Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 15 Gorffennaf 2021

Submitted by positiveUser on

Cofnodion Bwrdd Trafnidiaeth Cymru

15 Gorffennaf 2021

10:00 – 16:30

Yn bresennol

Aelodau: Scott Waddington (Cadeirydd); Nicola Kemmery; Heather Clash; Vernon Everitt; Sarah Howells; Alison Noon-Jones; a James Price.

Hefyd yn bresennol: Natalie Feeley (eitemau 1-3); Leyton Powell (eitemau 1-2c); a Jeremy Morgan. Sesiwn y diweddariad gweithredol (Rhan B): Geoff Ogden; Lewis Brencher; Lisa Yates; Lee Robinson (eitemau 13 a 14); Karl Gilmore; Phil Rawlings (eitem 5) a Natalie Rees (eitem 6).

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

Rhan A – Cyfarfod y Bwrdd Llawn

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Anfonodd Alun Bowen ei ymddiheuriadau.

1b. Hysbysiad Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a chyhoeddodd fod y cyfarfod wedi dechrau.

1c. Datganiadau o Fuddiant

Mae James Price yn un o drigolion Ffynnon Taf lle mae gwaith sylweddol yn gysylltiedig â rhaglen Metro De Cymru yn cael ei wneud ar hyn o bryd.

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu’r Cyfarfod Blaenorol

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC dyddiedig 17 Mehefin 2021 fel cofnod gwir a chywir.

2a. Ffocws ar Ddiogelwch

Mae cwest ar y gweill ynglŷn â phrentis trydanol fu farw ychydig flynyddoedd yn ôl wrth wneud gwaith mewn ffos. Roedd y goruchwyliwr yn absennol, a'r prentis wedi methu sawl prawf diogelwch yn flaenorol. Fodd bynnag, nid oedd y goruchwyliwr yn ymwybodol o'r ffaith fod y prentis wedi methu'r profion. Mae sawl gwers i'w dysgu gan gynnwys yr angen i oruchwylwyr fod yn gwbl ymwybodol o'u rôl a'u cyfrifoldebau.

2b. Ffocws ar Gwsmeriaid

Roedd adborth diweddar gan gwsmeriaid i gyfarwyddwr anweithredol TrC yn gwbl gadarnhaol o ran defnyddio gwasanaethau i ac o Gaerdydd Canolog.

2c. Perfformiad o ran diogelwch

Ni adroddwyd unrhyw ddigwyddiadau na damweiniau i Grŵp TrC yn ystod y cyfnod hwn. Cafwyd adborth cadarnhaol ar ganllawiau ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb.

Mae cynlluniau'n cael eu datblygu er mwyn adolygu'r strategaeth Iechyd Galwedigaethol a Hylendid i ddeall sut y gall TrC fel busnes gymedroli'r peryglon biolegol, cemegol, ergonomig a seicogymdeithasol niferus sy'n gysylltiedig â gweithleoedd.

Mae sawl ffrwd waith bwysig wedi mynd rhagddynt gan gynnwys creu cynlluniau ar gyfer gweithio mewn swyddfeydd, asesiadau risg mewn depos glanhau, a datblygu proses Arweinyddiaeth Weladwy a Deimlir TrC.

O ran Trefnau TrC, ni chafwyd unrhyw ddamweiniau RIDDOR nac achosion hysbys o basio signal yn beryglus (SPAD) yn ystod y cyfnod blaenorol ac roedd y mynegai wedi’i bwysoli ar sail marwolaethau o fewn y ffigur a ragwelwyd. Cafwyd 12 digwyddiad yn y gweithlu, wyth ymosodiad corfforol - tri ohonynt wedi arwain at golli amser.

Mae canllawiau gorchudd wyneb Llywodraeth Cymru yn glir a byddant yn cael eu gwisgo ar bob gwasanaeth yng Nghymru. Trafododd y Bwrdd yr angen i gael negeseuon clir a chyson i gwsmeriaid yn ogystal â sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn erbyn unrhyw un sy'n cam-drin staff sy'n ceisio gorfodi'r canllawiau. Gofynnodd y Bwrdd a oes modd sicrhau bod gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol fel 'amod cludo/teithio' i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau TrC yn Lloegr. Cadarnhawyd mai'r unig fesur gorfodi yw atal rhywun rhag teithio ac na ellir rhoi dirwyon dan amodau cludo. Cytunodd y Bwrdd y dylid archwilio rhinweddau gwisgo gorchuddion wyneb fel amod teithio mewn ymgynghoriad â'r tîm Rheilffyrdd a'r Adran Drafnidiaeth [Cam Gweithredu LP]. Hefyd, clywodd y Bwrdd y bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n defnyddio eithriadau rhag gwisgo gorchuddion wyneb, a'r wythnos diwethaf oedd yr wythnos gyntaf i bobl sy'n hawlio eithriadau fod yn uwch na nifer y bobl y gofynnwyd iddynt wisgo gorchudd wyneb.

