
Cwestiynau cyffredin
Ymunwch â ni ar Y Daith Drên Odidog.
Rydyn ni’n adeiladu 148 o drenau newydd, sy’n golygu hyd at 148 o gyfleoedd i ennill. Bydd yr enwau sy’n ennill yn ymddangos ar ochrau’r trenau am flynyddoedd i ddod
Bydd y trenau newydd yn cael eu henwi ar ôl cymeriadau chwedlonol, safleoedd hanesyddol, tirnodau ac enwau lleoedd lleol.
Rhaid i’r ceisiadau fod mor greadigol â phosibl, ond dylen nhw fod yn bersonol i chi. Beth am Ffordd Llan-wern fel enw trên gan mai dyna enw stryd eich ysgol anhygoel? Gwych! Neu efallai Castell Fflint oherwydd eich bod yn edmygu cynllun unigryw ei gaer? Gwych eto! Beth sy’n bwysig yw eich bod yn egluro pam fod yr enw’n arbennig. Yng Nghymru, byddwn wrth gwrs yn croesawu enwau sy’n dathlu’r Gymraeg.
Gofynnir i chi gyflwyno eglurhad creadigol pam eich bod wedi dewis yr enw. Gallwn dderbyn ceisiadau yn y categorïau canlynol:
Bydd yna ddau gam beirniadu: bydd panel rhanbarthol yn dewis yr enwau trenau gorau yn eu rhanbarth nhw, a bydd panel terfynol wedyn yn dewis ein henillwyr categori a bydd gwobrau yn cael eu rhoi i’w ffefrynnau.
Gallwch gymryd rhan yn y gystadleuaeth rhwng dydd Sul 21 Chwefror a dydd Gwener 9 Ebrill 2021.
Bydd yna ddau gam beirniadu: bydd panel rhanbarthol yn dewis yr enwau trenau gorau yn eu rhanbarth nhw, a bydd panel terfynol wedyn yn dewis ein henillwyr categori a bydd gwobrau yn cael eu rhoi i’w ffefrynnau.
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi mai ein panel beirniadu terfynol yw:
A bydd y Comisiynydd Plant a’r Comisiynydd Cydraddoldeb yn ymuno â nhw.
Bydd y paneli rhanbarthol yn cynnwys cynrychiolwyr o gynghorau lleol, grwpiau trafnidiaeth, sefydliadau creadigol, mudiadau’r trydydd sector a staff TrC. Byddan nhw’n beirniadu’r cynigion a dderbynnir yn eu rhanbarth ac yn enwi trenau a fydd yn gweithredu gerllaw.
Ochr yn ochr â chael enwi trên ar ran eu hysgol, bydd yr enillwyr yn derbyn pecyn creadigol i sbarduno eu huchelgeisiau peirianyddol ac yn cael diweddariadau rheolaidd am eu trên.
Bydd y panel beirniadu terfynol yn dewis enillwyr categorïau ar gyfer pob rhanbarth a chategori creadigol, a fydd yn cael trên enghreifftiol arbennig Hornby ar gyfer eu hysgol.