
Telerau ac Amodau
Telerau ac Amodau ar Gyfer Deiliaid Cardiau
Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am ddarparu cardiau teithio rhatach i unigolion sy'n gymwys i'w derbyn. Mae'r ffordd y darperir y cardiau hyn yn newid.
Tan fis Medi 2019, mae pob awdurdod lleol yn gyfrifol am brosesu ceisiadau am Gardiau Teithio Rhatach. Pan fyddwch yn gwneud cais, caiff eich gwybodaeth ei rhoi mewn cronfa ddata, a weinyddir yn genedlaethol gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.
O fis Medi ymlaen, bydd y gwaith o weinyddu Cardiau Teithio Rhatach hefyd yn cael ei wneud ar lefel Cymru gyfan gan Trafnidiaeth Cymru, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac sy'n gyfrifol am faterion trafnidiaeth yng Nghymru. Bydd system genedlaethol newydd yn caniatáu i geisiadau gael eu gwneud ar-lein.
Mae gan eich cyngor lleol, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru gyfrifoldebau i sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio'n briodol ac yn cael ei chadw'n ddiogel. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi sut y byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch pan fyddwch yn gwneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach a phob tro y byddwch yn defnyddio eich cerdyn.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn parchu eich preifatrwydd ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu gwybodaeth amdanoch (Rydym yn galw hyn yn wybodaeth bersonol neu data personol). Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn eich hysbysu sut rydym yn gofalu am eich data personol pan fyddwch yn gwneud cais am gerdyn teithio rhatach a phan fyddwch yn defnyddio eich cerdyn teithio rhatach ac yn dweud wrthych am eich hawliau preifatrwydd a sut mae'r gyfraith yn eich diogelu.
Rydym wedi darparu gwybodaeth fanwl am:
Gall Trafnidiaeth Cymru ddiweddaru'r polisi hwn o bryd yn gyfnodol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes unrhyw newidiadau arwyddocaol sy'n effeithio arnoch. Mae'r polisi hwn yn weithredol o 1af June 2019.
Mae Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y data personol a gesglir ganddynt neu amdanoch. Yn yr hysbysiad hwn, mae'r termau "TrC ", "ni ", neu "ein " yn cyfeirio at Drafnidiaeth Cymru. Lle mae cyfrifoldebau gwahanol ar gyfer awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru, byddwn yn dweud wrthych.
Mae pob awdurdod lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru wedi penodi swyddog diogelu data (DPO), sef yr unigolyn sy'n gyfrifol am oruchwylio cwestiynau mewn perthynas â'r polisi preifatrwydd hwn, ym mhob sefydliad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi preifatrwydd hwn, gan gynnwys unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau cyfreithiol, cysylltwch â'r DPO TrC yn y lle cyntaf gan ddefnyddio'r manylion a nodir isod. Ceir manylion cyswllt y DPOs ar gyfer eich awdurdod lleol ac ar gyfer Llywodraeth Cymru ar eu gwefannau.
Cyfeiriad post: Swyddog Diogelu Data, Trafnidiaeth Cymru, Tŷ South Gate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW
E-bost: contact@tfw.gov.wales
Mae gennych hawl i gyflwyno cwyn unrhyw adeg i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef awdurdod goruchwylio’r DU mewn perthynas â materion diogelu data (www.ico.org.uk) Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi cyfle i ymdrin â’ch pryderon cyn i chi gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, felly a fyddech cystal â chysylltu â ni yn y lle cyntaf.
Os byddwch yn gwneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach, byddwn yn casglu, yn defnyddio, yn storio ac yn trosglwyddo’r data personol canlynol amdanoch:
Yn dibynnu ar pryd y byddwch yn gwneud cais, gall eich awdurdod lleol gasglu'r wybodaeth hon neu yn uniongyrchol drwy Trafnidiaeth Cymru.
Os byddwch yn gwneud cais am gerdyn teithio rhatach ar-lein drwy'r system newydd o 2019 Medi (ar wefan TrC), bydd TrC hefyd yn casglu gwybodaeth arall amdanoch. Cyfeiriwch at ein datganiad preifatrwydd yn https://tfw.gov.wales/cy/datganiad-preifatrwydd am fwy o fanylion.
Rydym hefyd yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu Data Cyfanredol fel data ystadegol neu ddemograffig at unrhyw ddiben, yn cynnwys cynllunio trafnidiaeth a chyllidebu. Gall Data Cyfanredol ddeillio o'ch data personol ond nid yw'n cael ei ystyried yn ddata personol yn ôl y gyfraith gan nad yw'r data hwn yn datgelu eich hunaniaeth yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol. Fodd bynnag, os byddwn yn cyfuno neu'n cysylltu Data Cyfanredol gyda'ch data personol fel y gall eich adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, rydym yn trin y data cyfunol fel data personol a gaiff eu defnyddio yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd hwn.