Cyflwynwyd y Bwrdd i'r cylch gorchwyl diwygiedig arfaethedig yr is-bwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles sydd wedi'i gysoni â chylch gorchwyl is-bwyllgor Diogelwch Rheilffyrdd TrC. Mae'r cylch gorchwyl wedi'i ddiweddaru yn dilyn cyfarfod ag ORR i drafod cyfrifoldebau Grŵp TrC ar ddiogelwch sy'n ymwneud yn bennaf â'i staff ei hun a cheisio sicrwydd hyd braich gan Trefnau TrC. Cymeradwyodd y Bwrdd y cylch gorchwyl diwygiedig.

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Roedd y mis diwethaf yn gynhyrchiol unwaith eto ac mae mwy yn cael ei wneud i gynllunio'n strategol ar gyfer y dyfodol a datrys rhai o'r problemau mwyaf dyrys. Rydym yn dal i ddisgwyl am benderfyniadau busnes hollbwysig gan Lywodraeth Cymru ar wasnanaeth Pullman, rhaglen FIT, cytuno ar gyllideb a chylch gwaith 2021-22, dogfen Fframwaith a'r Articles of Association.

Mae'r prif heriau corfforaethol yn parhau o safbwynt bod yn gynllunydd teithiau aml-fodd cydlynus a darparu gwasanaethau trafnidiaeth mewn ffordd effeithlon. Mae cynnydd yn cael ei wneud o ran meddwl strategol a hirdymor ynghylch dyluniad a phrosesau sefydliadol gan gynnwys cynnwys gweithredu newidiadau posibl i raglen FIT, yn enwedig y rhwydwaith priffyrdd strategol.

Diweddarwyd y Bwrdd ar ddangosyddion perfformiad allweddol. Er bod mesurau rheilffyrdd ar waith ac yn cael eu defnyddio ar lefelau gwahanol o grŵp TrC, mae gwaith yn parhau gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu metrigau corfforaethol ac effeithlonrwydd. Bydd dangosyddion drafft yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd i'w trafod yn y cyfarfod nesaf.

Mae sawl rhan o'r sector cyhoeddus wedi cysylltu i ddarparu cymorth gyda gwasanaethau proffesiynol a chymorth cefn swyddfa. Mae'r strategaeth ar gyfer ymdrin â dulliau o'r fath wrthi'n cael ei datblygu gyda phwyslais ar adennill costau a sicrhau nad yw unrhyw weithgareddau'n peryglu gweithrediadau TrC.

Diweddarwyd y Bwrdd ar broses gaffael Pullman Rail Ltd, gyda phenderfyniad gan Lywodraeth Cymru yn yr arfaeth. Mae dangosyddion perfformiad allweddol Trenau TrC yn dangos perfformiad digonol, ond gyda rhai problemau gyda Dosbarth 769 yn destun ymchwiliad o hyd a theithwyr yn dychwelyd, mae hyn yn effeithio ar wasanaethau. Gyda threnau Pacers allan o wasanaeth a phroblemau gyda threnau Dosbarth 769, mae atebion posibl dan ystyriaeth.

Mae timau TrC yn cael eu herio i wella perchnogaeth a chyflawni 'materion anodd’. Datblygwyd cynllun i ddechrau rhaglen fyrrach nag arfer ar gyfer gwaith rheilffordd i wella golwg a theimlad gorsaf Heol y Frenhines, a fydd yn cael ei defnyddio fel cynllun peilot i leihau amser a chost rhaglenni cymhleth.

Yn unol â chais yr Undebau, codwyd mater 'diswyddo ac ailgyflogi' gyda Llywodraeth Cymru ond ni chafwyd ymateb. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod y Prif Weinidog wedi gwneud datganiad yn y Senedd yn ddiweddar ar y mater [Cam Gweithredu JP i'w rannu ag NF].

