
Beth mae’n ei olygu i’ch Rhanbarth chi: Y Gororau
Fel rhan o’n hymrwymiad i’r Gororau, byddwn yn:
-
Cyflwyno Unedau Lluosog Diesel dau a thri cherbyd ar gyfer gwasanaeth Aberdaugleddau i Fanceinion erbyn 2023.
-
Creu profiad “intercity” go iawn ar wasnaethau dros bellter rhwng de a gogledd, drwy ddod a 12 cerbyd Mark IV wedi eu hadnewyddu i’w defnyddio rhwng Caerdydd a Chaergybi yn galw yn yr Amwythig a Chaer.
-
Buddsoddi £7.5m yng ngorsaf Caer yn 2028.
-
Cyflwyno Partneriaeth Rheilffordd Cymunedol ar lein Crewe i Henffordd. Bydd tair Partneriaeth Rheiffordd Cymunedol yn cael eu cefnogi wrth recriwtio Rheolydd Cymuned a Rhanddeiliaid newydd ac wyth Llysgennad Cymuned a Chwsmer.
-
Cyflwyno prisiau is ar gyfer tocynnau rhwng Shotton a Chaer ( gostwng pris tocynnau tymor yn Ionawr 2020) a Llanllieni(Leominster) - Amwythig.
-
Gosod peiriannau tocyn mewn mwy o orsafoedd
-
Cyflwyno cyfleuster talu-wrth-fynd i ddefnyddwyr ein app o Ebrill 2021, i ganfod y pris isaf am docyn.
Gwelliannau gwasanaeth trên yn cynnwys:
-
Dod a Metro Gogledd Ddwyrain Cymru i fodolaeth trwy gynyddu amlder ar lein Wrecsam-Bidston i 2 drên yr awr o fis Rhagfyr 2021, gyda threnau metro wedi eu hadnewyddu’n llwyr.
DIWEDDARIAD: Oherwydd effaith enfawr COVID-19, bu’n rhaid newid rhai dyddiadau gwreiddiol, a osodwyd yn 2018. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion yma. -
Cyflwyno gwasanaeth 1 trên bob awr o Gaer i Lime Street, Lerpwl ym Mai 2019.
-
Cyflwyno gwasanaeth newydd o Lerpwl i Landudno a’r Amwythig (1 trên bob awr) a Lerpwl i Gaerdydd (1 trên bob 2 awr) a gwasanaeth cyson o 1 trên bob awr rhwng Cheltenham a Chaerdydd erbyn Rhagfyr 2022.
DIWEDDARIAD: Oherwydd effaith enfawr COVID-19, bu’n rhaid newid rhai dyddiadau gwreiddiol, a osodwyd yn 2018. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion yma.