Pwyllgor Iechyd a Diogelwch

Submitted by positiveUser on

Pwyllgor Iechyd a Diogelwch

Mabwysiadwyd yn unol â phenderfyniad gan Fwrdd y Cyfarwyddwr dyddiedig 18 Hydref 2018.

Sylwer: Mae cyfeiriadau at “y Pwyllgor” yn golygu’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch ac mae cyfeiriadau at “y Bwrdd” yn golygu Bwrdd llawn Cyfarwyddwyr Trafnidiaeth Cymru (“y Cwmni”).

 

Dyletswyddau

1. Mae’r Pwyllgor yn Bwyllgor y Bwrdd a sefydlwyd dan Erthyglau Cymdeithasu’r Cwmni (“yr Erthyglau”).

2. Bydd trafodion a chyfarfodydd y Pwyllgor yn cael eu llywodraethu gan ddarpariaethau’r Erthyglau ar gyfer rheoleiddio cyfarfodydd a thrafodion y Bwrdd i'r graddau y maent yn berthnasol ac yn gyson â’r cylch gorchwyl hwn.

3. Pwrpas y Pwyllgor ydy helpu’r Bwrdd i gyflawni ei ddyletswyddau cyffredinol mewn cysylltiad â materion iechyd a diogelwch sy’n codi yn sgil gweithgareddau’r cwmni ac fel y maent yn effeithio ar y cyhoedd (gan gynnwys teithwyr), ar gyflogwyr ac ar gyflenwyr.

4. Bydd gan y Pwyllgor y swyddogaethau canlynol:

• argymell polisi Iechyd a Diogelwch (Atodiad A) i’w fabwysiadu gan y Bwrdd ac argymell newidiadau i’r polisi hwnnw fel y mae’r Pwyllgor yn ei ystyried yn angenrheidiol;

• monitro cydymffurfiad y Cwmni â’r polisi Iechyd a Diogelwch sydd wedi’i gymeradwyo;

• asesu a ydy prosesau'r Cwmni yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch;

• gwneud yn siŵr bod prosesau’r cwmni’n cael eu gwella’n barhaus er mwyn bod yn gyson â’r ymarfer gorau;

• cael ac adolygu adroddiadau ymchwilio mewn cysylltiad â digwyddiadau Iechyd a Diogelwch yn y Cwmni;

• datblygu a chyflenwi gwelliannau parhaus o ran perfformiad Iechyd a Diogelwch; ac

• ystyried materion Iechyd a Diogelwch a allai olygu goblygiadau i'r Cwmni o ran strategaeth, busnes ac enw da, ac argymell mesurau ac ymatebion priodol.

Aelodaeth

1. Bydd y Pwyllgor yn cynnwys o leiaf un Cyfarwyddwr anweithredol annibynnol, y Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd, ac aelodau eraill tebyg fel y bydd yr aelod o’r Pwyllgor sy’n Gyfarwyddwr anweithredol yn ei benderfynu.

2. Bydd Cadeirydd y Pwyllgor, a fydd yn aelod sy’n Gyfarwyddwr anweithredol annibynnol, yn cael ei gynnig gan Gadeirydd y Bwrdd a’i gymeradwyo gan y Cyfarwyddwyr.

3. Penderfynir ar aelodaeth o’r Pwyllgor, ar wahân i aelodaeth y Cyfarwyddwr anweithredol, yn ôl disgresiwn absoliwt yr aelod sy’n Gyfarwyddwr anweithredol a gaiff benodi aelodau eraill tebyg yn unol â'r telerau ac amodau sy’n briodol yn ôl ei ddisgresiwn absoliwt, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

• hyd y penodiad

• cyfnod rhybudd ar gyfer terfynu’r penodiad

• rheswm/rhesymau dros derfynu'r penodiad

• taliadau ac ad-daliadau ar gyfer treuliau rhesymol

• cyfrinachedd

4. Ymgysylltu â Gweithwyr

Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod yr holl weithiwyr yn cael eu cynnwys yn ein gweledigaeth a’n huchelgeisiau ar gyfer iechyd a diogelwch a’n bod yn ymgysylltu â nhw yn hynny o beth.

Mae Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Ymgynghori â Gweithwyr) 1996 yn eistedd ochr yn ochr â Rheoliadau Cynrychiolwyr Diogelwch a Phwyllgorau Diogelwch 1977. Mae gennym ddyletswydd i ymgynghori â gweithwyr dan y ddwy set o reoliadau.

O ran meysydd a swyddogaethau busnes di-undeb, mae penodi hyrwyddwyr iechyd a diogelwch nad ydynt yn perthyn i undeb llafur yn ffordd effeithiol o sicrhau cynrychiolaeth i bob maes. Gall y rhain eistedd ochr yn ochr â Chynrychiolwyr Diogelwch a benodir gan Undebau Llafur, a gweithio gyda nhw i sicrhau bod modd i bob gweithiwr ddweud ei ddweud.