3b. Cyllid

Rhoddwyd trosolwg i'r Bwrdd o weithgareddau cyllid allweddol dros y mis diwethaf. Y prif ganolbwynt oedd cytuno ar gyllideb a chylch gwaith terfynol gyda Llywodraeth Cymru; integreiddio Trenau TrC gan gynnwys rheolaethau a chymeradwyo gwariant ar gyfer 2021/22; cynllunio a thrafodaethau ar gerbydau; adroddiadau KPI; Adolygiad Strategol o Reilffyrdd; a gweithgareddau ychwanegol gan gynnwys grantiau teithio llesol, mentrau bws, PTI, Gwasanaethau Arloesi TrC a chynlluniau strategol allweddol eraill ar gyfer blynyddoedd ariannol y dyfodol.

Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli am fis Mehefin 2021 gan gynnwys yr amrywiannau allweddol. Roedd amrywiannau gwariant refeniw yn danwariant oherwydd mwy o refeniw o fewn Trenau TrC ac felly llai o angen am gymhorthdal, a thanwariant ar wasanaethau ymgynghori TrC oherwydd y gwaith prosiect a ragwelwyd sydd heb gychwyn eto heb ymrwymiad llwyr gan Lywodraeth Cymru ar y Cynllun Busnes a'r gyllideb. Mae'n debygol y bydd gostyngiad blwyddyn lawn oherwydd y newid a ragwelir mewn refeniw rheilffyrdd, a thrwy hynny, llai o angen am gymhorthdal mor uchel ynghyd ag oedi gwariant. Nodwyd bod gwaith seilwaith trawsnewid wedi gorwario gan nad yw cronfeydd ERDF wedi'u derbyn eto. O ganlyniad, mae camau’r prosiect yn cael eu diwygio.

Croesawodd y Bwrdd y cynnydd mewn refeniw teithwyr ond roeddent yn pryderu am lefelau teithio heb docyn. Cytunodd y Bwrdd fod angen dull meddylgar o ddiogelu refeniw er mwyn sicrhau nad yw diogelwch arolygwyr tocynnau mewn perygl. Gofynnodd y Bwrdd am ddata ar refeniw teithwyr o'i gymharu â'r lefelau cyn COVID pe bai llai o achosion o deithio heb docyn [Cam Gweithredu HC].

Nododd y Bwrdd berfformiad ariannol Trenau TrC dros y cyfnod blaenorol. Mae refeniw wedi cynyddu a'r gwariant yn ffafriol i'r gyllideb oherwydd oedi mewn gweithgareddau, ond bydd y gwariant yn dal i fyny yn ystod y flwyddyn.

3c. Diweddariad ar yr is-bwyllgorau

Diweddarwyd y Bwrdd ar gyfarfodydd y pwyllgorau Iechyd, Diogelwch a Lles, Taliad Cydnabyddiaeth a Phrosiectau Mawr.

3d. Bwrdd Llywio TrC

Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am drafodaethau anffurfiol diweddar Bwrdd Llywio TrC. Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar newidiadau i bersonél allweddol Llywodraeth Cymru, ymbellhau cymdeithasol, llywodraethu'r Bwrdd Llywio, Dangosyddion Perfformiad Allweddol, y rhaglen fysiau, rôl Dirprwy Gyfarwyddwyr Llywodraeth Cymru a phasys teithio TrC.

Rhan B – Sesiwn y diweddariad gweithredol

Ymunodd Lewis Brencher, Leyton Powell, Karl Gilmore, Lisa Yates a Geoff Ogden â'r cyfarfod.

4. Y wybodaeth ddiweddaraf am gyfathrebu

Bu'r cyfnod diwethaf yr un mor heriol oherwydd yr holl graffu sydd ar TrC oherwydd cynnydd yn nifer y teithwyr a chadw pellter cymdeithasol. Mae'r naratif 'cyfrifoldeb personol' diwygiedig yn helpu gyda'r ymateb ac yn cael ei dderbyn ar y cyfan gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid.

Mae'r broses o gyflawni sawl menter yn parhau gyda llwyddiant arbennig o ran lansio ymgyrchoedd fel yr ymgyrch diogelwch croesfannau rheilffordd a gafodd sylw eang yn y DU. Hefyd, mae pwyslais ar baratoi ar gyfer cyfnod o fynd ati’n rhagweithiol i annog galw yn ogystal â chefnogi’r rhaglen drawsnewid. Cytunwyd i egluro'r sefyllfa reoleiddiol ar wisgo masgiau mewn gorsafoedd awyr agored [Cam gweithredu LB ac LP].

