Teithio i Gastell Rhaglan ar y trên

Station Icon
Yr orsaf agosaf: Y Fenni

Location Icon
3 munud o cerdded  > 25 munud ar fws o’r orsaf > 13 munud o cerdded  - gweld y map

 

Credir mai Castell Rhaglan, sydd wedi'i leoli yng nghanol ysblander cefn gwlad Cymru, yw’r castell mwyaf moethus a adeiladwyd erioed gan Gymry. 

Cafodd ei ddylunio i greu argraff yn ogystal â bygwth, a dan reolaeth amryw o berchnogion, cafodd Castell Rhaglan ei drawsnewid yn gadarnle gwledig godidog, sydd ag un o’r gerddi harddaf o gyfnod y Dadeni ym Mhrydain.  

Mae’r castell ychydig yn bellach i ffwrdd o’r orsaf drenau na rhai o’r atyniadau eraill rydyn ni wedi’u rhestru, ond os ewch chi ar daith fer ar y bws o orsaf Y Fenni, fe gewch chi gyfle i weld y castell hardd hwn â’ch llygaid eich hun. 
 
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Gastell Rhaglan a’i hanes drwy fynd i wefan Cadw.

 

 

Rydyn ni’n gweithio gyda Cadw i gynnig mynediad i 2 am bris 1 i’w safleoedd hanesyddol. 

Gyda thocyn trên dilys, fe gewch chi ac un person arall 2 docyn mynediad am bris 1 ar yr un diwrnod â’ch taith*, sy’n golygu y gallwch chi ymweld â Chastell Rhaglen am lai o arian drwy deithio ar y trên.  

*Telerau ac Amodau perthnasol.

  • Gweler y Telerau ac Amodau:
    • Bydd angen i chi ddangos eich tocyn trên Trafnidiaeth Cymru, sy’n ddilys ar gyfer taith sydd ar yr un diwrnod ag y byddwch yn ymweld ag atyniad Cadw.  Mae’r cynnig 2-am-1 ar gael yn safleoedd Cadw lle rydych yn talu am fynediad, a bydd angen i chi ei adbrynu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn prynu’ch tocyn mynediad. Mae’n rhaid i’ch tocyn TrC fod yn ddilys ar gyfer yr orsaf drên agosaf i’r atyniad a ddewiswch.
    •  
    • Mae'r cynnig hwn yn ddilys tan 31 Mai 2024.
    •  
    • Mae rhagor o wybodaeth am y telerau ac amodau ar wefan Cadw.