Mae mantais o gael Cynrychiolwyr Diogelwch o Undebau Llafur gan ei fod yn ymestyn eu rhwydwaith i feysydd eraill nad oes ganddynt y cylch gwaith neu'r adnoddau i roi sylw iddynt. Dros amser, efallai y bydd rhai o’r hyrwyddwyr hyn yn dewis dod yn Gynrychiolwyr Diogelwch i Undebau Llafur.

 

Cyfarfodydd

1. Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod yn ffurfiol bob chwarter o leiaf, neu’n amlach os oes angen.

2. Caiff unrhyw aelod o’r Pwyllgor alw cyfarfod o’r Pwyllgor.

3. Caiff hysbysiad ynglŷn â phob cyfarfod yn cadarnhau'r dyddiad, y lleoliad a’r amser ynghyd ag agenda o eitemau i’w trafod a’r papurau perthnasol ei anfon at bob aelod o'r Pwyllgor, lle bo hynny’n ymarferol, dim llai na phum diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

4. Dau fydd cworwm cyfarfodydd y Pwyllgor. Rhaid i o leiaf un o'r ddau yma fod yn annibynnol ar dîm rheoli'r Cwmni.

5. Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor a/neu ddirprwy a benodir, bydd gweddill yr aelodau sy’n bresennol yn ethol un o’u plith i gadeirio'r cyfarfod.

6. Bydd gan Gadeirydd y Bwrdd a Phrif Weithredwr y Cwmni yr hawl i fod yn bresennol a siarad yng nghyfarfodydd y Pwyllgor; bydd pobl eraill yn gallu siarad neu gellir eu galw drwy drefniant ymlaen llaw â Chadeirydd y Pwyllgor.

7. Bydd y Pwyllgor neu ei Gadeirydd yn cyflwyno adroddiad i’r Bwrdd ar ôl pob cyfarfod.

8. Bydd cofnod o holl gyfarfodydd y Pwyllgor yn cael eu cadw, yn ogystal â chofnodion o’r trafodion a’r penderfyniadau.

9. Ar ôl cymeradwyaeth ragarweiniol gan y Cadeirydd, caiff copïau o gofnodion y cyfarfodydd eu dosbarthu i holl aelodau’r Pwyllgor ac i Gadeirydd y Bwrdd. Cyhyd â nad oes gwrthdaro rhwng buddiannau, caiff unrhyw gyfarwyddwr gael gafael ar gopïau o agenda’r Pwyllgor gyda’r papurau a'r cofnodion perthnasol, a hynny ar gais i'r Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd.

10. Bydd y Pwyllgor yn gallu cael cyngor proffesiynol gan weithwyr yn y Cwmni a, phan fo angen, gan gynghorwyr allanol priodol.

 

Atodiad A: Polisi Iechyd a Diogelwch Trafnidiaeth Cymru

Mae ein cwsmeriaid, ein defnyddwyr, ein gweithwyr a’n cyflenwyr yn disgwyl y byddant yn ddiogel rhag niwed pan fyddant yn defnyddio neu’n cyflenwi ein gwasanaethau neu ein hasedau. Ein brwdfrydedd ydy “Profiad diogel, hapus ac iach i bawb”. Mae’r Cyfarwyddwyr wedi ymrwymo i’n brwdfrydedd a’r disgwyliadau hyn.

Rydym am sicrhau'r canlynol

• bod pob taith yn daith ddiogel i’n cwsmeriaid a’n defnyddwyr

• bod sicrwydd ynghylch diogelwch ein cwsmeriaid a’n gweithwyr

• bod ein gweithwyr, ein staff asiantaeth a’n contractwyr yn mynd adref yn ddiogel ac yn iach pob dydd

• ein bod yn cynnal a chadw ein hasedau ac yn cyflenwi prosiectau’n ddiogel

• ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau i atal llygredd a niwsans; i warchod bioamrywiaeth; i wella ansawdd yr aer; ac i leihau gwastraff ac allyriadau carbon

• ein bod yn gynhwysol ac yn hygyrch ar gyfer ein holl gwsmeriaid a defnyddwyr, gan gynnwys pobl anabl.

Sut byddwn yn cyflawni hyn

Byddwn yn rhoi rheolau a gweithdrefnau ar waith mewn cysylltiad ag iechyd, diogelwch a chynaliadwyedd, gan gynnwys gweithdrefnau brys a fydd yn cael eu diweddaru’n rheolaidd. Chi fydd yn defnyddio’r rhain. Os nad ydych yn gwybod ble mae dod o hyd iddynt, gofynnwch i’ch rheolwr llinell neu'r Cyfarwyddwr Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd.

Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall y risgiau a chyflwyno mesurau iechyd, diogelwch a chynaliadwyedd i sicrhau bod y risgiau mor isel ag sy’n rhesymol ymarferol. Byddwn yn cydymffurfio â deddfwriaeth. Bydd ystadegau ar iechyd, diogelwch a’r amgylchedd yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i nodi tueddiadau cadarnhaol a negyddol, a’u gwir achos, er mwyn gallu cymryd camau angenrheidiol. Byddwn hefyd yn sicrhau ein hunain bod ein cyflenwyr yn cynnal cofnod da o ran iechyd, diogelwch a’r amgylchedd.

