Saif Llanelli wrth aber yr afon Llwchwr yn Ne Cymru. Yn cael ei lochesu gan Fae Caerfyrddin, mae’n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, gydag ymwelwyr yn cyrraedd i brofi ei letygarwch enwog, neu i'w ddefnyddio fel man cychwyn wrth archwilio gweddill De Cymru.

Gydag Abertawe a Chaerfyrddin gerllaw, a chysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd gwych, mae digon o bethau i’w gwneud yn Llanelli a’r cyffiniau, p’un ai ydych ar wyliau gyda’r plant, yn cymryd gwyliau penwythnos, neu’n cael diwrnod allan.

Llanelli

 

1. Rygbi Scarlets Llanelli

Mae'n bur debyg mai Llanelli yw tref rygbi enwocaf Cymru. Mae’n ganolbwynt i un o’r clybiau rygbi gyda’r gefnogaeth fwyaf angerddol yn y byd, y Scarlets. Dewch i Barc y Scarlets i brofi treftadaeth rygbi gyfoethog a dihafal yr ardal hon a chlywed lleisiau canu godidog y dorf.

 

2. Parc Arfordirol y Mileniwm

Mae’r arfordir ar hyd glan ogleddol Aber Llwchwr wedi’i drawsnewid yn amrywiaeth unigryw o atyniadau twristiaeth, cynefinoedd bywyd gwyllt a chyfleusterau hamdden. Wrth galon Parc Arfordirol y Mileniwm mae’r Ganolfan Ddarganfod lle mae caffi Flanagan’s yn dod â blas o’r Riviera i’r parc. Mae’n lle gwych ar gyfer beicio a cherdded.

 

3. Canolfan Gwlyptir Llanelli

Yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli gall ymwelwyr brofi amrywiaeth o gynefinoedd, gan gynnwys morlynnoedd a llynnoedd, gwelyau cyrs a choetir, gan wneud y 450 erw yn hafan i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Gellir gweld dros 50,000 o adar, rhai ymfudol a rhai preswyl, gyda llawer ohonynt yn brin neu mewn perygl; o adar y bwn yn cuddio yn y cyrs, crymanbigau du a'r pum rhywogaeth o dylluanod brodorol, i weilch glas, barcutiaid coch a gweilch Marthin. Mae anifeiliaid, hefyd, fel morloi, dyfrgwn a’r ystlumod lleiaf soprano prin yn cael eu gweld yn aml gan ymwelwyr llawn cyffro. Gyda rhaglen o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio i’ch addysgu tra'n cael eich diddanu, mae'r Ganolfan Gwlyptir yn llawn hwyl i'r teulu cyfan.