Bydd y Metro yn creu cyfleoedd i bawb yng Ngogledd Cymru

Ein nod yw trawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd, bysiau a cherdded a beicio ar draws gogledd Cymru. Rydyn ni eisiau ei gwneud hi’n haws ac yn gyflymach teithio ledled y rhanbarth a chreu cysylltiadau gwell â gogledd-orllewin Lloegr. Bydd hyn yn helpu i greu mwy o gyfleoedd i’n cymunedau a chefnogi mewnfuddsoddi yn yr ardal.

Mae daearyddiaeth Gogledd Cymru wedi dylanwadu ar deithio yn y rhanbarth. Ceir cymysgedd o ardaloedd trefol a gwledig, gan gynnwys ardaloedd mynyddig, yn enwedig ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae ymchwil yn dangos bod y boblogaeth wedi’i chrynhoi yn ardaloedd arfordirol y gogledd-ddwyrain a’r gogledd, lle mae’r rhan fwyaf o siwrneiau ceir yn rhai byr o fewn yr un ardal neu ardal gyfagos. Dyna pam rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’n partneriaid i wella trafnidiaeth gyhoeddus a dewisiadau cerdded a beicio. Bydd yn ein helpu i annog dewisiadau teithio amgen a chynaliadwy.

 

  • Pa welliannau allwch chi ddisgwyl eu gweld?
    • Rydyn ni’n cyflwyno ffyrdd mwy modern, effeithlon a chynaliadwy o deithio. Dyma sydd eisoes ar y gweill:

      • Ym mis Mai 2019, fe wnaethon ni lansio ein gwasanaeth newydd rhwng Lerpwl a Wrecsam drwy Halton Curve, gan wella’r cysylltiadau rhwng Lerpwl a Gogledd Cymru.  

      • Yn 2023, ein nod yw cynyddu nifer y gwasanaethau ar Lein y Gororau rhwng Wrecsam a Bidston i ddau bob awr. Bydd hyn yn cynnwys un gwasanaeth sy’n stopio ym mhob gorsaf ac un gwasanaeth cyflym.

  • Beth fydd yn digwydd yn 2024 a thu hwnt?
      • Rydyn ni’n gweithio ar ddarparu gwasanaeth newydd bob awr rhwng Lerpwl a Llandudno, ac ymestyn y gwasanaeth presennol rhwng Llandudno a Maes Awyr Manceinion i gynnwys Bangor.

      • Rydyn ni am ddarparu gwasanaeth newydd bob dwy awr rhwng Lerpwl a Chaerdydd, gyda gwasanaeth bob awr rhwng Amwythig a Lerpwl.

 

Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru

Mae Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn cynghori ac yn argymell atebion ar gyfer system drafnidiaeth well yng ngogledd Cymru. Mae cylch gwaith y Comisiwn yn cynnwys ardaloedd awdurdodau lleol Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’n cael ei gefnogi gan Ysgrifenyddiaeth Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae’r Comisiwn yn defnyddio ffordd sy’n cwmpasu sawl dull teithio, gan edrych ar Ogledd Cymru i gyd i ystyried sut y gellir llwyddo i newid dulliau teithio mewn ardaloedd trefol a gwledig. Mae’r Comisiwn yn ystyried ymyriadau yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir er mwyn newid i ddulliau mwy cynaliadwy o deithio a chludo nwyddau. Y nod yw y bydd y gwelliannau hyn yn cynnig dewisiadau ymarferol yn lle ceir preifat drwy system drafnidiaeth sy’n gwneud bywyd yn well i bawb yn y rhanbarth - mewn ardaloedd trefol a gwledig - ac sy’n cefnogi taith y rhanbarth tuag at sero net.

 

Lee Robinson
Lee Robinson

“Dros y blynyddoedd nesaf, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gwella ac yn ehangu’r rhwydwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru wrth i ni gydweithio â phartneriaid i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o greu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ar gyfer Cymru gyfan. Bydd ein cynlluniau ar gyfer Gogledd Cymru yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau bod y rhwydwaith yn diwallu anghenion lleol a rhanbarthol.”

Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu TrC ar gyfer y Canolbarth, y Gogledd a Chymru Wledig