Wyddoch chi ein bod yn monitro niferoedd y cwsmeriaid sydd ar ein gwasanaethau rhwng Caerdydd, Amwythig a Crewe yn ddyddiol? Gall y rhain fod yn brysur, yn enwedig ar benwythnosau.

 

Dyma’r hyn y gallwch ei wneud i helpu i wella’ch taith

  • Defnyddiwch ein gwasanaeth gwirio capasiti i ddod o hyd i drenau sydd â mwy o le. Rydym yn ychwanegu cerbydau lle bo’n bosibl.

  • Rhag ofn bod unrhyw waith trwsio ar y gweill a all effeithio ar eich gwasanaeth, gwiriwch eich taith yma: Cynllunydd teithiau trên.

  • Dim ond nifer cyfyngedig o rai tocynnau sydd, felly prynwch eich tocyn cyn ichi deithio yma: Tocynnau Advance. Gall hyn hefyd arbed amser ac arian ichi.

  • Storiwch eich eiddo ar y rheseli sydd ar gael er mwyn cadw seddi’n wag a llwybrau cerdded yn glir.

  • Ceisiwch gadw drysau’n glir i helpu pobl i ddod ar y trên ac oddi ar y trên.

  • Os yw’ch cerbyd yn brysur, gwiriwch a oes mwy o le ar un arall.

  • Byddwn yn darparu gwasanaeth bws pan fo angen er mwyn rhoi mwy o gapasiti a galluogi ein cwsmeriaid i barhau i deithio.

 

Gwybodaeth ddiweddaraf yn fyw ar y dydd

  • Lawrlwythwch ein ap neu ewch i journeycheck.com/tfwrail

  • Cadwch lygad ar ein sgriniau gwybodaeth sydd ar y platfform

  • Gofynnwch i un o’n cydweithwyr

  • Defnyddiwch y man cymorth i deithwyr sydd yn eich gorsaf: Gorsafoedd