Aerial image of Cardiff central

Rydyn ni’n adeiladu canolfan drafnidiaeth yng nghanol Caerdydd i wella’r cysylltiadau rhwng bysiau, rheilffyrdd, cerdded a beicio ac i annog teithio cynaliadwy.

Bydd y Metro Canolog yn ganolfan drafnidiaeth sy’n caniatáu defnydd a mynediad hawdd at bob math o drafnidiaeth gyhoeddus fel rhan o wasanaeth ‘cyrraedd a mynd’ yng nghanol Caerdydd. Mae’r cynigion yn cynnwys gwelliannau i orsaf drenau Caerdydd Canolog a’r ardaloedd cyfagos.

 

Blaenoriaethau ar unwaith

Rheilffyrdd

Rydyn ni’n gwella gorsaf drenau Caerdydd Canolog er mwyn lliniaru gorlenwi a thagfeydd, gwella capasiti ar ddiwrnodau digwyddiadau a chaniatáu ar gyfer twf tymor hir o ran teithwyr. Bydd y gwelliannau’n creu prif ganolfan drafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gorsaf Metro allweddol. Bydd y gyfnewidfa well yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn gwella ansawdd aer ac yn lleihau allyriadau carbon.

 

Bysiau

Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn gyfleuster bysiau canolog newydd sbon gyda 14 o gilfannau bysiau ac amrywiaeth o gaffis a siopau.

Bydd y gyfnewidfa yn gwella cysylltiadau ac yn helpu pobl i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy. 

 

Cerdded, mynd ar olwynion a beicio

Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid ac rydym yn bwriadu cyflwyno 1,000 o fannau beiciau o ansawdd uchel. Rydyn ni’n bwriadu darparu’r rhain fel rhan o’r gwelliannau arfaethedig o gwmpas gorsaf Caerdydd Canolog.

Fel rhan o seilwaith cerdded a beicio newydd cyffrous Caerdydd, bydd y mannau hyn yn helpu pobl i deithio’n fwy iach a chynaliadwy.

 

Cysylltu gwahanol fathau o drafnidiaeth

Bydd y gwaith o sicrhau bod gwahanol ddulliau trafnidiaeth yn cysylltu â’i gilydd yn yr ardal hon yn cael ei wneud ar sawl ffurf - o wella mannau parcio beiciau yn y ganolfan drafnidiaeth hon drwy gydweithio â’n partneriaid a gwella dulliau canfod y ffordd a gwybodaeth am newidiadau i seilwaith ffisegol, gan gynnwys archwilio opsiynau o ran gwarchod rhag y tywydd.

 

Prosiectau tymor hwy

Rheilffyrdd

Bydd ein huchelgeisiau tymor hwy ar gyfer y rheilffyrdd yng ngorsaf Caerdydd Canolog yn canolbwyntio ar gysylltu â Phrif Reilffordd De Cymru a’r cyswllt â Bae Caerdydd.

 

Cysylltu gwahanol fathau o drafnidiaeth

Byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Caerdydd i gysylltu teithio ar fysiau a threnau â theithio llesol (cerdded a beicio) i alluogi pobl i wneud siwrneiau cyflawn gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, p’un a ydynt yn byw’n lleol neu’n ymweld â’r ddinas.