5. Gwerthu tir Syphon

Ymunodd Phil Rawlings â’r cyfarfod. Yn amodol ar sêl bendith Gweinidogion Cymru, cytunodd y Bwrdd i werthu darn bach o dir i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am werth y farchnad o £1 gyda chyfyngiad ar ddefnydd). Clywodd y Bwrdd fod tir a oedd yn perthyn i Network Rail ar y pryd wedi'i ffensio a'i gynnwys o fewn ffin priffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT) yn dilyn cynllun parcio a theithio sawl blwyddyn yn ôl. Bwriad Network Rail oedd unioni safle eu ffin, ond nid aeth y trosglwyddiad tir yn ei flaen ac felly fe etifeddodd TrC y darn o dir fel trafodyn 'ar waith' fel rhan o drosglwyddiad seilwaith Llinellau Craidd y Cymoedd.

6. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu cynaliadwy

Ymunodd Natalie Rees â'r cyfarfod i dynnu sylw at rai o'r prif gyflawniadau yn erbyn y saith nod llesiant. Diolchodd y Bwrdd i bawb fu'n gysylltiedig â chyflawni sawl menter.

7. Diweddariad CVL

Diweddarwyd y Bwrdd ar gyflawniadau allweddol rhaglen trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd gan gynnwys y sefyllfa yn erbyn y gyllideb a chyflawni'r cerrig milltir. Nid oedd unrhyw faterion diogelwch sylweddol i'w hadrodd. Hysbyswyd y Bwrdd bod angen cyflawni cannoedd o bethau bob mis a arweiniodd at gyflawni carreg filltir benodol a bod llif gwaith wedi'i ddatblygu i graffu ar y llwybr critigol a darparu rhywfaint o hyder wrth gyflawni'r dyddiadau allweddol hynny. Y gobaith yw y bydd y ffrwd waith hon yn gallu adrodd i'r Bwrdd yn y dyfodol agos.

Nododd y Bwrdd yr Atodlen Contract Byw

9. Cofrestr risg

Nododd y Bwrdd y gofrestr risg gyfredol.

10. Comisiwn Dylunio Cymru

Ymunodd Jen Heal, Carole-Anne Davies (y ddwy o Gomisiwn Dylunio Cymru) a Matthew Gilbert â'r cyfarfod. Rhoddodd DCW y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am eu rôl a'u cylch gorchwyl a'r gwaith a wnaed gyda TrC, yn enwedig o ran Creu Lleoedd.

11. Y wybodaeth ddiweddaraf am y strategaeth trafnidiaeth integredig

Nododd y Bwrdd waith y Grŵp Llywio Trafnidiaeth Integredig; bod bwriad i ymgysylltu â swyddogion Llywodraeth Cymru ar y strategaeth yr wythnos nesaf; a bwriad y Grŵp Llywio Trafnidiaeth Integredig i ddatblygu adroddiadau priodol i fwrdd TrC, ynghyd â chynnwys cyfathrebu allanol fel y bo'n briodol erbyn mis Medi 2021.

12. Strategaeth pum mlynedd

Nododd y Bwrdd y dull arfaethedig o ddatblygu'r strategaeth gorfforaethol bum mlynedd.

13. Diweddariad ar fysiau

Ymunodd Lee Robinson â’r cyfarfod. Diweddarwyd y Bwrdd ar wahanol elfennau gwaith yr agenda bysiau. Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i alinio’n agos â'r gwaith Datblygu Rhwydwaith gyda llywodraeth leol ac sicrhau rhwydwaith integredig nad yw'n ddarniog. Darparwyd diweddariadau gan gynnwys risgiau, cyfleoedd a heriau ar raglenni Fflecsi, cardiau teithio rhatach a model gweithredu.

14. Y Gymraeg

Cymeradwyodd y Bwrdd argymhelliad i ddatblygu cynllun gweithredu pum mlynedd ar gyfer y Gymraeg yn seiliedig ar gydymffurfiaeth, gweledigaeth a chyfathrebu.

15. Cerrig milltir

Nododd y Bwrdd y tracwyr rhaglenni a chorfforaethol.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu gwaith paratoi a'u cyfraniad, a dymunodd seibiant braf dros yr haf iddynt.