Sut bydd y gwaith o drawsnewid y Metro yn effeithio ar eich cynlluniau teithio Ebrill 2024

Mae’r Metro yn cael ei adeiladu’n bwrpasol ar gyfer dyfodol Cymru. Bydd yn ffordd fodern, effeithlon a chynaliadwy o deithio, ond efallai y bydd cyfnodau o newid i’ch cynlluniau teithio dros dro tra byddwn yn ei adeiladu. Lle bo hynny’n bosibl, rydyn ni’n trefnu bod y gwaith trawsnewid yn digwydd yn ystod cyfnodau llai prysur er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Rydyn ni’n cynnig cysylltiadau rhwng gwasanaethau rheilffyrdd a gwasanaethau bysiau.

 

Gwasanaethau bws yn lle’r trenau

Rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wella profiad y cwsmer. Bydd eich adborth gonest am yr arolwg yn ein helpu i lunio ein gwasanaethau bysiau yn y dyfodol.

  • Newidiadau i wasanaethau | Caerdydd Canolog - Coryton | Dydd Llun - Dydd Iau, o ddiwedd min nos ymlaen
    • Newidiadau i wasanaethau rhwng Caerdydd Canolog a Coryton o ddydd Llun 24 Hydref

      Oherwydd gwaith peirianneg ar y Metro, o ddydd Llun i ddydd Iau, bydd y trên olaf yn rhedeg yn llawer cynharach.

      20:15 Coryton - Caerdydd Canolog
      19:51 Caerdydd Canolog - Coryton

      Ar gyfer y gwasanaethau hwyrach, cytunwyd y byddai Bws Caerdydd yn derbyn tocynnau trên - ewch i cardiffbus.com.

      Cardiff Central - Coryton

  • Newidiadau i wasanaethau | Caerdydd Canolog - Rhymni | Dydd Llun - Dydd Iau a Dydd Sul, o ddiwedd min nos ymlaen
    • Llun - Iau, o tua 20:00 ymlaen; Sul, o tua 18:30 ymlaen

      Cardiff Central - Rhymney

  • Newidiadau i wasanaethau | Pontypridd - Treherbert | Dydd Sul - Dydd Iau, o ddiwedd min nos ymlaen
    • Rydym wrthi’n gwneud gwaith trydaneiddio hanfodol ar y llinell ac o ganlyniad i hyn, bydd gwasanaeth bws yn lle trên yn y nos rhwng dydd Sul a dydd Iau, felly rydyn ni’n gofyn i’n teithwyr wirio cyn teithio.

      Bydd ein hadnodd gwirio teithiau yn cael ei ddiweddaru gyda’r wybodaeth am fysiau yn lle trenau.

      Pontypridd - Treherbert

Ebrill

  • Pontypridd - Radur | Dydd Sadwrn 27 Ebrill - Dydd Sul 28 Ebrill, drwy’r dydd
    • Radyr - Pontypridd

  • Rhymni - Caerdydd Canolog | Dydd Sadwrn 27 Ebrill - Dydd Sul 28 Ebrill, drwy’r dydd
    • Rhymney - Cardiff Central
  • Teithio - Cwestiynau Cyffredin
    • Pa waith fydd yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod hwn?

      Y bwriad yw ymgymryd â phecyn cyfan o waith, gan gynnwys gwaith ar y cledrau a’r signalau yn ogystal â gwaith cynnal a chadw cyffredinol. Gwybodaeth am y Metro yma

       

      Pryd fydd yr amserlenni diwygiedig ar gael ar y systemau archebu ar-lein?

      Yn sgil y Coronafeirws, rydym yn rhedeg llai o wasanaethau ar hyn o bryd a bydd amserlenni trenau yn cael eu llwytho i fyny i’r systemau archebu tocynnau ar-lein wythnos ymlaen llaw. Cofiwch fwrw golwg ar eich taith cyn teithio. Bydd amserlenni bysiau diwygiedig yn cael eu harddangos yn eich gorsaf leol o ddechrau mis Gorffennaf.

