Mae cyfathrebu â chwsmeriaid yn rhan allweddol o sut mae pethau’n gweithio ar ddiwrnod y digwyddiad.

Ar y diwrnod, mae gennym nifer fawr o staff ar gael i gynnig gwybodaeth uniongyrchol a chyhoeddwyr ychwanegol yn y gorsafoedd i sicrhau bod yr wybodaeth yn rheolaidd ac yn gyson. Rydym hyd yn oed yn gweithredu llif trydar penodol i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn fyw o'r orsaf.

Mae’r llif trydar yn cael ei reoli gan aelod o'n tîm digwyddiadau, sydd wedi'i leoli yn ein Canolfan Rheoli Torfeydd, a dyma'r ffynhonnell orau o wybodaeth fyw o bell ffordd ar ddiwrnod y digwyddiad os oes gennych fynediad i Twitter.

Cyn teithio, mae hefyd yn bwysig taro golwg ar ein gwefan, sydd â thudalen benodol ar gyfer pob digwyddiad.

Edrychwch yma i gael yr wybodaeth am y system giwio, manylion unrhyw wasanaethau trên ychwanegol, a chyngor defnyddiol arall fel pa mor hir y gall cwsmeriaid ddisgwyl ciwio, mynediad i bobl anabl a lleoliad toiledau cyhoeddus.