Yn boblogaidd fel cyrchfan wyliau, mae tref farchnad Conwy ar arfordir gogleddol Cymru. Tyfodd y dref o amgylch castell Edward I, a adeiladwyd fel rhan o’i goncwest o Gymru ym 1283, ac mae ganddi lawer o adeiladau canoloesol sydd wedi’u cadw mewn cyflwr da o fewn muriau’r dref.

Mae gan Gonwy wasanaeth rheilffordd rheolaidd, ac ynghyd â thref gyfagos Llandudno, mae'n cynnig nifer o atyniadau at ddant pawb. Felly os ydych chi’n chwilio am ddiwrnod allan i’r teulu, wythnos i ffwrdd neu seibiant i chi’ch hun yn unig, anelwch am Gonwy ac ymlaciwch.

Conwy

 

1. Mwynhewch Wylio Natur yng Ngwarchodfa Natur Conwy yr RSPB

Yn ymestyn dros 114 erw ar ochr ddwyreiniol Aber Afon Conwy, mae Gwarchodfa Natur yr RSPB yn denu gwylwyr adar a selogion yr awyr agored o bell ac agos. Wedi’i hagor i’r cyhoedd yng ngwanwyn 1995, mae’r warchodfa’n gwarchod cymysgedd o gynefinoedd, gan gynnwys morfa heli a fflatiau llaid, gwelyau cyrs a glaswelltir, ac mae ganddi sawl pwll mawr sy’n berffaith ar gyfer adar dŵr. Mae cuddfannau sydd wedi'u lleoli'n ofalus yn galluogi'r ymwelwyr niferus i wylio'r bywyd gwyllt yn ymddwyn yn naturiol heb darfu arno.

Mae mwy na 220 o rywogaethau adar wedi’u gweld un ai’n pasio drwy’r warchodfa neu’n gwneud eu cartrefi ynddi, gan gynnwys y gornchwiglen, cwtiaid ac ehedyddion, tra bo’r fflatiau llaid yn annog rhegennod dŵr, pibyddion lludlwyd a rhostogion. Mae'r rhestr o famaliaid yn cynnwys gwencïod, carlymod a welwyd yn hela'r cwningod sy'n pori'r gwair, a dyfrgwn yn pysgota am eu cinio. Mae gweision y neidr yn llenwi'r awyr ac mae dros 20 o rywogaethau o bili-pala yn helpu i beillio'r amrywiaeth eang o flodau.

Mae merlod mynydd Cymreig yn pori hanner ddeheuol y warchodfa, gan sicrhau nad yw mieri, cyrs a brwyn yn cymryd drosodd, ac mae hyn yn annog tegeirianau’r wenynen prin i dyfu, sydd yn eu tro yn darparu bwyd i lindys llwglyd, tra bod tail y merlod yn wych ar gyfer chwilod a phryfed sy'n bwydo'r adar - cadwraeth gydweithredol ar ei orau.

Yn y gaeaf, mae’r machlud cynnar yn cael ei lywodraethu gan yr olygfa a’r sŵn syfrdanol wrth i filoedd o ddrudwyod ymgynnull, gan hedfan mewn ysgubiadau enfawr ar draws yr awyr cyn clwydo yn y gwelyau cyrs. Dyma un o'r golygfeydd mwyaf ysblennydd a gynigir gan natur.

Gyda chymaint i'w fwynhau yn RSPB Conwy, dylai hyn fod yn uchel ar eich rhestr o bethau i'w gwneud.

 

2. Archwiliwch Hanes Castell Conwy

Yn cael ei ystyried gan lawer fel un o’r caerau canoloesol gorau yn Ewrop gyfan, mae Castell Conwy yn denu ymwelwyr o bedwar ban byd. Wedi'i adeiladu ym 1283 gan y Brenin Edward I, mae wedi chwarae rhan fawr mewn llawer o frwydrau a gwarchaeau. Ym 1399, fe wnaeth hyd yn oed weithredu fel tŷ diogel i Richard II.

Roedd y tu fewn i’r castell yn wyn yn wreiddiol – roedd hi’n anarferol i gastell o'r oes hon gael ei rendro â chalch ac ychwanegodd at fawredd Conwy. Heddiw, gall ymwelwyr grwydro Siambr Fawr y Brenin, gan ddychmygu sut oedd bywyd i’w weision yn gorfod sgrialu drwy’r llwybrau cudd rhwng yr ystafelloedd.

Mae'r waliau amddiffynnol sy'n amgylchynu'r dref yn dal i sefyll, ac mae eu hyd cyfan o 1,400 llath (1.3km) yn parhau'n ddi-dor. Beth am ddringo grisiau troellog y tŵr a cherdded y rhagfuriau o amgylch y dref? Edrychwch i lawr a gallwch weld harbwr Conwy a strydoedd cul troellog, ac yn y pellter gallwch weld mynyddoedd godidog Eryri.

Gydag amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau hwyliog, gan gynnwys diwrnod môr-ladron a siop anrhegion lawn, mae ymweliad â Chastell Conwy yn cadw pawb yn hapus.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

A post shared by Peter Wilson (@peterwilson7)

 

3. Plas Mawr

Yn dyddio o’r 1500au, mae’r tŷ tref o oes Elisabeth, Plas Mawr i’w ganfod nid nepell o’r Stryd Fawr. Adeiladwyd Plas Mawr gan y bonheddwr a thirfeddiannwr lleol Robert Wynn. Am y 150 mlynedd nesaf bu’r tŷ yn gartref teuluol, cyn mynd i ddwylo’r teulu Mostyn, gan ddod yn llys, ysgol, ac yn olaf, yn bencadlys y Royal Cambrian Academy of Art.

Mae Plas Mawr bellach yn atyniad twristiaid a reolir gan Cadw ac mae wedi cael ei adfer yn helaeth. Gosodwyd dodrefn gwreiddiol ac wedi’i atgynhyrchu yn gymysg, gan gynnwys croglenni.  Enillodd y prosiect Wobr Cadwraeth Adeiladau Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, ac mae ganddo bellach statws rhestredig Gradd I. Mae’r gerddi, hefyd, wedi’u hadfer i’w hen ogoniant fel yr oeddynt yng nghyfnod y Dadeni, a bydd mynd am dro o’u cwmpas yn eich ymlacio a’ch adfywio yr un pryd.

Gyda theithiau hunan-dywys, mynediad i’r anabl a chaffi a siop anrhegion hyfryd, mae ymweld â’r tŷ ysblennydd hwn yn bleser pur.

  • Y plasty tref Elisabethaidd gorau sydd ar ôl ym Mhrydain
  • Mynediad o £5.80
  • Gwefan Plas Mawr