Mae’r Borth yn bentref hynaws ar arfordir gorllewinol Cymru ger Aberystwyth. Gydag amrywiaeth o atyniadau sy’n addas i deuluoedd, lleoedd cyfforddus a fforddiadwy i aros ynddynt a phobl leol gynnes, groesawgar, mae’n cynnig y gyrchfan wyliau berffaith. Y Borth yw’r lle delfrydol i grwydro’r ardal o amgylch Aberystwyth.

Borth

 

1. Ewch yn Wyllt yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas

Fel rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, sy’n 2000 erw, mae cymaint i’w archwilio ar draws y warchodfa fel y gallwch chi ymgolli dros ddiwrnod cyfan yn hawdd. Mae’r rhanbarth yn cynnwys tri phrif gynefin – Twyni Ynyslas, gwastadeddau llaid Aber Afon Dyfi a’r mawnogydd yng Nghors Fochno. Daethant yn Warchodfa Natur ddynodedig yn 1969.

Twyni Tywod Ynyslas yw rhai o dwyni mwyaf Cymru ac maent yn cynyddu mewn maint bob blwyddyn diolch i’r gwyntoedd cryfion sy’n chwythu ar eu traws, a’r môr sy’n danfon tywod ffres ar bob penllanw.
Yn darparu’r cynefin perffaith ar gyfer tegeirianau prin, llysiau’r afu a ffyngau, yn yr haf mae’r twyni tywod yn gartref i garped cyfoethog a llachar o flodau gwyllt. Yn y clystyrau moresg mae clochdariaid y cerrig, llinosiaid a’r ehedydd na welir bron byth ond a glywir yn aml, yn cuddio. Os ydych chi’n lwcus iawn, gallwch hefyd weld madfallod bywesgorol a madfallod y tywod, llygod pengrwn a ffwlbartiaid.

Ar y traeth, mae olion coedwig danddwr i'w gweld ar lanw isel, yn codi'n iasol o'r tywod gwlyb, gydag adar hirgoes yn hela am fwyd rhwng y boncyffion. Mae’r aber ei hun yn gartref i hwyaden yr eithin, pibydd y mawn a phibydd y tywod, tra allan ar y môr, gwelir dolffiniaid a llamhidyddion yn aml yn chwarae yn y tonnau. Mae gweilch y pysgod yn ymwelwyr cyson, sy'n dangos bod gan yr aber gyflenwad da o bysgod i ddarparu bwyd. Mae dyfrgwn, hefyd, yn hela am eu prydau bwyd yn y dyfroedd bas.

Mae mawnogydd Cors Fochno yn dir hela perffaith i adar ysglyfaethus, fel barcutiaid coch, boda tinwyn a hebogiaid, lle mae ysglyfaeth sy'n cael ei aflonyddu gan ferlod Cymreig gwyllt a cheirw llwyd yn gwneud pryd blasus. Mae’r telor Dartford prin, yr eos a’r troellwr mawr swil i’w gweld yma hefyd, a’r mawnogydd yw’r unig le yng Nghymru a Lloegr i weld gwydd dalcenwyn yr Ynys Las.

Gyda nifer o lwybrau ag arwyddbyst ar draws y warchodfa natur, dyma’r lleoliad delfrydol i ddianc rhag y cyfan - peidiwch ag anghofio eich ysbienddrych.

 

2. Mwynhewch Ddiwrnod ar Draeth y Borth

Yn un o draethau mwyaf poblogaidd Cymru, mae gan Draeth y Borth dair milltir hir o dywod euraidd meddal ac mae’n cynnig dyfroedd bas sy’n addas i blant. Yn berffaith ar gyfer nofwyr a  hwylfyrddwyr, mae'r traeth wedi ennill Baner Las am ddiogelwch, dŵr glân ac addysg amgylcheddol gyhoeddus. Mae yna hefyd wasanaeth achubwr bywyd tymhorol, sy'n caniatáu i rieni ymlacio ychydig tra bo’r plant yn chwarae.

Unwaith y bydd y cestyll tywod wedi’u hadeiladu, a’r nofio wedi dod i ben, mae’r traeth yn agos at gaffis a bwytai sy’n cynnig dewis eang o opsiynau prydau bwyd, a chyfle i gael gwared o’r tywod cyn yr antur nesaf.

 

3. Dilynwch Lwybr Trysor Dirgel Aberystwyth

Gan gynnig cyfle i ymwelwyr lawrlwytho eu llwybr trysor eu hunain ar ffurf PDF, mae Llwybr Trysor Dirgel Aberystwyth yn ffordd berffaith o gael hwyl a dysgu am yr ardal. Gan ei bod yn daith hunan-dywys, rydych chi'n symud ar eich cyflymder eich hun, sy'n golygu os ydych chi am oedi a mynd 'oddi ar y piste', mae’n berffaith bosib. Mae hyn yn agor cyfoeth o gyfleoedd ar gyfer anturiaethau personol, a hyd yn oed y dewis i ailadrodd y rhai rydych chi eisoes wedi'u cwblhau, ond gyda llwybrau gwahanol.

Yn gwneud pethau ychydig yn anoddach - llwybr trysor ydyw, wedi'r cyfan - mae'r posau sydd angen eu datrys. Mae’r codau a’r cliwiau wedi’u cuddio o amgylch Aberystwyth ar dirnodau, arwyddbyst a cherfluniau, a gallai gweithio fel tîm helpu i’w datrys. Dilynwch y llwybr o amgylch y dref, drwy lwybrau troellog a phyrth bwaog, i fyny grisiau ac i lawr bryniau, ar lwybr cylchol sy’n cynnwys atyniadau gorau Aberystwyth.

Os ydych chi’n sownd go iawn fodd bynnag, mae yna wasanaeth testun ffôn symudol sy'n cynnig awgrymiadau a chliwiau, ac mae hyn yn sicrhau y gellir datrys pob trywydd - ond peidiwch â dweud wrth eich cyd-aelodau.