  

    • Oherwydd y tebygolrwydd hwn o newid lleoliad ar y gwahanol gamau, ac oherwydd bod gennym 2,500 o byst i'w lleoli, gallai rhoi unrhyw wybodaeth i gymdogion am union leoliadau neu hyd yn oed ble fyddai disgwyl i ni osod y pyst hyn fod yn anfwriadol gamarweiniol. Byddai'n well gennym fod yn onest gyda chi am hyn, yn hytrach na rhoi manylion i chi a allai newid unwaith y bydd ein peirianwyr wedi gallu dechrau ar y gwaith ffisegol.

  • Pam mae angen i chi dorri coed, gwrychoedd a llystyfiant arall ar gyfer yr OLE? 
    • Mae angen i ni dorri'n ôl hyd at naw metr o'r llinell, neu i'n ffens derfyn, pa un bynnag sydd agosaf, er mwyn gosod yr OLE ar gyfer ein trenau tram newydd sy’n fwy gwyrdd, yn fwy dibynadwy ac yn fwy effeithlon.  Mae ond angen i ni glirio tua thri metr o ble bydd yr OLE, a fydd wedyn chwe metr i ffwrdd o'n ffens derfyn.  

    • Gall llystyfiant coediog ger y llinell achosi llawer o broblemau a all arwain at oedi, neu hyd yn oed ddamweiniau. Gall hyn gynnwys coed a llwyni'n rhwystro signalau, dail gwlyb yn gwneud y trac yn llithrig a llifogydd oherwydd draeniad gwael.  

    • Rhaid cadw coed a changhennau ymhell i ffwrdd o'n llinellau uwchben gan y gallant achosi problemau trydanol, tanau ar ochr y llinell a thorri’r cyflenwad pŵer. Gall y problemau hyn arwain at drenau’n rhedeg yn hwyr a chanslo trenau. 

    • Unwaith y byddwn wedi torri'r coed a'r llwyni, byddwn hefyd yn eu cynnal a chadw. Nid yw'r llystyfiant o amgylch y traciau wedi'i gynnal a chadw cystal ag y dylai dros y blynyddoedd. Felly, pan gaiff ei dorri'n ôl, caiff ei gadw ar y lefel hon yn y dyfodol.

  • Oes angen caniatâd cynllunio ar Trafnidiaeth Cymru i ymgymryd â'r gwaith hwn?
    • Nac oes. Fel cyflawnwr statudol, mae gan Trafnidiaeth Cymru yr hawl i gyflawni'r datblygiadau hyn ar ei dir gweithredol heb orfod gwneud cais cynllunio.  Gelwir hyn yn 'Hawliau Datblygu a Ganiateir.’

  • Mae fy nghartref yn agos at y rheilffordd, a fydda i'n ddiogel rhag y gwifrau uwchben?
    • Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth, ac mae unrhyw beth a wnawn yn cael ei gynllunio a'i ystyried gyda’r pwys mwyaf ar ddiogelwch. O ganlyniad, byddwn bob amser yn sicrhau ein bod yn rhoi mesurau ar waith i sicrhau eich diogelwch, a diogelwch pobl eraill, ble rydym wedi gosod OLE. 

    • Mae canllawiau clir iawn y mae’n rhaid i ni eu dilyn, ac mae safonau Ewropeaidd yn nodi bod rhaid i unrhyw 'arwyneb sefydlog' sy'n hygyrch i'r cyhoedd (megis platfform gorsaf neu ardd gyfagos) fod o leiaf 3.5 metr i ffwrdd o wifren uwchben Foltedd Uchel fyw. Os yw ardal yn llai na'r pellter o 3.5 metr, byddwn, yn y lle cyntaf, yn ailddylunio'r system i gynyddu'r pellter i o leiaf 3.5 metr. Os na allwn wneud hyn, gallwn adeiladu gwrthrychau i atal cyswllt uniongyrchol â gwifrau byw. 

    • Gallai'r gwrthrychau gynnwys ffensys rhwng ffiniau tir neu rwyll wedi'i daearu i orchuddio unrhyw gydrannau byw o ffenestri sy’n agor. Lle mae strwythurau metel rydym yn eu gosod yn agos at strwythurau metel trydydd parti, efallai y byddwn yn eu gorchuddio â deunydd inswleiddio megis pren neu GRP (Plastig wedi'i Atgyfnerthu â Gwydr).

