Attraction facilities
- Croeso i Blant
- Croeso i Anifeiliaid Anwes
About Castell Llansteffan (Cadw)
Y castell pentir hwn, uwchben tir ffermio glas, môr chwyrlïog a thywod disglair Moryd Tywi a Bae Caerfyrddin, sy’n hawlio un o’r lleoliadau mwyaf ysblennydd yng Nghymru. Nid yw hynny’n golygu bod diffyg diddordeb yn perthyn i’r cadarnle ei hun. Mae Llansteffan, a arferai reoli man croesi afon pwysig, yn meddu ar safle a amddiffynnwyd ers yr adegau cynhanes.Mae ei waliau carreg garw, yn dyddio o ddiwedd y 12fed ganrif, yn amgáu caer bentir o’r Oes Haearn a feddiannwyd yn 600 CC. Er ei fod bellach yn adfail, nid yw’r castell wedi colli ei bŵer i frawychu - yn enwedig wrth ichi ddynesu at ei borthdy enfawr â dau dŵr, wedi’i adeiladu tua 1280 ac yn enbyd o fawr o hyd.
Cynnwys gan Croeso Cymru
Gallwch wybod mwy trwy glicio ar: www.visitwales.com