Mae Caerdydd, prifddinas Cymru, yn boblogaidd fel cyrchfan i dwristiaid ac yn hawdd ei chyrraedd ar y trên. Mae'n ddinas gosmopolitan sy'n llawn atyniadau a gweithgareddau sy'n cadw diddordeb pawb. Mae Caerdydd hefyd yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer archwilio, a gyda dewis eang o lety, mae’n berffaith ar gyfer gwyliau.

Cynyddodd poblogaeth Caerdydd yn gyflym yn y 1800au diolch i’r diwydiant glo, dyfarnwyd statws dinas iddi ym 1905 ac erbyn 1956 fe’i cyhoeddwyd yn brifddinas Cymru. O ganlyniad, mae Caerdydd yn gartref i lawer o adeiladau pwysig gan gynnwys y Senedd, Canolfan y Mileniwm eiconig, a Stadiwm Principality lle mae’r tîm rygbi cenedlaethol yn ymarfer ac yn chwarae.

Nid oes angen torri’r banc i fwynhau eich hun yng Nghaerdydd gan fod nifer o bethau hwyliog i'w gwneud sy'n rhad ac am ddim ac yn eich galluogi i gael amser gwych.

Cardiff Bay

 

1. Darganfod Hanes yn Amgueddfa Genedlaethol Sain Ffagan

Mae Amgueddfa Sain Ffagan, sy’n rhan o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn cynnig agwedd unigryw at hanes, gan roi cyfle i ymwelwyr brofi bywyd y canrifoedd a fu. Yn cynnwys dros 40 o adeiladau o bob rhan o Gymru wedi’u hadleoli a’u hailosod, mae’n ymestyn dros 100 erw anferth ar dir Castell Sain Ffagan.

Mae Castell Sain Ffagan, maenordy Elisabethaidd rhestredig Gradd I, yn dyddio o ddiwedd y 1500au ac mae wedi gweld llawer o newidiadau dros y blynyddoedd, gan gynnwys bod yn gartref i Iarll Plymouth, yr Arglwydd Windsor ac yn ysbyty rhyfel i filwyr clwyfedig gyda’r neuadd wledda yn cael ei llenwi â 40 gwely. Mae hefyd yn gartref i’r amgueddfa a enwir gan gylchgrawn Which? fel hoff amgueddfa’r DU.

Mae’r adeiladau yn dangos nid yn unig bensaernïaeth Cymru ond hefyd yn rhoi cipolwg manwl ar fywydau cymdeithasol eu trigolion. Mae’r amgueddfa’n cynnwys capel, ysgoldy, cwt mochyn a thanws, ynghyd ag arddangosfeydd yn dangos crefftau traddodiadol fel ffarier, gwneud crochenwaith a chlocsiau. Ochr yn ochr â’r amgueddfa mae fferm weithredol fechan sy’n ymroi i warchod bridiau da byw traddodiadol Cymreig, a dwy felin ddŵr, y naill ar gyfer gwlân a’r llall ar gyfer grawn. Mae’r cynnyrch o’r mentrau hyn ar gael yn y siop ar y safle, a gallwch fwynhau prydau wedi’u gwneud â’r cynhwysion cartref hyn yn y caffi. 

Gyda mynediad am ddim, mae cymaint i’w weld a’i brofi yn Amgueddfa Sain Ffagan - byddwch yn dod yn ôl am fwy o hyd.

 

2. Archwiliwch Fae Caerdydd

Mae datblygiad glannau mwyaf Ewrop, Bae Caerdydd, yn bodoli diolch i’r morglawdd sydd wedi creu llyn dŵr croyw enfawr. Mae adeiladau anghyfannedd y dociau o amgylch y llyn wedi'u trawsnewid i bron i wyth milltir o adeiladau newydd sbon sy'n cartrefu cymuned amlddiwylliannol.

Yn gartref i nifer o atyniadau, mae Bae Caerdydd ei hun yn rhad ac am ddim i’w archwilio, ac mae llawer yn digwydd bob amser. Gyda marchnad reolaidd yn gwerthu crefftau a gynhyrchir yn lleol a thrysorau eraill, canolfannau siopa gyda'r holl enwau mawr adnabyddus, orielau celf, a bwytai, mae'r Bae yn lle perffaith i dreulio sawl awr ar y tro.

 

3. Mwynhewch Ddogn o Ddiwylliant yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd

Wedi’i lleoli ym Mae Caerdydd, roedd Canolfan Gelfyddydau eiconig yr Eglwys Norwyaidd yn wreiddiol yn ganolfan addoli ar gyfer morwyr Llychlyn a’u cymuned yng Nghaerdydd. Yr oedd Caerdydd, ynghyd a Lerpwl a Llundain, yn un o brif ganolfannau llynges Norwy, a daeth yr Eglwys Fach Wen, fel y'i gelwid, yn fan cyfarfod i'r morwyr hyn.

Ganed yr awdur plant enwog Roald Dahl i rieni o Norwy yng Nghaerdydd a chafodd ef a’i chwiorydd eu bedyddio yn yr eglwys. Bu Dahl yn ymwneud â'r eglwys ers hynny, gan gynnwys codi arian, a arweiniodd at iddo ddod yn llywydd cyntaf Ymddiriedolaeth Cadwraeth yr Eglwys Norwyaidd.

Heddiw, yr eglwys yw canolbwynt diwylliannol Bae Caerdydd, gydag orielau ac arddangosfeydd yn rhoi sylw i artistiaid lleol mewn amrywiaeth eang o gyfryngau. Gan gadw ei chysylltiadau agos â Dahl, mae dathliad blynyddol o’i waith, ac yn 2016, cafodd canmlwyddiant ei eni ei gydnabod gan nifer o ddigwyddiadau ledled Caerdydd, dan arweiniad yr Eglwys Norwyaidd.

Nid yw cael hwyl yng Nghaerdydd yn dibynnu ar faint o arian sydd gennych chi, mae yna ddigonedd o atyniadau sydd am ddim i bawb eu mwynhau.

 

Y ffordd hawsaf o deithio o amgylch y ddinas

Ydych chi eisiau crwydro’r ddinas ar ddwy olwyn? Defnyddiwch nextbike i ddod o hyd i feiciau i'w llogi yn eich ardal chi. Cliciwch eicon ar y map isod i ddod o hyd i’r beic agosaf sydd ar gael.