       

      Beth alla i ei ddisgwyl pan fyddaf yn cyrraedd cyfnewidfa gorsaf Radur?

      Bydd gorsaf Radur yn gweithredu fel y brif gyfnewidfa rhwng y gwasanaethau trenau a bysiau. Bydd timau gwasanaeth cwsmeriaid ar gael yng ngorsaf Radur i gyfeirio'r cwsmeriaid i’r gyfnewidfa ac ohoni yn y maes parcio gerllaw. Mae trafnidiaeth ffordd wedi cael ei threfnu i gyd-fynd â'r gwasanaethau trên fel nad oes yn rhaid i chi ddisgwyl yn rhy hir.

       

      Ble fyddaf i’n cael fy nghasglu neu fy ngollwng yn fy ngorsaf leol?

      Mae’r rhan fwyaf o bwyntiau casglu / gollwng y gwasanaethau bysiau y tu allan i’r orsaf. Bydd digon o arwyddion ond gallwch ddod o hyd i’r lle i chi fynd i ddal y bysiau fydd yn rhedeg yn lle'r trenau yma (dewiswch eich gorsaf yna Gwybodaeth Maes Parcio) neu ar y Poster Gwybodaeth Ddefnyddiol yn eich gorsaf.

       

      Fel arfer rwy'n mynd â beic ar y trên am fy mod ei angen i barhau â'm taith – oes modd i mi fynd â’m beic ar y bws?

      Fel arfer ni chaniateir mynd â beic ar wasanaethau bysiau sy'n rhedeg yn lle’r trenau, ond lle bo modd gellir mynd â’ch beic yn ddibynnol ar ddisgresiwn y gyrrwr a’r lle sydd ar gael. Chi fydd yn gyfrifol am eich beic ar ein gwasanaethau bysiau, ac ni all Trafnidiaeth Cymru dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw ddifrod.

       

      Alla’ i fynd â’m ci ar y gwasanaeth bysiau?

      Fel arfer ni chaniateir cŵn ar y gwasanaethau bysiau sy'n rhedeg yn lle’r trenau, ac eithrio cŵn tywys.

       

      Alla’ i fynd â phram ar y gwasanaeth bysiau?

      Caniateir pramiau, ond gofynnwn i chi eu plygu cyn mynd ar y bws

       

      Faint o amser ychwanegol fydd mynd ar y bws yn ychwanegu at fy nhaith?

      I gael yr union amseroedd, bydd yn rhaid i chi edrych ar eich teithiau penodol, ond dyma ganllaw ar gyfer rhai teithiau allweddol. Mae’r rhain yn seiliedig ar amseroedd ar gyfartaledd ar gyfer yr adeg y teithir gyda’r nos.

      Llwybr Amcan o amseroedd gwasanaethu bysiau
      Radur - Pontypridd 00:35 awr
      Radur - Merthyr Tudful 01:20 awr
      Radur - Aberdare 01:20 awr
      Radur – Treherbert 01:25 awr

       

      Alla’ i brynu tocyn ar y bws?

      Nid oes cyfleusterau i brynu tocynnau ar y bysiau. Mae’n rhaid i chi brynu tocynnau cyn mynd ar y bws o’ch swyddfa docynnau lleol, peiriannau tocynnau, ar-lein gan ddefnyddio ein hadnodd cynllunio teithiau neu ein ap

       

      Rwy’n defnyddio cadair olwyn, alla’ i ddefnyddio'r gwasanaeth bws sy'n rhedeg yn lle'r trenau?

      Mae mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn am fod lloriau llwytho isel. I gael cyngor ac i drefnu cymorth ymlaen llaw, ffoniwch ein tîm Cymorth i Deithwyr ar 03330 050 501

 

Gwaith gwella yn y dyfodol

I gael gwybod am y gwaith gwella ar draws ein rhwydwaith a all effeithio ar yr amserlen, ewch i’r dudalen hon.

Gwaith Peirianyddol

 

Gweithredu diwydiannol

I gael gwybod am y gweithredu diwydiannol a all effeithio ar yr amserlen, ewch i’r dudalen hon.

Gweithredu diwydiannol