Amserlen
Erbyn 2019
- Dechrau glanhau trwyadl y gorsafoedd ac ail-frandio.
Erbyn 2020
- Trenau wedi eu hadnewyddu yn dod a mwy o le ar wasanaethau’r Cymoedd.
- Gwasanaethau newydd rhwng Caer a Lime Street Lerpwl.
- Dileu’r hen drenau Pacer (Mae adborth gan deithwyr wedi dangos bod yr angen i wella capasiti a gwytnwch yn y fflyd yn flaenoriaeth allweddol. Mae TrC yn bwriadu cyflwyno hyn drwy gadw’r trenau Pacer am gyfnod byr yn ystod 2020)
Erbyn 2021
- Llysgenhadon Cymunedol wedi eu cyflogi ar draws y rhwydwaith i ddod a rheilffordd yn nes at gymunedau.
- Bydd app newydd i gwsmeriaid a gwefan yn cael ei lawnsio i gynorthwyo cwsmeriaid i i gynllunio teithiau a phrynu’r tocynnau iawn, a bydd prisiau yn gostwng ar draws y rhwydwaith.
Erbyn 2022
- Lansio tocynnau Talu-wrth-Fynd ar draws Cymru yn defnyddio côd bar a chardiau smart.
- WiFi diasiad rhad ac am ddim ar draws gorsafoedd a threnau.
- Y trenau newydd cyntaf a gyflwynwyd i'r rhwydwaith.
Erbyn 2023
- Bydd trenau newydd yn codi safonau ar wasanaethau Arfordir Gogledd Cymru, Caerdydd i Manceinion, Lein y Cambrian, Dyffryn Conwy a Cheltenham.
- Cerbydau Metro newydd ar wasanaethau Treherbert, Aberdâr a Merthyr, yn darparu 4 drên yr awr ac agor gorsaf newydd Heol Crwys.
- Gwasanaeth gwyb-loniant ar drenau yn cael ei lawnsio.
Erbyn 2024
- Trenau tri-modd newydd (trydan uwchben, batri a diesel) yn cychwyn ar wasanaeth Rhymni i Ynys y Barri, a gwasanaethau rhwng Penarth, Penybont a Chaerdydd.
- Llinell Bae Caerdydd yn cael ei ymestyn i Ganolfan Mileniwm Cymru gyda gorsaf newydd yn Loudoun Square.
- Gwasnaethau ar y Sul a gyda’r nos yn dod yn amlach ar yr holl rwydwaith gyda threnau ychwanegol ar y leins o’r Rhymni i Gaerdydd ac ymlaen i Fro Morgannwg.