A oes angen i fy mhlentyn wisgo gorchudd wyneb ar y bws ysgol neu goleg?

Nid oes rhaid iddynt wisgo gorchudd wyneb, ond rydym yn argymell eu bod yn gwisgo un ar fysiau ac wrth arosfannau bysiau.

 

A fydd eu tymheredd yn cael ei gymryd cyn teithio ar gludiant ysgol?

Na, ni fydd eu tymheredd yn cael ei gymryd cyn iddynt ddefnyddio cludiant ysgol. Os oes ganddyn nhw dymheredd uchel neu os ydyn nhw'n dangos unrhyw symptomau o'r coronafeirws, peidiwch â gadael iddyn nhw deithio.

 

Sut y gallaf fod yn siŵr bod gwasanaethau cludiant ysgol yn lân?

Mae cerbydau cludiant ysgol yn parhau i gael eu glanhau'n drylwyr yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae mannau a ddefnyddir yn helaeth fel byrddau, dolenni ac unrhyw le y gall teithwyr gyffwrdd yn rheolaidd yn cael eu glanhau'n rheolaidd ac yn drylwyr.

 

Oes rhaid i staff cludiant ysgol wisgo gorchudd wyneb?

Gall rhai fod yn gwisgo gorchudd wyneb ac eraill ddim. Y gweithredwr cludiant ysgol sydd i benderfynu a oes rhaid i’w aelodau staff wisgo gorchudd wyneb ac efallai y bydd rhai staff wedi’u heithrio. Mae hefyd yn dibynnu ar eu rôl o ddyletswyddau a faint o gysylltiad sydd ganddynt â chwsmeriaid, ac a ellir cynnal pellter corfforol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'ch cyngor lleol.

 

Plant yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus

Os ydych yn bwriadu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, byddwch cystal â bod yn deithiwr cyfrifol i helpu i’ch cadw chi, eich cyd-deithwyr, a staff trafnidiaeth mor ddiogel â phosibl.

Cynlluniwch ymlaen llaw, gwiriwch cyn i chi deithio, a pheidiwch â theithio os ydych chi'n teimlo'n sâl.

Mae ein gwasanaethau rheilffordd yn rhedeg ar amserlen lai ar hyn o bryd. Os ydych yn teithio ar y trên, defnyddiwch ein Gwiriwr Cynhwysedd.

 

A allaf ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd â'm plant i'r ysgol?

Gallwch, ond byddwch yn deithiwr cyfrifol, gynllunio ymlaen llaw a defnyddio ein Gwiriwr Cynhwysedd os ydych yn teithio ar y trên.

Ystyriwch gerdded neu feicio lle bo modd.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi a’ch plant yn dilyn y canllawiau ar deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i’n helpu ni i’ch cadw chi, eich cyd-deithwyr a’n staff mor ddiogel â phosibl.

 

Rwy’n poeni am anfon fy mhlentyn ar drafnidiaeth gyhoeddus oherwydd y risgiau o ddal Covid-19. Pa fesurau sydd ar waith i helpu i'w cadw'n ddiogel?

Mae’r coronafeirws wedi newid y ffordd rydyn ni i gyd yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac rydyn ni’n gweithio’n galed er mwyn i chi allu teithio mor ddiogel â phosib. Gallwch weld ein canllawiau Teithio’n Ddiogel yma.

Mae mesurau glanhau ychwanegol yn parhau i fod yn eu lle, ac mae mannau sy’n dod i gysylltiad agos â theithwyr a staff, megis dolenni, rheiliau gafael, peiriannau tocynnau a breichiau yn cael eu glanhau’n rheolaidd gan ddefnyddio cynhyrchion a argymhellir yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

A fydd angen i fy mhlentyn wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus?

Na, ni fydd yn rhaid iddynt wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond rydym yn dal i argymell eu bod yn gwisgo un os gallant.

 

A fydd yn rhaid i staff trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb?

Nid oes gofyniad cyfreithiol bellach i staff wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do nac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Rydym yn dal i argymell bod staff yn gwisgo gorchudd wyneb ar ein trenau ac yn adeiladau ein gorsafoedd.

 

Sut y gallaf fod yn siŵr bod gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn lân?

Mae cerbydau a threnau trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i gael eu glanhau'n drylwyr yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae mannau a ddefnyddir yn helaeth fel byrddau, dolenni ac unrhyw le y gall teithwyr gyffwrdd yn rheolaidd yn cael eu glanhau'n rheolaidd ac yn drylwyr, gan gynnwys y tu mewn i ardaloedd gorsafoedd.

Mae cadw staff rheng flaen mor ddiogel â phosibl hefyd yn un o’n prif flaenoriaethau, ac rydym yn gweithio gyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau bod staff a theithwyr yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl.

 

Pa gynhyrchion glanhau sy'n cael eu defnyddio ar drafnidiaeth gyhoeddus?

Mae mesurau glanhau ychwanegol yn parhau i fod yn eu lle, ac mae mannau sy’n dod i gysylltiad agos â theithwyr a staff, megis dolenni, rheiliau gafael, peiriannau tocynnau a breichiau yn cael eu glanhau’n rheolaidd gan ddefnyddio cynhyrchion a argymhellir yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.