Mae Llandudno, y dref glan môr fwyaf yng Nghymru, yn croesawu bron i ddeg miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae aneddiadau wedi bodoli yma ers Oes y Cerrig. Roedd y pentir calchfaen, a adwaenir fel y Gogarth, yn darparu gwarchodaeth naturiol rhag y moroedd garw. Mae Llandudno yn gyrchfan berffaith ar gyfer gwyliau i’r teulu, rhywfaint o orffwys ac ymlacio, neu fel man cychwyn i archwilio gogledd Cymru.

 

Mwyngloddiau'r Gogarth

Gan ddyddio’n ôl i’r Oes Efydd 4000 o flynyddoedd yn ôl, Mwyngloddiau’r Gogarth yw un o’r darganfyddiadau archaeolegol pwysicaf yn y cyfnod diweddar. Gan ddangos i ni sut roedd pobl yn byw ac yn gweithio dros 2000 o flynyddoedd cyn i’r Rhufeiniaid oresgyn Prydain, credir mai’r mwyngloddiau hyn yw’r mwyaf a ddarganfuwyd erioed. Amcangyfrifir bod tua 1,760 tunnell o gopr wedi cael eu cloddio o siafftiau o dan y Gogarth.

Gellir gweld y mwyngloddiau ar deithiau hunan-dywys. Uwchlaw’r ddaear, gallwch wylio sut cafodd y mwyn copr ei fwyndoddi i wahanu’r copr oddi wrth y graig, mynd ar daith o gwmpas y mwynglawdd agored a gweld sut roedd y mwynwyr a’u teuluoedd yn byw. Dyma gipolwg hynod ddiddorol ar fywydau cymdeithasol a gwaith ein cyndeidiau.  

 

Pier Llandudno

Mae Pier Llandudno yn ffordd wych o dreulio prynhawn neu ddau, ac mae’n cynnig profiad glan môr hanfodol. Gan ymestyn am 2,295 troedfedd, dyma’r pier hiraf yng Nghymru. Cafodd statws rhestredig Gradd II ac enillodd wobr fawreddog Pier y Flwyddyn yn 2005. 

Gyda golygfeydd godidog dros Fôr Iwerddon a’r mewndir ar hyd arfordir hyfryd gogledd Cymru, mae’r pier yn gartref i amrywiaeth o weithgareddau ac atyniadau hwyliog. Mae siopau sy’n llawn steil, arcedau lliwgar, reidiau ffair a darllenwyr ffortiwn traddodiadol yn llenwi’r pier.

Un o’r uchafbwyntiau yw’r olwyn Ferris anferth. Wedi ei ddylunio a’i gynhyrchu gan Lamborghini am gost o £1 miliwn, mae’r olwyn fawr fodern hon (a elwir yn ‘Llandudno Eye’) yn cyrraedd uchder o 69 troedfedd (21 metr) ac mae’n darparu golygfeydd gwych a phellgyrhaeddol ar draws gogledd Cymru. Mae’r pier ychydig llai na milltir o orsaf drenau Llandudno.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

A post shared by Eunice (@eunicetyf)

 

Amgueddfa’r Home Front

Mae Amgueddfa Home Front Llandudno yn cynnig llwybr i lawr lôn atgofion i Brydain y 1940au. Gallwch brofi ochr hapus a brawychus bywyd fel dinesydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’r amgueddfa unigryw hon yn dod â’r golygfeydd, y synau a’r arogleuon yn fyw, gan eich trochi yn y chwe blynedd a ffurfiodd y wlad a’i phobl.

Masgiau nwy, dogni, Palu i Ennill a chadw’r tanau yn llosgi gartref - mae’r rhain yn atgofion byw i lawer ac yn cynnig ymdeimlad o hiraeth a chyfle i hel atgofion.

 

Canolfan Chwaraeon Eira Llandudno

Mae eirafyrddio a sgïo ar gael yng Nghanolfan Chwaraeon Eira Llandudno. Mae yna hefyd diwb eira gwynt a’r trywydd Cresta 750 metr, y trac tobogan hiraf yng Nghymru. Os yw’n well gennych chi weithgaredd llai heriol, beth am roi cynnig ar y mini golff Alpine Adventure? Mae’n cynnwys naw twll mewn amgylchedd Alpaidd.

  • Llethr artiffisial sgïo ac eirafyrddio drwy gydol y flwyddyn
  • Diwrnod cyffrous i’ch plant ei gofio
  • Hwyl i’r teulu cyfan

 

Llwybr Arfordir Cymru

Yn croesi’r Traeth Gorllewinol a Phen y Gogarth, Ardal Cadwraeth Arbennig a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mae rhan Llandudno o Lwybr Arfordir Cymru yn boblogaidd gyda cherddwyr.

Er y gallai ei hyd llawn o 870 milltir o gwmpas arfordir Cymru ymddangos ychydig yn frawychus, gellir torri’r llwybr i lawr yn ddarnau hawdd ymdopi â nhw. Mae’r rhan sy’n dilyn arfordir gogledd Cymru yn mynd â cherddwyr drwy Lanfairfechan a Llandrillo-yn-Rhos, gan roi digon o gyfleoedd i stopio, cael seibiant a mwynhau hufen iâ neu ddau.

Bydd ymwelwyr yn dychwelyd i Landudno flwyddyn ar ôl blwyddyn. Does dim rhyfedd, gyda chynifer o atyniadau gwych, traethau gwych, gweithgareddau dŵr a phobl leol gyfeillgar.

 

Dilynwch y Gwningen Wen

Pan fyddwch chi yn Llandudno, fe welwch chi hefyd lawer o gymeriadau Alys yng Ngwlad Hud yma ac acw. Mae map Llwybr Alys ar gael gan Croeso Conwy, neu gallwch ddilyn olion traed efydd y Gwningen Wen o gwmpas y dref.