Mae Caerffili yn gartref i’r caws gwyn enwog, ac mae’n enwog mewn sawl ffordd arall hefyd. Dyma fan geni’r diweddar Tommy Cooper, y consuriwr a’r digrifwr poblogaidd o Gymru. Y castell mawreddog oedd y prif leoliad ffilmio ar gyfer drama’r BBC, Merlin, ac ymddangosodd hefyd mewn dwy bennod o Dr Who.

Gyda mynediad rhwydd ar y rheilffordd, a heb fod ymhell o brifddinas Cymru, Caerdydd, mae’n werth ymweld â Chaerffili, boed hynny am y diwrnod, neu am benwythnos i ffwrdd.

Caerphilly

 

1. Crwydro Castell Caerffili

Mae Castell Caerffili, sy’n anferth ac urddasol, yn sefyll ar safle anheddiad Rhufeinig, yn cynnwys caer a barics pwysig. Fe’i hadeiladwyd yn y 1200au, ac ystyrir bod ganddo “yr amddiffynfeydd dŵr mwyaf cymhleth ym Mhrydain gyfan”, ac mae’r safle’n ymestyn dros dros 30 erw, sy’n golygu mai dyma’r castell mwyaf ond un yn y DU, ar ôl Windsor.

Mae gan y castell waliau llwyd enfawr, ac mae porthdai a thyrau arswydus yn dod ag ymdeimlad o dawelwch a pharchedig ofn i’r olygfa. Mae un tŵr yn gwyro mwy na Thŵr Pisa, diolch i Ryfel Cartref Lloegr. O amgylch y castell mae ardaloedd helaeth o lynnoedd artiffisial, y gellid dadlau eu bod yn amddiffyniad mwy effeithiol na’r ffosydd traddodiadol.

Os ydych chi’n ymweld â’r castell, cewch brofi hanes byw a manteisio ar y cyfle i archwilio pedwar math o beiriant gwarchae, wedi’u hadfer ac yn barod i’w tanio. Neu beth am ddysgu am ymwanu a chynnal twrnamaint?

 

2. Profi hanes byw yn Llancaiach Fawr

Mae Maenordy Llancaiach Fawr ger tref Nelson sydd ond taith bws fer o Gaerffili. Mae’n rhoi cipolwg difyr iawn i chi ar fywyd yn y canol oesoedd yng Nghymru. Bu pobl ar y safle ers dros 4,000 o flynyddoedd, ac mae’r tŷ ei hun yn dyddio’n ôl o leiaf i’r unfed ganrif ar bymtheg.

O fewn y waliau 4 troedfedd (1.2 metr) o drwch, mae’r adeilad yn cynnwys llawer o gliwiau ynghylch y cyfnod cythryblus y bu’n dyst iddo. Mae Llancaiach Fawr yn hen faenordy hyfryd, gyda thywyswyr mewn gwisgoedd cyfnod yn dod â hanes yn yr 1600au yn fyw, gyda thanau’n clecian yn y gratiau ac ystafelloedd yn cael eu goleuo gan ganhwyllau. Y tu allan, mae gardd gyfnod hardd y gofelir amdani’n ofalus.

 

3. Ymlacio yn Coffi Vista

Gyda golygfeydd syfrdanol o’r castell, Coffi Vista yw’r lle gorau yng Nghaerffili i ymlacio a gwylio’r byd yn mynd heibio. Y cyfuniad delfrydol o goffi artisan a phobi cartref blasus, cymerwch fwrdd ar y balconi a dewis o’r fwydlen helaeth o ddanteithion melys a sawrus.

Mae cyfle hefyd i brynu caws traddodiadol Caerffili sy’n tynnu dŵr o’ch dannedd. Yn ddelfrydol ar gyfer Caws Pob Cymreig, cafodd y caws briwsionllyd cyfoethog hwn ei wneud yn wreiddiol ar gyfer glowyr a oedd yn gweithio’n galed, ond mae bellach i’w weld ar y bwydlenni gorau yn y byd.

  • Mwynhewch olygfeydd godidog o Gastell Caerffili
  • Dewiswch o fwydlen flasus sy’n defnyddio cynnyrch lleol
  • Ewch i wefan Coffi Vista

 

4. Lôn Goed Goed Cwmcarn

Mae Lôn Goed Cwmcarn yn cynnig rhywbeth i’r teulu cyfan ac nid yw ond taith fer o Gaerffili. Rhowch gynnig ar y llwybrau beicio mynydd, gweithgaredd  llawn adrenalin, neu ymlacio gyda thaith gerdded hamddenol a lluniaeth yng nghaffi Ravens. Mae amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau ar gyfer y teulu cyfan, gan gynnwys llwybr antur i blant, pysgota, beicio mynydd a llwybrau cerdded i bob gallu. 

  • I’r teulu cyfan
  • Digwyddiadau i blant ac oedolion
  • Golygfeydd hardd

 

Ar ôl i chi weld popeth sydd gan Gaerffili i’w gynnig, ewch ar daith trên ugain munud i Gaerdydd, prifddinas Cymru. Gan redeg bob 15 munud y rhan fwyaf o ddiwrnodau, ein trenau Caerffili i Gaerdydd Canolog yw’r ffordd ddelfrydol o ddod â’ch gwyliau penwythnos i ben.