Pob blwyddyn, rydym yn datblygu cynlluniau gwella manwl mewn cysylltiad ag iechyd, diogelwch a’r amgylchedd, a hynny i wella’r hyn rydym yn ei wneud. Mae’r cynlluniau hyn yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan y Cyfarwyddwyr yn eich rhan chi o’r busnes.

Mae ein cwsmeriaid, ein defnyddwyr, ein gweithwyr a’n cyflenwyr yn disgwyl y byddant yn ddiogel rhag niwed pan fyddant yn defnyddio neu’n cyflenwi ein gwasanaethau neu ein hasedau. Mae’r Cyfarwyddwyr wedi ymrwymo i gyflawni ein gweledigaeth a bodloni’r disgwyliadau hyn.

Byddwn hefyd yn sicrhau ein hunain bod ein cyflenwyr yn cynnal cofnod da o ran iechyd, diogelwch a’r amgylchedd.

Pob blwyddyn, rydym yn datblygu cynlluniau gwella manwl mewn cysylltiad ag iechyd, diogelwch a chynaliadwyedd, a hynny i wella’r hyn rydym yn ei wneud. Mae’r cynlluniau hyn yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan y Cyfarwyddwyr yn eich rhan chi o’r busnes.

Pan fyddwch yn gweithio i Trafnidiaeth Cymru (TrC) byddwch yn cael yr hyfforddiant a’r cyfarpar angenrheidiol i sicrhau eich bod yn gallu cyflawni eich swydd yn ddiogel, sicrhau diogelwch cwsmeriaid a gwarchod yr amgylchedd.

Fel gweithiwr, mae eich lles corfforol a meddyliol yn bwysig hefyd ac rydym yn darparu gwasanaethau iechyd galwedigaethol i’ch helpu chi i aros yn iach ac i barhau yn eich swydd, ac yn darparu cyfleusterau lles addas yn eich gweithle.

Rydym am gynnal diwylliant teg ac rydym yn ymgynghori â gweithwyr neu eu cynrychiolwyr ar faterion iechyd a diogelwch fel y maent yn codi, a hynny mewn ffordd ystyrlon drwy'r cyfarfodydd iechyd a diogelwch sydd wedi’u trefnu neu’n fwy rheolaidd os oes angen.

Beth gallwn ni gyd ei wneud

Mae angen i ni gyd ofalu am ein gilydd a chodi ein llais os oes unrhyw beth yn anniogel neu’n niweidiol i iechyd a’r amgylchedd.

Mae gennym oll ddyletswydd i ddilyn ein rheolau a’n gweithdrefnau mewn cysylltiad ag iechyd, diogelwch a chynaliadwyedd. Peidiwch â defnyddio llwybrau byr. Os ydych yn credu bod y rheolau neu’r gweithdrefnau yn ddi-fudd, rhowch wybod i’ch rheolwr. Gellir newid y rheolau a'r gweithdrefnau os oes angen.

Gallwn ddysgu o’r gorffennol felly fe ddylid rhoi gwybod am ddamweiniau, digwyddiadau a digwyddiadau trwch blewyn (near misses) bob amser.

Dangoswch ymddygiadau TrC ym mhopeth rydym yn ei wneud.

Drwy hyn gallwn weithio gyda’n gilydd er mwyn cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer amgylchedd iach a diogel.

Atodiad B: Templed o Agenda Cyfarfod Iechyd a Diogelwch Trafnidiaeth Cymru

• Ymddiheuriadau

 

• Cofnodion Blaenorol a Materion sy’n Codi

 

• Diweddariad y Bwrdd – Prif Negeseuon Iechyd a Diogelwch

 

• Strategaeth Iechyd a Diogelwch a Rheoli Risg

o Risgiau Iechyd a Diogelwch – Y Deg Pwysicaf

o Cynnydd yn erbyn y rhaglen cyflwyno gweithdrefnau

o Diweddariad ar Faterion Rheoleiddiol a'r Diwydiant

 

• Adroddiadau Perfformiad Iechyd a Diogelwch

o Dangosyddion Arweiniol ac Oediog o Perfformiad Cytundebol a Gweithredol (ee SPAD’s)

o Cydymffurfiad o ran Hyfforddiant o Digwyddiadau Arwyddocaol

o Canlyniadau Archwilio a Chynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu

 

• Prif Newidiadau i Ddeddfwriaeth a Diweddariadau ar y Polisi Iechyd a Diogelwch

 

• Diweddariadau yn sgil Ymgysylltu â Gweithwyr (ac Undebau Llafur)

 

• Iechyd a Lles Galwedigaethol

o Monitro Gweithdrefnau a Pholisïau

o Perfformiad

 

• Cyfathrebiadau Iechyd a Diogelwch

o Gweithwyr a Chyflenwyr

o Rhyngwynebu Trydydd Parti (NR, TOC’s eraill)

o Cyhoeddus

 

.

.