Y canllawiau presennol gan Lywodraeth Cymru yw aros gartref a gadael cartref dim ond os yw eich taith yn hanfodol.
Dim ond at ddibenion cyfyngedig y dylid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cynnwys:
• mynd i'r gwaith os na allwch weithio gartref.
• mynd i'r ysgol, y coleg neu ar gyfer addysg
• ar gyfer anghenion siopa neu feddygol hanfodol
• darparu gofal hanfodol
• dianc rhag risg o salwch neu anaf, megis i ddioddefwyr neu bobl sydd mewn perygl o gam-drin domestig
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Peidiwch â gadael cartref a theithio o gwbl os oes gennych unrhyw symptomau Coronafeirws.
Gallwch wirio canllawiau Llywodraeth Cymru yma.
Meddyliwch yn ofalus am:
• y teithiau a wnewch
• y bobl rydych chi'n cwrdd â nhw
• teithio i ardaloedd lle mae cyfraddau coronafeirws yn uchel
Os oes angen i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o hyd ar gyfer teithiau hanfodol, helpwch ni i gadw'r rhwydwaith mor ddiogel â phosibl drwy ddilyn ein canllawiau Teithio'n Saffach.
Gwisgwch rywbeth i guddio eich wyneb
Rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn gorsafoedd, ar lwyfannau, mewn ystafelloedd aros ac mewn meysydd parcio gorsafoedd trenaus oni bai eich bod wedi'ch eithrio, i helpu i atal coronafeirws rhag lledaenu i deithwyr eraill a staff. Mae gorchuddion wyneb yn orfodol lle gall ymbellhau corfforol fod yn anodd ei gyflawni megis ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Dewch â gorchudd wyneb gyda chi a'i roi ymlaen cyn:
- mynd i mewn i faes parcio gorsaf drenau
- mynd i mewn i orsaf
- mynd ar lwyfan
- defnyddio ystafell aros
- mynd ar eich bws neu'ch trên
Mae Llywodraeth Cymru’n argymell gwisgo gorchudd wyneb tair haen oherwydd gall fod yn anodd cadw pellter cymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Does dim rhaid i blant dan 11 oed, pobl sy'n cael anawsterau anadlu neu bobl sydd â salwch neu nam corfforol neu feddyliol neu anabledd wisgo gorchudd wyneb. Rhaid i blant dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb oni bai eu bod yn anabl neu’n dioddef o anawsterau anadlu.
Gallwch weld rhestr lawn Llywodraeth Cymru o eithriadau yma. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ein cynllun nodiadau eithrio personol newydd yma.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr yma.
Wedi'ch eithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb?
Os credwch eich bod wedi'ch eithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, gallwch wneud cais am nodyn eithrio wedi'i bersonoli yma.
Gwisgo gorchuddion wyneb ar ein trenau yn Lloegr
Mae gwisgo gorchudd wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr. Mae’n rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb ar ein gwasanaethau trenau yn Lloegr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Cadwch eich pellter
Arhoswch ar wahân i eraill lle bynnag y bo modd ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Gwisgwch gorchudd wyneb a cheisiwch:
• osgoi cyswllt corfforol
• wynebu oddi wrth bobl eraill
• cadwch yr amser a wariwch ger pobl eraill cyn gynted â phosibl
Helpwch ni drwy olchi’ch dwylo neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo’n rheolaidd
Rydyn ni’n glanhau mwy er mwn sicrhau bod eich teithiau hanfodol chi mor ddiogel â phosibl.
Helpwch ni:
- drwy olchi’ch dwylo’n drwyadl gyda sebon a dŵr am o leiaf 20 eiliad neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo’n rheolaidd.
- drwy ddod â’ch hylif diheintio dwylo eich hun os gallwch chi.
Eich cwestiynau
Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydyn ni’n ei wneud i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru mor ddiogel â phosibl.