Rydym yn defnyddio dulliau gwahanol o gasglu data gennych ac amdanoch, yn cynnwys y canlynol:
Dim ond pan fydd y gyfraith yn caniatáu i ni y byddwn yn defnyddio'ch data personol. Yn fwyaf cyffredin, byddwn yn defnyddio'ch data personol o dan yr amgylchiadau canlynol:
Yn gyffredinol, nid ydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol, heblaw mewn perthynas ag anfon cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol atoch drwy e-bost neu neges destun. Mae gennych hawl i dynnu'n ôl gydsyniad i farchnata unrhyw bryd drwy gysylltu â ni.
Isod, rydym wedi nodi, ar ffurf tabl, ddisgrifiad o'r ffyrdd rydym yn bwriadu defnyddio eich data personol, a pha rai o'r seiliau cyfreithiol y dibynnwn arnynt i wneud hynny. Rydym hefyd wedi nodi beth yw ein buddiannau cyfreithlon lle y bo'n briodol.
Sylwch y gallwn brosesu eich data personol ar gyfer mwy nag un sail gyfreithlon yn dibynnu ar y diben penodol yr ydym yn defnyddio'ch data ar ei gyfer. Cysylltwch â ni os oes arnoch angen manylion am y sail gyfreithiol benodol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol lle mae mwy nag un sail wedi'i nodi yn y tabl isod.
Defnyddir y termau canlynol yn y tabl isod:
Gweithgaredd | Mathau o ddata | Sail gyfreithlon |
---|---|---|
Prosesu eich cais am Gerdyn Teithio Rhatach |
(a) Adnabod
|
Angenrheidiol ar gyfer cyflawni ein tasg gyhoeddus (i weinyddu'r cynllun cerdyn teithio rhatach ar ran yr awdurdodau trafnidiaeth) |
I anfon diweddariadau e-bost/negeseuon testun neu i gyfathrebu diweddariadau sy'n ymwneud â'ch cerdyn teithio rhatach neu gais dros y ffôn |
(a) Adnabod
|
(a) Angenrheidiol ar gyfer cyflawni ein tasg gyhoeddus (i weinyddu'r cynllun cerdyn teithio rhatach ar ran yr awdurdodau trafnidiaeth)
|
I gysylltu â chi am eich cais i ddatrys ymholiadau |
|
(a) Angenrheidiol ar gyfer cyflawni ein tasg gyhoeddus (i weinyddu'r cynllun cerdyn teithio rhatach ar ran yr awdurdodau trafnidiaeth)
|
Cysylltu â chi ynglŷn â’r defnydd a wneir o’ch Cerdyn Teithio Rhatach |
(a) Adnabod
|
Angenrheidiol ar gyfer cyflawni ein tasg gyhoeddus (i weinyddu'r cynllun cerdyn teithio rhatach ar ran yr awdurdodau trafnidiaeth)) |
Ad-dalu i weithredwyr am deithio rhatach a diogelu rhag twyll gweithredwyr |
(a) Rhif y cerdyn
|
(a) Angenrheidiol ar gyfer cyflawni ein tasg gyhoeddus (i weinyddu'r cynllun cerdyn teithio rhatach ar ran yr awdurdodau trafnidiaeth)
|
Gweinyddu'r Cynllun Teithio Rhatach, gan gynnwys dadansoddi'r defnydd ohono a'r newidiadau posibl i'r cynllun, a mentrau gwrth-dwylls |
|
(a) Angenrheidiol ar gyfer cyflawni ein tasg gyhoeddus (i weinyddu'r cynllun cerdyn teithio rhatach ar ran yr awdurdodau trafnidiaeth)
|
Cyfathrebu newidiadau i delerau ac amodau'r cynllun teithio rhatachs |
(a) Adnabod
|
Angenrheidiol ar gyfer cyflawni ein tasg gyhoeddus (i weinyddu'r cynllun cerdyn teithio rhatach ar ran yr awdurdodau trafnidiaeth)) |
Cadarnhau pwy ydych chi a chynnal gwiriadau i gadarnhau eich bod yn dal i fod yn gymwys i deithio’n rhatach |
(a) Adnabod
|
(a) Angenrheidiol ar gyfer cyflawni ein tasg gyhoeddus (i weinyddu'r cynllun cerdyn teithio rhatach ar ran yr awdurdodau trafnidiaeth)
|
I gynnig awgrymiadau ac argymhellion i chi am wasanaethau neu straeon newyddion a allai fod o ddiddordeb i chi, i wasanaethau bysiau a gwasanaethau ehangach TrC ym maes rheilffyrdd |
(a) Adnabod
|
Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddatblygu ein gwasanaethau |
Byddwn yn cael caniatâd pendant gennych eich bod yn ‘optio i mewn’ cyn y byddwn yn rhannu eich data personol gydag unrhyw gwmni y tu allan i Lywodraeth Leol at ddibenion marchnata.