    • Bydd ein timau'n cymryd mesuriadau manwl o'u modelau dylunio digidol i asesu risg eiddo a gerddi sy'n agos iawn at y rheilffordd (h.y. llai na 3.5 metr o'r gwifrau uwchben) ac efallai y bydd achosion prin lle byddwn yn ymgynghori â'n cymdogion wrth ymyl y llinell ar rwystrau posibl sydd eu hangen ar eu tir.

  • A fydd Cyfarpar Llinellau Uwchben yn effeithio ar werthoedd eiddo?
    • Dydyn ni ddim yn meddwl hynny. Mae Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn datgan nad yw prisiadau RICS traddodiadol drwy'r Llyfr Coch fel arfer yn ystyried nodweddion y tu allan i'r eiddo oni bai eu bod yn cyflwyno risg sylweddol i'r eiddo ei hun. Er enghraifft, mae'n debyg i sut y byddai aelodau RICS yn prisio tŷ heddiw pe bai gyferbyn â ffatri – ni fyddent yn ystyried hyn oni bai bod siawns y byddai'n difrodi'r eiddo.

    • O'r herwydd, mae'n annhebygol y byddai gwerthoedd eiddo yn newid yn sylweddol oherwydd bod cyfarpar llinellau uwchben yn cael ei osod ger yr eiddo, yn enwedig gan y byddent yn y pen draw yn arwain at fannau glanach - heb drenau disel yn defnyddio'r llinellau – gyda threnau trydan tawel yn pasio.  Am ragor o wybodaeth ewch i wefan RICS: Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig neu cysylltwch ag aelod lleol o’r RISC.

  • A yw Cyfarpar Llinellau Uwchben yn allyrru EMF?
    • Ydy. Cynhyrchir meysydd electromagnetig (EMF) lle bynnag y defnyddir trydan – maent o'n cwmpas drwy'r amser mewn bywyd modern. Mae llif y cerrynt trydanol yn cynhyrchu meysydd electromagnetig. 

    • Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael y rhan fwyaf o'u cysylltiad ag EMF o'r gwifrau dosbarthu ar hyd y stryd ac o wifrau yn y cartref. Rydym hefyd yn cael cysylltiad lefel uwch am gyfnod byr wrth basio'n agos at offer trydanol.  Y tu allan i'r cartref, gallwn brofi EMF mewn ysgolion, ffatrïoedd, swyddfeydd, pan fyddwn allan yn siopa ac o drafnidiaeth wedi'i thrydaneiddio. Mae llawer o reilffyrdd yn y DU wedi'u trydaneiddio. 

    • Unwaith y byddant wedi'u trydaneiddio, bydd EMF sy'n deillio o Metro De Cymru yn cydymffurfio'n llawn â'r terfynau cysylltiad a nodir yng nghanllawiau ICNIRP 1998, yn debyg i'r lefelau sy'n cydymffurfio â'r Rhwydweithiau Trosglwyddo a Dosbarthu (TNA/DNO) trydan. Rydym yn cymryd iechyd a diogelwch o ddifrif ac yn asesu agosrwydd offer byw i'r cyhoedd a'n cymdogion wrth ymyl y llinell. 

    • I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at ofynion profi EMC CVL. ICNIRPemfgdl.pdf. Gellir dod o hyd i wybodaeth a chanllawiau ychwanegol ar wefannau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) a Sefydliad Iechyd y Byd.

    • Meysydd Electromagnetig (who.int)

