Rydym yn treulio hyd at dri mis cyn gêm yn cynllunio'r gwasanaeth trên a rheoli torfeydd.

Mae hyn yn cynnwys darparu cerbydau a gwasanaethau ychwanegol ar y llwybrau mwyaf poblogaidd sy'n mynd â phobl i'r lleoliadau hyn ac oddi yno. Rydym yn gwneud hyn i gyd gan ystyried cyfyngiadau'r fflyd sydd ar gael i ni.

Er enghraifft, mae’r effaith y mae 72,500 o bobl yn y stadiwm yn ei chael ar orsaf Caerdydd Canolog, o ystyried ei leoliad a manteision teithio ar reilffordd yn hytrach na’r ffordd, yn golygu y gall hyn arwain at nifer uwch o lawer o gwsmeriaid yn defnyddio'r orsaf ar ddiwrnod y digwyddiad.

Fel arwydd cyffredinol o boblogrwydd gwasanaethau, cyn digwyddiadau yng Nghaerdydd, gall tua 30,000 o gwsmeriaid gyrraedd yr orsaf cyn y digwyddiad, a bydd hyd at 40,000 o gwsmeriaid yn dychwelyd i'r orsaf i fynd adref. Yn ystod y dyddiau hynny, mae'r depo’n wag, gan fod pob trên sydd ar gael i ni ar waith, oni bai fod gwaith cynnal a chadw yn gwbl hanfodol.