
Teithio ar drên, bws, beic neu ar droed yng Ngogledd Cymru
Rydyn ni'n ei gwneud hi'n haws i chi deithio ar drên, bws, beic neu ar droed yng Ngogledd Cymru.
Roedd ein hymrwymiad yn 2018 i Ogledd Cymru yn cynnwys:
- Parhau i weithio ar adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ar gyfer y rhanbarth, fel rhan o Raglen Metro Gogledd Cymru.
- Cyflwyno trenau newydd lle bo'n berthnasol ar draws rhanbarth Gogledd Cymru.
- Annog teithio trwy leihau tocyn wrth deithio a thocynnau tymor i, o ac o fewn Gogledd Cymru.
- Buddsoddi yng Ngorsaf Shotton a Wrecsam Cyffredinol.
- Creu profiad intercity gwirioneddol ar y gwasanaethau pellter hir rhwng y Gogledd a’r De, gan gyflwyno cerbydau Dosbarth IV ar eu newydd wedd i Gymru. Cyflwyno dwy Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol newydd ar Reilffordd Gogledd Cymru a lein Crewe i Henffordd. Cefnogir y rhain gan recriwtio dau Reolwr Cymunedol a Rhanddeiliaid newydd ac 13 o Lysgenhadon Cymunedol a Chwsmeriaid.
- Helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i’r prisiau isaf sydd ar gael drwy gyflwyno cyfleuster talu-wrth-fynd ar gyfer defnyddwyr ein ap o fis Ebrill 2021.
Gwnaethom hefyd nodi'r ffyrdd y byddem yn gwella gwasanaethau trên. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Lansio gwasanaeth newydd o Lerpwl i Wrecsam drwy Halton Curve ym mis Mai 2019.
- Cynyddu amlder y gwasanaeth rhwng Wrecsam a Bidston gyda dau drên yr awr. Bydd hyn yn cynnwys un gwasanaeth yn galw ym mhob gorsaf ac un gwasanaeth cyflym.
- Cyflwyno gwasanaeth newydd bob awr rhwng Lerpwl a Llandudno ynghyd ag ymestyn gwasanaeth presennol Llandudno i Faes Awyr Manceinion gan gynnwys Bangor.
- Cyflwyno gwasanaeth newydd pob dwy awr rhwng Lerpwl a Chaerdydd, gyda gwasanaeth bob awr rhwng Amwythig a Lerpwl.
DIWEDDARIAD: Mae Covid-19 yn golygu bod rhai dyddiadau gwreiddiol, a bennwyd yn 2018, wedi gorfod cael eu hadolygu.