    • Meysydd Electromagnetig - pelydriad nad yw'n ïoneiddio - HSE

  • Pa mor beryglus yw OLE?
    • Mae OLE bob amser yn cludo 25,000 folt. Mae hyn yn cyfateb i 100 gwaith cryfach na thrydan eich cartref. Mae cyswllt ag OLE yn gallu arwain at farwolaeth mewn 9 achos allan o ddeg 10, gyda goroeswyr yn dioddef anafiadau sy’n newid bywyd.
  • Pryd mae OLE yn cael ei gyflwyno yng Nghymru?
    • Bydd OLE yn cael ei “roi ymlaen” ledled De Cymru, gan ddechrau ym mis Mehefin 2023.
  • Beth fydd yn digwydd os byddwch yn cyffwrdd llinell OLE?
    • Os byddwch chi’n cyffwrdd llinell OLE, mae’n debygol y byddwch yn cael eich lladd. Mae 25,000 folt yn ddigon i ladd unigolyn.
  • Sut mae llinellau OLE yn beryglus os na fyddwch chi’n cyffwrdd y llinellau?
    • Hyd yn oed os nad ydych yn cyffwrdd y llinellau, gall trydan neidio o hyd. Gall dod o fewn 2.75m i linell wedi’i thrydaneiddio fod yn ddigon agos i ladd.
  • Os yw mor beryglus, pam ydych chi’n ei gyflwyno?
    • Mae OLE yn newydd i Gymru, ond yn gyffredin ar reilffyrdd cenedlaethol eraill. Mae rheilffyrdd wedi’u trydaneiddio’n darparu ffordd fwy cynaliadwy o deithio. Bydd cludiant rheilffyrdd o ganlyniad yn lanach, yn amlach ac yn fwy dibynadwy.
    •  
    • Ni fydd gan bobl sy’n defnyddio’r rheilffordd yn ddiogel ac yn parchu ffin y rheilffordd ddim i boeni amdano wrth i ni roi mesurau ar waith i ddiogelu pobl. Mae’r rhain yn cynnwys codi uchder parapetau’r pontydd (waliau ochr), a gosod ffensys gwell ar draws y rhwydwaith, yn ogystal â rhwystrau rhwng mannau cyhoeddus a’r OLE lle bo angen.
  • Sut ydych chi’n gwybod a yw linellau OLE yn gweithio?
    • Os ydych chi’n byw ger gorsaf lle mae’r rheilffordd yn cael ei thrydaneiddio, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy lythyr. Bydd pobl sy’n defnyddio rheilffyrdd penodol yn aml yn gweld posteri a gwybodaeth am ddiogelwch wedi’u harddangos yn y gorsafoedd. I sicrhau bod y wybodaeth yn cyrraedd y pobl rheini sy’n debygol o ddal trenau o orsafoedd/linellau wedi’u trydaneiddio, byddwn yn targedu pobl ar gyfryngau cymdeithasol i roi gwybod am drydaneiddio, yn ogystal â gosod hysbysfyrddau mewn safleoedd amlwg.

 

Gwybodaeth Bwysig

  • Gwybodaeth bwysig i gymdeithasau genweiriol
    • Gan fod cyfarpar llinellau uwchben ymlaen bob amser, mae’n bwysig bod yn wyliadwrus wrth ymyl y rheilffordd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd gofal arbennig wrth gario eitemau hir fel gwialen bysgota ar blatfform gorsaf, dros groesfan droed ac wrth daflu’r lein ger rheilffordd wedi’i thrydaneiddio, oherwydd gall dod i gysylltiad â’r gwifrau gynyddu’r risg o gael sioc drydanol.
  • Gwybodaeth bwysig i ddefnyddwyr croesfannau rheilffordd
    • Gan fod cyfarpar llinellau uwchben ymlaen bob amser, mae’n bwysig bod yn wyliadwrus wrth ymyl y rheilffordd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd gofal arbennig wrth groesi a gwnewch yn siŵr nad ydych yn cario unrhyw eitemau hir a allai ddod i gysylltiad â’r gwifrau. Os ydych chi’n gyrru dros groesfan, gwnewch yn siŵr nad yw eich cerbyd yn cynnwys eitemau a allai ddod i gysylltiad â’r gwifrau uwchben.
  • Gwybodaeth bwysig i ffermwyr
    • Gan fod cyfarpar llinellau uwchben ymlaen bob amser, mae’n bwysig bod yn wyliadwrus wrth ymyl y rheilffordd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd gofal arbennig wrth wneud gwaith fel chwistrellu cnydau, dyfrhau a chwalu tail ger rheilffordd wedi’i thrydaneiddio, oherwydd gall dod i gysylltiad â’r gwifrau uwchben gynyddu eich risg chi a’ch peiriant o gael sioc drydanol.

 

Cadw mewn cysylltiad

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am amhariadau a tharfu posib a achosir gan ein gwaith helaeth yn datblygu system trafnidiaeth gyhoeddus Cymru;

 


Mae nifer o brosiectau Metro De Cymru wedi cael eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.