Contact details

Ffôn:

Cyfeiriad a chyfarwyddiadau

Attraction facilities

  • Croeso i Blant
  • Darparu ar Gyfer Grwpiau

About Siambr Gladdu Bryn Celli Ddu

Dau safle mewn un, mewn gwirionedd, yw Bryn Celli Ddu, sef un o dirnodau cynhanes enwocaf Ynys Môn.

Yn y cyfnod Neolithig cynnar (Oes Newydd y Cerrig), adeiladwyd hengor (clawdd a ffos) yn cau cylch o gerrig, a fyddai’n cael ei ddisodli’n ddiweddarach gan feddrod siambr islaw tomen yn mesur hyd at 85 troedfedd /26m ar ei draws.

Y tu mewn, mae tramwyfa hir, gul yn arwain at siambr wythonglog 8 troedfedd/2.4m ar ei thraws, lle canfuwyd arteffactau fel esgyrn dynol, pennau saethau a cherrig cerfiedig.

Ond dim ond unwaith y flwyddyn y gellir gweld nodwedd fwyaf anarferol Bryn Celli Ddu. Wrth i’r haul godi ar heuldro’r haf (diwrnod hiraf y flwyddyn) mae golau’n tywynnu’n syth i lawr tramwyfa’r beddrod i oleuo’r siambr y tu mewn.

Station Icon


Yr orsaf agosaf:
Llanfairpwll

Location Icon


30munud ar droed a bws o’r orsaf 
gweld y map