Gallwch ofyn i ni neu drydydd partïon roi’r gorau i anfon negeseuon marchnata neu ddiweddariadau e-bost atoch unrhyw adeg trwy ddilyn y dolenni ‘optio allan’ ar unrhyw neges farchnata a anfonir atoch neu ar wefan TrC neu drwy anfon e-bost unrhyw adeg at contact@tfw.wales
Efallai y bydd yn rhaid i ni rannu eich data personol gyda'r partïon a nodir isod at y dibenion a nodir yn y tabl uchod:
Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob trydydd parti barchu diogelwch eich data personol a'i drin yn unol â'r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i'n darparwyr gwasanaeth trydydd parti ddefnyddio eich data personol at eu dibenion eu hunain a dim ond eu caniatáu i brosesu eich data personol at ddibenion penodedig ac yn unol â'n cyfarwyddiadau.
Mae rhai o’n trydydd partïon allanol wedi’u lleoli y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) felly, pan fyddant yn prosesu eich data personol, bydd hynny’n golygu trosglwyddo data y tu allan i’r EEA.
Os ydym yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i'r EEA, byddwn yn sicrhau bod yr un graddau o ddiogelwch yn cael eu rhoi i’r data drwy wneud yn siŵr bod o leiaf un o’r mesurau diogelwch canlynol yn cael ei roi ar waith:
Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith er mwyn atal eich data personol chi rhag cael eu colli, eu defnyddio, eu cyrchu, eu newid neu eu datgelu ar ddamwain mewn modd heb ei awdurdodi. Hefyd, rydym yn cyfyngu mynediad at eich data personol i'r cyflogwyr, yr asiantaethau, y contractwyr a'r trydydd partïon eraill hyn y mae angen iddynt eu gweld at ddibenion busnes. Dim ond yn unol â'n cyfarwyddiadau ni y byddant yn prosesu eich data personol, ac mae dyletswydd arnynt mewn cysylltiad â chyfrinachedd.
Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw achos amheus o dorri rheolau mewn perthynas â data personol ac fe fyddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reolydd perthnasol bod hyn wedi digwydd pan fo gofyn cyfreithiol arnom i wneud hynny.
Dim ond am yr amser sydd ei angen i gyflawni’r pwrpas y cafodd eu casglu ar ei gyfer y byddwn yn cadw eich data personol, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd.
I bennu beth ydy'r cyfnod priodol i gadw eich data personol, byddwn yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg bosibl o niwed o ganlyniad i ddatgelu neu ddefnyddio eich data personol heb awdurdod, y dibenion rydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer, ac a allem gyflawni'r dibenion hynny mewn ffyrdd eraill, yn ogystal â'r gofynion cyfreithiol perthnasol.
Gallwch ofyn i ni ddileu eich data mewn rhai amgylchiadau: gweler Gofyn am ddileu isod am fwy o wybodaeth.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn gwneud eich data personol yn ddienw (fel nad oes modd eu cysylltu â chi) at ddibenion ymchwil neu ystadegol, a gallwn ddefnyddio’r wybodaeth hon yn y modd hwn am gyfnod amhenodol heb roi gwybod i chi.
Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawliau o dan ddeddfau diogelu data mewn cysylltiad â’ch data personol.
Mae gennych hawl i wneud y canlynol:
Os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’r hawliau a nodir uchod, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Ni fydd rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad at eich data personol (nac i arfer unrhyw un o'ch hawliau eraill). Fodd bynnag, efallai y byddwn yn codi ffi resymol os ydy eich cais yn amlwg yn ddi-sail, yn ailadroddus neu’n ormodol. Fel arall, gallem wrthod cydymffurfio â'ch cais mewn amgylchiadau o'r fath.
Efallai y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych chi er mwyn ein helpu ni i gadarnhau eich manylion adnabod a sicrhau bod gennych chi hawl i gael mynediad at eich data personol (neu i arfer unrhyw un o'ch hawliau eraill). Mesur diogelwch ydy hwn er mwyn sicrhau na chaiff data personol eu datgelu i unrhyw un nad oes ganddo hawl i'w cael. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi i ofyn am fwy o wybodaeth mewn cysylltiad â'ch cais er mwyn i ni allu ymateb yn gynt.
Rydym yn gwneud ein gorau i ymateb i bob cais dilys cyn pen un mis. Weithiau, gall gymryd hirach na mis os ydy eich cais yn arbennig o gymhleth neu eich bod wedi gwneud mwy nag un cais. Yn yr achos hwnnw, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn rhoi diweddariadau i chi.