Mae’r Metro yn system drafnidiaeth integredig newydd ledled Cymru a hon y byddwn yn ei ffafrio i deithio. Mae Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru yng nghamau cynnar y datblygiad. Mae’n un o dri chynllun a fydd yn helpu i:

  • hybu economïau lleol - canolbwyntir ar dwf fel rhanbarth, gyda diwydiant lleol, gwasanaethau a thwristiaeth yn chwarae rhan allweddol
  • cysylltu teithiau ar draws Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, gan integreiddio rhwydweithiau a chysylltedd yn well
  • darparu dewisiadau cyflymach, mwy hygyrch a dibynadwy o ran cymudo i’r gwaith a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus a chyrchfannau hamdden
  • lleihau effaith ein rhwydwaith trafnidiaeth ar yr amgylchedd
  • cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd a’n llesiant.

Mae Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth gan awdurdodau lleol Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig newydd. Bydd yn allweddol er mwyn helpu i gyflawni nodau ac amcanion strategaeth drafnidiaeth Cymru, ‘Llwybr Newydd’, ynghyd â chefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau strategol y Ddinas-Ranbarth.

 

  • Adeiladu Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru
    • Rydyn ni’n cynnal astudiaethau gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau i ddarparu gwell cysylltedd yn Ne-orllewin Cymru a’r potensial ar gyfer gwasanaethau cyflymach rhwng Gorllewin a De Cymru. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i newid y ffordd y darperir trafnidiaeth, gan roi hwb i’r economi leol a darparu gwell mynediad at gyfleoedd gwaith a hamdden.

      Mae hyn yn cynnwys:

      • Teithiau trên cyflymach i Abertawe, Caerfyrddin ac Aberdaugleddau; gwella cyflymder y llinellau ac edrych ar wahanol opsiynau o ran llwybrau
      • Gwasanaethau trên amlach ar draws y rhwydwaith
      • Cyflwyno gwasanaethau a llinellau newydd yn Ardal Bae Abertawe; darparu mwy o gysylltedd a chyfleoedd newydd ar gyfer teithio ar y rheilffyrdd
      • Gweithio gyda Llywodraeth leol a gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus i wella cyflymder a dibynadwyedd teithiau bws; gwella cyfleusterau aros i deithwyr, gwella lonydd bysiau a chyflwyno signalau traffig deallus i helpu i leihau amseroedd teithio
      • Treialu’r defnydd o fysiau hydrogen ym Mae Abertawe a Sir Benfro; lleihau’r effaith ar yr amgylchedd gyda dull mwy cynaliadwy o ymdrin â thrafnidiaeth gyhoeddus
  • Gwella Cysylltedd 
    • Rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i wneud y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn ddi-dor ac yn llai dryslyd i bawb.

      Mae hyn yn cynnwys: 

      • Integreiddio Amserlenni – bydd amserlenni bysiau a threnau yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn i chi allu dibynnu ar y bws i fynd â chi i’r orsaf drenau mewn da bryd
      • Teithio Llesol – bydd gorsafoedd rheilffordd a bysiau yn darparu ar gyfer cerddwyr a beicwyr er mwyn i chi allu elwa o lwybrau diogel a chyfleusterau da mewn gorsafoedd
      • Integreiddio tocynnau – bydd tocynnau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn llai cymhleth, gyda’r nod yn y pen draw o greu un platfform penodol ar gyfer tocynnau, a fydd yn cynnwys nifer o deithiau ar un tocyn, yn cynnwys teithio ar fysiau a threnau, ac yn gwarantu’r dewis gorau posibl i chi o ran tocynnau pan fyddwch chi’n teithio. 
  • Diweddariad Cynnydd 
    • Rydyn ni’n parhau i ganolbwyntio ar adfer ein hamserlen rheilffyrdd i lefelau cyn Covid. Bydd y gwasanaethau’n cynyddu i 100% erbyn mis Mai 2022. Rydyn ni’n gobeithio rhagori ar y lefelau gwasanaeth cyn Covid ym mis Rhagfyr 2022.

      Rydyn ni hefyd yn dechrau gweithio gyda Llywodraeth leol a gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus i ddeall pa rôl y gallai cerbydau cell tanwydd hydrogen ei chwarae o ran gwella cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus ac rydyn ni’n gwneud cynnydd da gyda bysiau trydan. Cyn bo hir, bydd llwybr bws T1 TrawsCymru rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn dechrau defnyddio bysiau trydan.

 

Gwaith sy’n cael ei ddatblygu

Rheilffyrdd

Bydd y Metro yn gwella’r rhwydwaith rheilffyrdd a’r gwasanaethau presennol drwy gynyddu amlder y gwasanaethau yn ôl ac ymlaen o’r prif wasanaethau a gorsafoedd lleol.

Rydyn ni’n datblygu amrywiaeth o orsafoedd a gwasanaethau rheilffyrdd newydd i alluogi mwy o fynediad ar draws y rhwydwaith. Rydyn ni’n disgwyl dod â chysylltiadau rheilffordd i gymunedau nad oes ganddynt fynediad at reilffordd ar hyn o bryd; gan agor cysylltiadau cynaliadwy newydd i gyflogaeth a gwasanaethau allweddol ar draws y rhanbarth.

Bydd cam cyntaf y gwasanaethau newydd yn nhref Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin, lle bydd gorsaf newydd yn cael ei hagor yn 2024, gyda gwelliannau uchelgeisiol pellach yn ardal Bae Abertawe yn y blynyddoedd canlynol.

 

Bysiau

Bydd gwelliannau sylweddol i fysiau dros y blynyddoedd nesaf.

Rydyn ni’n gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol i wella ansawdd y cerbydau a ddefnyddir er mwyn rhoi profiad mwy pleserus i gwsmeriaid a gwella ansawdd yr aer.

Byddwn hefyd yn gweithio gyda llywodraeth leol i ddiwygio’r prif lwybrau bysiau er mwyn sicrhau amseroedd teithio cyflymach a mwy dibynadwy, sy’n cysylltu â gwasanaethau rheilffyrdd a theithio llesol. Rydyn ni’n disgwyl canolbwyntio’r ymdrechion cynnar yn ardaloedd Bae Abertawe, Caerfyrddin a Dyfrffordd y Ddau Gleddau, ond bydd y gwelliannau’n ymestyn i ardaloedd ehangach dros y blynyddoedd nesaf.

 

Teithio llesol

Byddwn yn adeiladu ar waith awdurdodau lleol dros y blynyddoedd diwethaf i ddarparu gwell cysylltiadau ar gyfer cerdded a beicio yn ôl ac ymlaen o’n prif ganolfannau trafnidiaeth ar draws y rhanbarth.

Byddwn yn cefnogi cymunedau i wneud teithio llesol yn ffordd haws a mwy deniadol o symud o gwmpas ein trefi, ein dinasoedd a’n pentrefi. Bydd ein gwaith cynnar yn canolbwyntio ar wella ein gorsafoedd rheilffyrdd i sicrhau bod siwrneiau cerdded a beicio yn gallu cysylltu pobl â gorsafoedd trenau yn effeithiol.

 

Dyheadau ar gyfer y dyfodol

Rheilffyrdd

Bydd ein huchelgeisiau tymor hwy ar gyfer rheilffyrdd yn canolbwyntio ar ymestyn y rhwydwaith ymhellach i’n cymunedau gwledig; gan wella mynediad at swyddi a gwasanaethau ar gyfer rhai o’n trefi a’n pentrefi mwyaf anghysbell.

Byddwn hefyd yn ceisio trydaneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd er mwyn datgarboneiddio a gwella effaith amgylcheddol ein trenau yn Ne Orllewin Cymru.

 

Bysiau

Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol a gweithredwyr bysiau preifat i ddarparu rhwydwaith cydlynol o lwybrau ledled Cymru. Y rheswm am hynny yw ein bod eisiau sicrhau bod teithio ar fws yn ddull teithio deniadol ac effeithlon ar draws y rhanbarth.

Rydyn ni hefyd yn bwriadu cyflwyno tocynnau integredig er mwyn cael system docynnau fwy di-dor a llai cymhleth yng Nghymru.

 

Trafnidiaeth Integredig

Byddwn yn parhau i wella’r integreiddiad rhwng bysiau, rheilffyrdd a theithio llesol drwy gyfrwng llwybrau teithio llesol a siwrneiau lleol. Bydd hyn yn cynnwys gwella’r cyfleusterau parcio beiciau mewn gorsafoedd trenau a bysiau, gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar alw, a thocynnau integredig y gellir eu defnyddio ar draws gwasanaethau bysiau a threnau.

 

Prif Linell De Cymru

Mae rhaglen Prif Linell De Cymru (SWML) yn bwrw ymlaen â gwelliannau i’r llwybr fel rhan o gynllun buddsoddi hirdymor i wella gwasanaethau rheilffyrdd ar draws De Cymru, gan gynnwys gwell cysylltiadau i Dde Ddwyrain a De Orllewin Lloegr. Bydd y datblygu capasiti a gallu’r llwybr o ran gwasanaethau cludo nwyddau a theithwyr er mwyn gweithredu gwasanaethau cyflymach ac amlach.

 


Mae nifer o brosiectau Metro De Cymru wedi cael eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.